Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 006/2024

Dyddiad cyhoeddi:    14/05/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl: Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L1 a chyhoeddi dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer Dogfen Gymeradwy O

Cyhoeddwyd gan:  Paul Keepins, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu 

Ar gyfer:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Cyhoeddi diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L Cyfrol 1 (Anheddau) rhifyn 2022, a chyhoeddi  dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer Dogfen Gymeradwy O (Gorgynhesu) rhifyn 2022.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Llawr
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cylchlythyr

Deddf Adeiladu 1984

Rheoliadau Adeiladu 2010

Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L Cyfrol 1 - Anheddau (Arbed Tanwydd ac Ynni) rhifyn 2022.

Cyhoeddi dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer Dogfen Gymeradwy O (Gorgynhesu) rhifyn 2022. 

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at gyhoeddi diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L Cyfrol 1 2022, a chyhoeddi dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer Dogfen Gymeradwy O (rhifyn 2022).
     
  2. Daw'r Dogfennau Cymeradwy diwygiedig i rym ar 31 Mai 2024 yn yr amgylchiadau a nodir yn yr hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth yn Atodiad [A] i'r Cylchlythyr hwn.
     
  3. Diben y Cylchlythyr hwn yw gwneud y canlynol:
  • cyhoeddi y newidiadau i Ddogfen Gymeradwy L Cyfrol 1 (Anheddau) rhifyn 2022
  • tynnu sylw at ddarpariaethau trosiannol ar gyfer y newidiadau uchod
  • tynnu sylw at y ddogfen cwestiynau cyffredin newydd ar gyfer Dogfen Gymeradwy O (Gorgynhesu) rhifyn 2022.
  1. Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Cwmpas

  1. Mae'r canllawiau yn y Cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L cyfrol 1 rhifyn 2022

  1. Mae'r Dogfennau Cymeradwy yn darparu canllawiau statudol ar gymhwyso a chydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Mae slip diwygio, “Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L”, yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â'r Cylchlythyr hwn ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r slip diwygio yn cywiro camgymeriadau sydd wedi'u nodi ers cyhoeddi'r ddogfen gymeradwy (corrigenda).

Y trefniadau pontio

  1. Daw'r diwygiadau i'r ddogfen gymeradwy i rym ar 31 Mai 2024.

    Nid yw'r diwygiadau'n gymwys mewn unrhyw achos lle y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol, neu os oes cynlluniau llawn wedi'i hadneuo gyda hwy, a bod y  gwaith adeiladu y maent yn gysylltiedig a hwy naill ai:

    (a) wedi dechrau cyn y diwrnod hwnnw; neu

    (b)   yn dechrau o fewn y cyfnod o chwech mis sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw. 

Dogfennau Cymeradwy

  1. Mae Atodiad A i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad Cymeradwyo ar gyfer y diwygiadau i'r Ddogfen Gymeradwy.

Dogfen Gymeradwy O (Gorgynhesu) rhifyn 2022 - Cwestiynau Cyffredin

  1. Daeth Dogfen Gymeradwy O (rhifyn 2022) i rym ar 23 Tachwedd 2022, ac mae'n darparu canllawiau ar gyfer lleihau'r risg o orboethi mewn adeiladau preswyl newydd. Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin wedi'i chyhoeddi bellach ar wefan Llywodraeth Cymru, sydd ar gael ar: Canllawiau ar reoliadau adeiladu: rhan O (gorgynhesu)

Rhagor o wybodaeth

  1. Mae copiau o'r slip diwygio a'r cylchlythyr ar gael ar: https://www.llyw.cymru/rheoliadau-adeiladu 

Ymholiadau:

Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol: 

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru‌, Rhyd-y-car Merthyr Tudful, CF48 1UZ. 

E-bost  enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini 

Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Deddf Adeiladu 1984

HYSBYSIAD O GYMERADWYAETH I DDIWYGIO DOGFENNAU SY'N RHOI CANLLAWIAU YMARFEROL AR OFYNION RHEOLIADAU ADEILADU 2010

 

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig. 

 

Daw y diwygiadau i rym ar 31 Mai 2024 ac eithrio mewn perthynas â gwaith a fydd wedi dechrau cyn y dyddiad hwnnw neu mewn perthynas â gwaith y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod gwaith yn dechrau o fewn y cyfnod o chwech mis sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw. 

 

 

Dogfen Gymeradwy

Gofynion y

Rheoliadau Adeiladu

y caiff y ddogfen ei chymeradwyo

mewn perthynas â hwy

 

Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy L Cyfrol 1 - (Arbed tanwydd ac ynni) rhifyn 2022Rhan L o Atodlen 131 Mai 2024