Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Rhagfyr 2024.

Cyfnod ymgynghori:
12 Tachwedd 2024 i 23 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion ac ymateb y Llywodraeth bellach ar gael [DEFRA.GOV]. Derbynom 1,526 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd a'r Senedd DU, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r diwygiadau rheoleiddiol arfaethedig ar gyfer y 3 Phrif Ddiwygiad a’r 9 Diwygiadau Technegol a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig a diwygiadau technegol i Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn am:

  • Dileu Dad-ddynodi Awtomatig ar ôl pum dosbarthiad ‘gwael’ yn olynol.
  • Diweddariadau i feini prawf dynodi safleoedd ymdrochi
  • Dileu dyddiadau penodol ar gyfer y tymor ymdrochi

Rydym hefyd angen eich barn ar ddiwygiadau technegol arfaethedig, yn ogystal â diwygiadau posibl yn y dyfodol ar y canlynol:

  • y diffiniad o ‘ymdrochwyr’
  • cyflwyno pwyntiau monitro lluosog mewn safleoedd ymdrochi

Gall Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru ymateb yn wahanol i ganlyniadau’r ymgynghoriad.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA.GOV.UK