Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiadau

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) yn darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n ymgymryd â chwrs addysg uwch dynodedig. 

Daeth Rheoliadau 2023 i rym ym mis Rhagfyr 2023:

Aelodau o deuluoedd gwladolion o Wcráin

Mae diwygiad wedi cael ei wneud i alluogi aelodau o deuluoedd y rhai y rhoddwyd caniatâd iddynt aros o dan Gynlluniau Wcráin gael eu hystyried yn fyfyrwyr cymwys at ddibenion cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru, statws ffioedd cartref a'r cap ar ffioedd dysgu. Gall aelod o'r teulu gynnwys:

  • priod neu bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros o dan un o Gynlluniau Wcráin a oedd yn briod neu'n bartner sifil ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros
  • plentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros o dan un o Gynlluniau Wcráin neu blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros o dan un o Gynlluniau Wcráin a oedd yn blentyn/llys-blentyn o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros.

Bydd y diwygiad yn gymwys i flwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau.

Personau sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinasyddion perthnasol o Affganistan

Mae diwygiad wedi cael ei wneud i wneud mân gywiriadau i'r diffiniad o berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan yn sgil newidiadau i'r rheolau mewnfudo yn Rheoliadau Addysg (Sefydliad Prifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014. 

Bydd y diwygiad yn weithredol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym.

Aelodau o deuluoedd dinasyddion perthnasol o Affganistan

Mae diwygiad wedi cael ei wneud i wneud darpariaeth ychwanegol i aelodau o deuluoedd (priod, partner sifil, plentyn dibynnol neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil) personau y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig o dan baragraff 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid y rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 6.2 o'r Atodiad hwnnw. 

Bydd y diwygiad yn berthnasol i flwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau.

Terfynu cymhwystra rhai myfyrwyr ôl-raddedig

Mae diwygiad wedi cael ei wneud i Reoliadau Addysg (Benthyciadau Gradd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 ("Rheoliadau 2018") a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 ("Rheoliadau 2019") fel na fydd myfyrwyr mewn categorïau sy'n seiliedig ar warchod y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben yn gymwys ar gyfer cymorth mwyach. Ni chaiff cymhwystra ei derfynu i'r rhai sy'n sicrhau unrhyw fath arall o ganiatâd i aros, hyd yn oed os na fyddai hyn fel arall yn rhoi cymhwystra. Mae hyn yn cyd-fynd â'r polisi a weithredir ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Mae diwygiad wedi cael ei wneud i Reoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 fel na fydd myfyrwyr â hawliau gwarchodedig y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddynt ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio, ac y mae cyfnod eu caniatâd wedi dod i ben, yn gymwys ar gyfer cymorth mwyach. Bydd y polisi yn cyd-fynd â'r polisi ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Bydd y diwygiadau'n berthnasol i gwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 ac felly byddant yn berthnasol i fyfyrwyr newydd yn unig.

Cynnydd yn y benthyciad cynhaliaeth i fyfyrwyr llawn amser sy'n gymwys i wneud cais am fwrsariaeth y GIG

Mae diwygiad wedi cael ei wneud a fydd yn galluogi myfyrwyr llawnamser sy'n gymwys i wneud cais am fwrsariaeth y GIG i ddod yn gymwys ar gyfer y gyfradd uchaf o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae hyn yn gynnydd sylweddol yn y cymorth i fyfyrwyr o Gymru sy'n cael eu hariannu gan y GIG sy'n dilyn cyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth a gofal iechyd eraill. Mae hyn yn cyd-fynd â chyhoeddiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am Fwrsariaeth y GIG yng Nghymru.

Bydd y diwygiad yn berthnasol i flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig

Mae diwygiad wedi cael ei wneud a fydd yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs er mwyn bod yn gymwys i gael Grant ar gyfer Dibynyddion. Caiff esemptiadau eu gwneud i sicrhau cysondeb â darpariaethau tebyg mewn mannau eraill yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys pan fo'r myfyriwr neu berthynas agos yn aelodau o'r lluoedd arfog ac nad ydynt yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Yn yr achosion hyn, byddant yn parhau i fod yn gymwys i gael Grant ar gyfer Dibynyddion, sef ein polisi ers peth amser.

Bydd y diwygiad yn gymwys i gwrs dysgu o bell dynodedig sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr newydd yn unig.