Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 010/2020 Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2020
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Cyhoeddi cyfrolau diwygiedig o Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) cyfrol 1 a 2 gan gynnwys newidiadau i Atodiad A ‘Asesu yn lle profion’ a cyfrol diwygiedig o Reoliad 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith).
Cyhoeddwyd gan: Francois Samuel: Pennaeth Rheoliadau Adeiladu
Cyfeiriwyd at: Anfonwch ymlaen at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

Cyngor y Diwydiant Adeiladu

Fforwm Personau Cymwys

Swyddogion Rheoli Adeiladu'r Awdurdodau Lleol

 Aelodau’r Senedd
Crynodeb:
Diben y llythyr hwn yw tynnu eich sylw at gyhoeddi Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân), cyfrol 1: Tai annedd – cyfrol 2020 yn cynnwys diwygiadau i Atodiad A mewn perthynas ag asesu yn lle profion a Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) cyfrol 2: Adeiladau heblaw am dai annedd – cyfrol 2020 yn cynnwys diwygiadau i Atodiad A mewn perthynas ag asesu yn lle profion. A hefyd fersiwn ddiwygiedig o Ddogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) – cyfrol 2020.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Colin Blick

Rheoliadau Adeiladu

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Merthyr Tudful

CF48 1UZ

Llinell Uniongyrchol:

 
0300 062 8144
E-bost:
 
enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:

 
https://llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Deddf Adeiladu 1984

Rheoliadau Adeiladu 2010

Diwygiadau i Ddogfennau Cymeradwy

Cyflwyniad

1.      Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i mi dynnu eich sylw at y cyhoeddiadau canlynol: Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân), Cyfrol 1: Tai annedd argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2016 a 2020, Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrol 2: Adeiladau ac eithrio tai annedd argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2013, 2016, 2017 a 2020 a Dogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) argraffiad 2013 sy'n ymgorffori diwygiadau 2020.

2.      Dim ond i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru y mae'r newidiadau a wnaed i'r Dogfennau Cymeradwy yn gymwys. 

3.      Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at y canlynol:

i.   Diwygiadau i Atodiad A (Perfformiad deunyddiau, cynhyrchion a strwythurau) i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrolau 1 a 2. Mae'r Ddogfen Gymeradwy wedi'i diwygio i atgyfnerthu'r darpariaethau ar gyfer cynnal asesiadau yn lle profion tân.

ii. Ymgorffori cynnwys y slip diwygio a nodwyd yng nghylchlythyr WGC 003/2020 ar gyfer Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 1 Tai annedd, Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 2 Adeiladau ac eithrio tai annedd a Dogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith). WGC 003/2020

iii. Ymgorffori cynnwys y slip diwygio a nodwyd yng nghylchlythyr WG 001/2017 mewn perthynas â Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 2 WG 001/2017

Cwmpas

4.      Mewn perthynas â 3.i. uchod, mae'r Ddogfen Gymeradwy wedi'i diwygio i atgyfnerthu'r gofynion wrth ddarparu asesiadau yn lle profion tân. Mae'r diwygiad yn nodi tair ffordd o ddangos cydymffurfiaeth.

5.      Roedd y ddarpariaeth flaenorol yn rhestru nifer o ffyrdd o ddangos perfformiad, er enghraifft cyfeirio at berfformiadau enwol fel Eurocode, BR 128. Mae'r ddarpariaeth ddiwygiedig wedi cyffredinoli'r methodolegau profi, a chaiff llwybrau penodol a nodwyd yn flaenorol eu cwmpasu o fewn y tri llwybr cydymffurfio diwygiedig.

6.      Er bod llwybrau cydymffurfio presennol yn gymwys o hyd, mae'r diwygiadau i'r Ddogfen Gymeradwy yn sicrhau na ddylid ystyried asesiadau yn ffordd o osgoi prawf os oes angen un.

7.      Mae 3.ii. a 3.iii. uchod yn diweddaru'r Dogfennau Cymeradwy i gynnwys newidiadau blaenorol a wnaed i Ddogfen Gymeradwy B Cyfrolau 1 a 2 a Dogfen Gymeradwy 7 drwy gyhoeddi slipiau diwygio.

Cymhwyso'r dogfennau cymeradwy

8.      Daw'r Dogfennau Cymeradwy diwygiedig i rym ar 31 Rhagfyr 2020 yn yr amgylchiadau a nodir yn yr hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth yn ATODIAD A i'r Cylchlythyr hwn.

9.      Caiff cymeradwyaeth ei thynnu'n ôl ar gyfer Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrol 1: Tai annedd argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010 a 2016, Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 2: Adeiladau ac eithrio tai annedd argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2013 a 2016 a Dogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) argraffiad 2013 ar 31 Rhagfyr 2020 fel y nodir yn ATODIAD B i'r cylchlythyr hwn.

Trefniadau trosiannol

10.    Ymhellach i Adran 6 (3) (b) o Ddeddf Adeiladu 1984, mewn perthynas â 3.i. uchod, daw diwygiadau i Atodiad A (Perfformiad deunyddiau, cynhyrchion a strwythurau) i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 1 a 2 i rym ar 31 Rhagfyr 2020. Nid yw'r diwygiadau yn gymwys sut bynnag lle mae hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu gynlluniau llawn wedi cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol cyn 31 Rhagfyr 2020.

11.       Yn unol ag adrannau 6(3) a (4) o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo'r diwygiadau ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.

12.    Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 oherwydd eir i'r afael â'r materion hyn drwy ddiwygio'r Dogfennau Cymeradwy.

Ymholiadau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Francois Samuel, Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Ffôn: 03000 628232.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Francois Samuel

Pennaeth Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad o gymeradwyaeth i ddiwygio dogfennau sy'n rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r dogfennau a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2020 ac eithrio mewn perthynas â gwaith a ddechreuwyd cyn y dyddiad hwnnw neu waith y mae hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu gynlluniau llawn wedi'u rhoi mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad hwnnw.
Dogfennau Cymeradwy

Gofynion y Rheoliadau Adeiladu y cymeradwyir y ddogfen ar eu cyfer

Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 1 Tai annedd (argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2016 a 2020)  

Rhan B, Atodlen 1

31 Rhagfyr 2020
Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 2 Adeiladau ac eithrio tai annedd (argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2013, 2016, 2017 a 2020)  

Rhan B, Atodlen 1

31 Rhagfyr 2020 
Dogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) argraffiad 2013 sy'n ymgorffori diwygiadau 2020 Rheoliad 7

31 Rhagfyr 2020

Noder: Daeth y newidiadau yng nghylchlythyr WGC 003/2020 i rym ar 13 Ionawr 2020

Atodiad B

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad ynghylch tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer dogefnnau sy'n rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 ei fod, wrth arfer y pwerau o dan adran 66(5), wedi tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer y dogfennau a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010.

Caiff y gymeradwyaeth ei thynnu'n ôl ar 31 Rhagfyr 2020 ac eithrio mewn perthynas â gwaith a ddechreuwyd cyn y dyddiad hwnnw neu waith y mae hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu gynlluniau llawn wedi'u rhoi mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad hwnnw.

Dogfennau Cymeradwy

Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 1 Tai annedd (argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010 a 2016)

Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch tân) Cyfrol 2 Adeiladau ac eithrio tai annedd (argraffiad 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2013 a 2016)

Dogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) argraffiad 2013