Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyfradd ceiniog fesul milltir y cyfraniad milltiroedd am deithio yn eich car eich hun o 24 ceiniog y filltir i’r gyfradd a argymhellir gan CThEM o 45 ceiniog y filltir i bob myfyriwr anabl cymwys sy’n gwneud hawliad lwfans teithio ac i bob myfyriwr israddedig sy’n gwneud hawliad grant teithio ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Bydd teithio ar feic modur yn parhau ar gyfradd o 24c y filltir gan fod hyn yn cyd-fynd ag argymhelliad CThEM.

Bydd y newid yn berthnasol ar gyfer pob hawliad a gyflwynir am deithio yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ac ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau.

Ni fydd modd gwneud ôl-gais am hawliadau a dderbynnir ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023 ond sy’n ymwneud â theithio mewn blwyddyn academaidd flaenorol.

Bydd y gyfradd yn cael ei hadolygu bob blwyddyn.

Ymholiadau

Gall darllenwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru neu eu swyddog cyswllt arferol yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gymhwystra. Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru ar isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.