Mae Julie James a Rebecca Evans wedi dweud eu barn am yr effaith ddinistriol mae polisïau diwygio treth a lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl fregus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei ganfyddiadau yn ddiweddar ar effaith gynyddol bosibl diwygiadau treth a lles arfaethedig ac ar waith Llywodraeth y DU ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol.

Mae’r adroddiad yn dadansoddi newidiadau polisi a wnaed rhwng mis Mai 2010 a mis Ionawr 2018, a fydd wedi’u gweithredu erbyn y flwyddyn ariannol 2021-22. Mae’n canfod y bydd bron hanner holl aelwydydd Cymru ar eu colled oherwydd y diwygiadau, ac y bydd yr effaith fwyaf yn cael ei theimlo gan bobl ar yr incwm isaf.  

Mae effaith negyddol anghymesur hefyd ar incwm nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, grwpiau ethnig penodol, a menywod.

Yn benodol, mae’r adroddiad yn canfod ar draws Prydain Fawr y bydd:

  • aelwydydd gydag o leiaf un oedolyn anabl a phlentyn anabl yn colli dros £6,500 y flwyddyn, dros 13% o’u hincwm blynyddol;
  • unig riant yn colli £5,250 y flwyddyn ar gyfartaledd, bron un rhan o bump o’u hincwm blynyddol;
  • menywod yn colli tua £400 y flwyddyn ar gyfartaledd, tra bydd dynion ond yn colli £30.

Mewn llythyr ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gyda’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies, mae Rebecca Evans a Julie James, sydd â chyfrifoldeb y Cabinet dros Gydraddoldebau, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei pholisïau diwygio treth a lles, oherwydd yr effeithiau ariannol negyddol y byddant yn eu cael ar y rhai mwyaf difreintiedig.

Dywedodd Julie James:

“Ni all fod yn iawn i incwm grwpiau gwarchodedig gael ei effeithio mewn ffordd anghymesur o’r fath.  

“Rydym wedi galw am weithredu brys ynglŷn â’r newidiadau niweidiol hyn. Mae’n hanfodol bod gwaith sylweddol nawr yn cael ei wneud i sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn llwyr ym mhob penderfyniad gan Drysorlys ei Mawrhydi, ac yn ehangach ar draws Llywodraeth y DU. Mae’n gwbl annerbyniol i Lywodraeth y DU barhau i anwybyddu effeithiau’r diwygiadau hyn ar gyfle cyfartal.” 

Dywedodd Rebecca Evans:

“Rwyf wedi bod yn gwthio’r materion hyn gyda’m cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ers sawl mis bellach ac wedi ei gwneud yn gwbl glir ar sawl achlysur y bydd y diwygiadau hyn yn arwain at galedi dwys i lawer o’n dinasyddion mwyaf bregus. Ategaf bryderon yr EHRC sy’n galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei pholisïau ac i adolygu lefel y budd-daliadau lles i sicrhau eu bod yn darparu safon byw ddigonol ar gyfer y sawl sy’n eu derbyn.”

Mae’r effeithiau negyddol hyn yn deillio i raddau helaeth o’r newidiadau i’r system fudd-daliadau, yn enwedig rhewi cyfraddau budd-daliadau oedran gweithio, newidiadau i fudd-daliadau anabledd a gostyngiadau yng nghyfraddau Credyd Cynhwysol.