Neidio i'r prif gynnwy

Mae diwygiadau nodedig a fydd yn rhoi hwb i ailgylchu, mynd i'r afael â llygredd plastig a lleihau sbwriel wedi cymryd cam ymlaen heddiw (dydd Mercher 24 Mawrth) wrth i weinidogion o bob rhan o’r DU ddatgelu eu cynigion diweddaraf ar gyfer gweddnewid y sector gwastraff ac adnoddau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • newidiadau i drawsnewid y sector gwastraff ac adnoddau yn symud gam yn nes
  • bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn rhoi hwb i ailgylchu biliynau o gynwysyddion diodydd untro a chynyddu’r frwydr yn erbyn llygredd plastig
  • drwy bwerau newydd, bydd cwmnïau’n talu costau llawn rheoli eu gwastraff deunydd pacio i gymell mwy o ddeunydd pacio y gellir ei ailgylchu

Gallai pwerau ym Mil Amgylchedd nodedig y Llywodraeth gael eu defnyddio i wneud gweithgynhyrchwyr yn fwy cyfrifol am y pecynnau maent yn eu cynhyrchu a chymell defnyddwyr i ailgylchu mwy.     

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd: bydd defnyddwyr yn cael eu cymell i fynd â’u cynwysyddion diodydd gwag i fannau dychwelyd gan fanwerthwyr. Bob blwyddyn ledled y DU, mae defnyddwyr yn mynd drwy tua 14 biliwn o boteli diodydd plastig, naw biliwn o ganiau diodydd a phum biliwn o boteli gwydr. Byddai’r cynllun yn cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda chynllun ar wahân yn cael ei ddatblygu eisoes yn yr Alban.  
  • Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pacio: bydd gweithgynhyrchwyr yn talu costau llawn rheoli ac ailgylchu eu gwastraff deunydd pacio, gyda ffioedd uwch yn cael eu codi os yw’r deunydd pacio’n anos ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Yn 2019, rhoddwyd tua 11.7 miliwn tunnell o ddeunydd pacio ar farchnad y DU. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu ledled y DU.

Bydd y trydydd o'n prif ddiwygiadau yn arwain at gyflwyno casgliadau ailgylchu cyson ar gyfer pob cartref a busnes yn Lloegr. Bydd hwn hefyd yn destun ymgynghoriad cyn bo hir

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice:

Drwy ein Bil Amgylchedd blaengar ar lefel byd rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn delio gyda gwastraff.

Mae mynd i'r afael â llygredd plastig wrth wraidd ein hymdrechion, ac rydym eisoes wedi cymryd camau i wahardd microleiniau, lleihau gwerthiant archfarchnadoedd o fagiau plastig untro 95%, a gwahardd cyflenwi gwellt a ffyn troi plastig a bydiau cotwm.  

Bydd y newidiadau newydd hyn yn sicrhau ymhellach bod mwy o'r hyn rydym yn ei ddefnyddio’n cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio. Byddant yn ysgogi creu dewisiadau amgen yn lle plastig untro ac yn sefydlu rheolau cyson i helpu pobl i ailgylchu'n haws ledled y wlad.

Gyda'i gilydd bydd y camau gweithredu hyn yn helpu'r DU i aildeiladu'n well ac yn wyrddach wedi'r pandemig, ac yn rhoi hwb i'n harweinyddiaeth fyd-eang wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd plastig, wrth i ni gynnal uwchgynhadledd hinsawdd fawr COP26 eleni, ac fel Llywydd y G7 a rhanddeiliad allweddol yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig yr hydref hwn (CBD COP15).

Mae'r newidiadau i ddeunydd pacio’n cael eu datblygu ledled y DU, tra bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cynllun ar wahân ar droed eisoes yn yr Alban, a bydd y gweinyddiaethau'n gweithio i sicrhau bod y cynlluniau’n ategu ei gilydd.

Dywedodd Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd yr Alban:  

Yn yr Alban, rydym wedi ymrwymo i drosglwyddo tuag at gymdeithas sero net erbyn 2045 a mynd i'r afael â'n diwylliant o daflu. 

Rydym wedi arwain y ffordd yn gyson wrth adeiladu economi fwy cylchol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer caniau a photeli diodydd untro, yn ogystal â gwahardd bydiau cotwm gyda choesau plastig.  

Ond mae'n rhaid i ni hefyd fynd i'r afael â chynhyrchu deunyddiau yn y ffynhonnell. Bydd y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn helpu i annog dylunio mwy cynaliadwy ar ddeunydd pacio, hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr fod yn rhan o'r ateb i ddelio â deunyddiau ar ddiwedd eu hoes. 

Mae'r cyfan yn rhan o economi wirioneddol gylchol, un sy'n cynnig cyfleoedd economaidd enfawr i'r Alban ac a fydd yn helpu i sicrhau ein hadferiad gwyrdd o bandemig COVID-19.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Rwy'n falch iawn o symud i gylch nesaf ein hymgynghoriadau ar y cyd ar y cynllun a ffafrir ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, a chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am wastraff deunydd pacio.

Mae'r cynlluniau'n hanfodol i'n hymdrechion i leihau gwastraff, cynyddu ailgylchu a mynd i'r afael â llygredd plastig a sbwriel. Fel y nodwyd yn ein strategaeth Mwy nag Ailgylchu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, maent yn ymrwymiadau allweddol sy'n cefnogi ein symudiad i Economi Gylchol, fel rhan o'n nod o fod yn genedl ddiwastraff a digarbon erbyn 2050.

Rwy'n croesawu barn yr holl randdeiliaid ar ein cynigion, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr ymatebwyr unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau.

Dywedodd Edwin Poots, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon:

Gyda ffigwr dychrynllyd o 1.3 miliwn o eitemau o sbwriel ar y strydoedd yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw un adeg - bron i hanner ohonynt yn sbwriel deunydd pacio, gan gynnwys caniau diodydd, poteli plastig, deunydd lapio melysion a chreision - mae angen i ni symud nawr i fynd i'r afael â'r broblem hon, "

Mae'r ymgynghoriad ar gynllun dychwelyd ernes yn adeiladu ar gefnogaeth ysgubol gan y cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon i fenter o'r fath, a byddai cynllun wedi'i gynllunio'n dda yn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddychwelyd cynwysyddion diodydd i'w hailgylchu a lleihau sbwriel. Gall hefyd greu ffrydiau ailgylchu gwerth uchel, heb eu llygru a ddylai fod o fantais i gynhyrchwyr y DU a chymell buddsoddiad yn y sector.

Byddai Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn rhoi’r cyfrifoldeb llawn i gynhyrchwyr deunydd pacio ac yn newid mewn costau i gynhyrchwyr o tua £35 miliwn y flwyddyn - arbediad sylweddol i bwrs cyhoeddus Gogledd Iwerddon. Bydd ffioedd wedi'u modiwleiddio’n cael eu cynllunio i wobrwyo cynhyrchwyr sy'n defnyddio deunydd pacio hawdd ei ailgylchu ac i gosbi cynhyrchwyr sy'n defnyddio deunydd pacio anodd ei ailgylchu.