Heddiw, fe ddisgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet a Materion Gwledig, Lesley Griffiths weledigaeth o ‘ddiwydiant bwyd môr llewyrchus, byrlymus, diogel a chynaliadwy yng Nghymru’.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o’r Wythnos Bwyd Môr, achlysur blynyddol i wneud yn fawr o’n pysgod a’n bwyd môr.
Yn ystod y digwyddiad, lansiwyd ‘Strategaeth Bwyd Môr Cymru’ a gafodd ei datblygu gan y mudiad ‘Seafish’ ar y cyd â’r diwydiant bwyd môr. Mae’n disgrifio gweledigaeth o dwf trwy arloesedd a meithrin a datblygu cyfleoedd mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae’r strategaeth yn gosod targed i gynhyrchu 30% yn fwy o fwyd môr a dyblu cynhyrchiant y sector dyframaethu erbyn 2020. Mae’n esbonio hefyd sut y gallai’r diwydiant wneud pysgotwyr yn fwy diogel.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr ei chroeso hefyd i adduned gan Wasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru i weini dim ond pysgod cynaliadwy ym mwytai’r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysbytai, heddlu a’r gwasanaeth tân, prifysgolion, colegau a safleoedd hanesyddol fel Castell Caerdydd.
Meddai Lesley Griffiths:
“Mae diwydiant bwyd môr Cymru yn wynebu sawl her, ac nid y lleiaf o’r rheini yw gadael yr UE. Ond mae yna gyfleoedd hefyd. Rwy’n hyderus y bydd y strategaeth sy’n cael ei lansio heddiw yn helpu i lywio’r sector at ddyfodol llewyrchus, byrlymus, diogel a chynaliadwy. Rwy’n diolch i’r diwydiant am gymryd yr awenau i greu’r weledigaeth a phennu’r targedau sy’n cael eu disgrifio yn y strategaeth.
“Gyda thros 75% o’n harfordir yn Ardal Cadwraeth Forol, mae’n bwyd môr yn ei hanfod yn gynaliadwy. A newyddion rhagorol yw clywed bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi llofnodi adduned i sicrhau bod yr holl bysgod a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod allan cynlluniau clir i sicrhau bod cynaliadwyedd tymor hir yn ganolog i bob un o benderfyniadau’r Cabinet. Mae manteisio ar ein grym fel prynwr i gefnogi dyfodol cynaliadwy ein cefnforoedd yn gam hynod bwysig – bydd yn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael y pleser a’r buddiannau o fwyta pysgod."
Meddai Cyfarwyddwr Cysylltiadau Corfforaethol Seafish, Mel Groundsell:
“Mae’r Wythnos Bwyd Môr yn gyfle gwych i ddangos y gorau o fwyd môr Cymru a gall wneud cyfraniad pwysig at ‘Strategaeth Bwyd Môr Cymru’ Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru.
“Llynedd, gwnaeth Wythnos Bwyd Môr helpu i greu gwerth £18m o werthiant newydd – rydyn ni’n dibynnu nawr ar fusnesau Cymru i’n helpu i ragori ar y targed hwnnw.”
Esboniodd Lesley Griffiths ei bod yn bwysig bod diwydiannau Cymru, gan gynnwys diwydiant bwyd môr Cymru, yn cael masnachu o fewn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, a sut y bydd Cymru’n ceisio datblygu marchnadoedd wrth i’r DU adael yr UE.
“Rwy’n gwybod bod cyfran fawr o fwyd môr Cymru yn cael ei allforio i wledydd eraill yr UE. Felly mae unrhyw fygythiad i’n hawl i weithredu o fewn y farchnad sengl yn fygythiad i ddiwydiant pysgota Cymru a’r busnesau cysylltiedig.
“Rwy’n sylweddoli mor bwysig felly yw diogelu’n hawl i werthu i’r farchnad bwysig hon os medrwn a chael hyd i farchnadoedd newydd y tu hwnt i ffiniau Ewrop.”