Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Rhagfyr 2023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 212 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni eisiau eich barn ar ddiwygiadau i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 wrth dynnu’r cyfeiriad at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n ymgynghori ar a ddylid tynnu’r cyfeiriad at CCAUC a rhoi’r Comisiwn yn ei le yn y rhestr o bersonau penodedig yn Rhan 2 o Atodlen 8.
Byddai'n caniatáu i'r Comisiwn rannu data ag awdurdodau cyhoeddus eraill ar gyfer atal a chanfod twyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Byddai'r Comisiwn yn gallu, pe bai'n dewis gwneud hynny, rhannu data â gwybodaeth gan gyrff eraill y sector cyhoeddus er mwyn nodi gweithgarwch twyllodrus.
Dogfennau ymgynghori
Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) drafft 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 125 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Help a chymorth
I gael rhagor o wybodaeth:
Tîm Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol
Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DiwygioPCET@llyw.cymru neu PCETReform@gov.wales.