Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn disgrifio newidiadau i gymhwystra o fewn deddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais domestig, a phartneriaid sydd wedi cael profedigaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig neu drais domestig, a phartneriaid sydd wedi cael profedigaeth, sydd wedi cael caniatâd i fod yn y DU gan Lywodraeth y DU o dan amrywiol ddarpariaethau yn y Rheolau Mewnfudo, yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd (hy er mwyn i statws ffioedd cartref a ffioedd dysgu wedi'u capio fod yn gymwys). Mae plentyn person o'r fath hefyd yn gymwys. Mae'r unigolion hyn yn cael triniaeth arbennig o dan y Rheolau Mewnfudo i gydnabod y ffaith y gallent ei chael hi'n anodd dangos eu bod yn gymwys i gael caniatâd i fod yn y DU.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwneud newidiadau i'w Rheolau Mewnfudo i gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a phartneriaid sydd wedi cael profedigaeth mewn 2 atodiad ar wahân newydd. Mae deddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd Cymru yn cyfeirio'n benodol at y Rheolau Mewnfudo fel bod person sy'n dod o dan ddarpariaethau penodol yn gymwys. 

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 ("Rheoliadau 2024") yn gwneud diwygiadau i'r rheoliadau presennol i adlewyrchu'r newidiadau hyn i'r Rheolau Mewnfudo. 

Bydd Rheoliadau 2024 yn dod i rym ar 9 Awst 2024.

Cymhwystra dioddefwyr cam-drin domestig a thrais domestig

Gwnaed diwygiad i gynnwys y rhai sydd wedi cael caniatâd o dan yr Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig newydd yn y Rheolau Mewnfudo i fod yn gymwys i gael cymorth myfyrwyr a diogelu ffioedd.

Mae'r diwygiad hwn hefyd yn estyn cymhwystra i'r rhai sydd â chaniatâd i ddod i mewn. Mae'r Rheolau Mewnfudo wedi'u hehangu er mwyn i'r rhai sydd wedi dioddef cefnu ar briodas drawswladol (math o gam-drin domestig lle mae'r person sy'n cam-drin yn cefnu ar ei bartner dramor a'i ganiatâd i aros yn y DU yn dod i ben a/neu ei fod yn cael ei adael heb fynediad at ei basbort na'i ddogfennau mewnfudo, gan ei atal rhag dychwelyd i'r DU) gael llwybr tuag at gliriad i ddod i mewn i breswylio yn y DU.

Mae'r cyfeiriadau presennol at y Rheolau Mewnfudo o fewn deddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd wedi'u cadw. Bydd y rhai a gafodd ganiatâd cyn i'r Atodiad newydd ddod i rym yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd. 

Bydd y diwygiad yn weithredol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y rhai sy’n cael caniatâd o dan yr Atodiad newydd yn gymwys i wneud cais am gymorth ar gyfer cyrsiau addysg uwch a gychwynnodd mewn blynyddoedd academaidd a ddechreuodd ar 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf 2024, neu sydd i fod i gychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Cymhwystra partneriaid sydd wedi cael profedigaeth

Gwnaed diwygiad i gynnwys y rhai sydd wedi cael caniatâd o dan yr Atodiad Partneriaid sydd wedi cael Profedigaeth newydd yn y Rheolau Mewnfudo i fod yn gymwys i gael cymorth myfyrwyr a diogelu ffioedd.

Mae'r diwygiad hwn hefyd yn estyn cymhwystra i'r rhai sydd â chaniatâd i ddod i mewn. Mae'r Rheolau Mewnfudo wedi'u hehangu i ddarparu ar gyfer partner (tramor) personél yn y lluoedd arfog, sydd wedi cael profedigaeth, ac sydd â llwybr tuag at gliriad i ddod i mewn i breswylio yn y DU.

Mae'r cyfeiriadau presennol at y Rheolau Mewnfudo o fewn deddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd wedi'u cadw. Bydd y rhai a gafodd ganiatâd cyn i'r Atodiad newydd ddod i rym yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd. 

Bydd y diwygiad yn weithredol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y rhai sy’n cael caniatâd o dan yr Atodiad newydd yn gymwys i wneud cais am gymorth ar gyfer cyrsiau addysg uwch a gychwynnodd mewn blynyddoedd academaidd a ddechreuodd ar 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf 2024, neu sydd i fod i gychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, cysylltwch ag Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru drwy e-bostio: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.