Bwrw golwg ar gyfleoedd prentisiaeth, hyfforddiant, parhau mewn addysg a chyflogaeth.
Wrth i ddiwrnod y canlyniadau agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pobl ifanc o'r llwybrau niferus sydd ar gael i'w dilyn a all arwain at yrfa lwyddiannus sy'n rhoi boddhad. Ac mae cymorth ar gael i bobl ifanc ddod o hyd i'r opsiwn gorau iddyn nhw, beth bynnag yw hynny.
Mae Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn gwybod yn iawn am hyn, gan iddo ddilyn llwybr prentisiaeth ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Cei Connah, ac ennill gradd mewn Peirianneg Ddiwydiannol drwy gael ei ryddhau o’r diwydiant i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam am ddiwrnod o astudio. Bellach mae cyfrifoldebau'r Gweinidog yn cynnwys sgiliau a phrentisiaethau, ac mae’n awyddus i sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn deall yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael, yn enwedig y rhai nad ydynt yn bwriadu aros mewn addysg.
Dywedodd Mr Sargeant:
I nifer, aros yn y byd academaidd llawn-amser yw’r llwybr gorau a mwyaf gwerthfawr i gyflawni rolau yn y dyfodol. Ond, i nifer fawr o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol, nid dyna'r opsiwn y maen nhw'n ei ffafrio, ac mae'n bell o'r realiti y maen nhw'n byw ynddi.
Gall y byd gwaith fod yn frawychus, ond i mi fel miloedd o bobl eraill ledled Cymru, mae'r gallu i ennill cyflog wrth ddysgu, neu ddilyn un o'r llwybrau niferus eraill sydd ar gael i'n pobl ifanc, yn cynnig y sbardun i yrfa lwyddiannus.
Mae fy neges i bobl ifanc sy'n aros am eu canlyniadau yn glir – mae eich doniau, eich sgiliau a'ch creadigrwydd yn hanfodol i sicrhau llwyddiant economaidd ein gwlad. Does dim angen i'ch dyheadau am y dyfodol fod yn ddibynnol ar eich canlyniadau dros y dyddiau nesaf.
Rwy am i chi deimlo'n hyderus am gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru, ac i bob un ohonoch chi, beth bynnag yw eich cefndir, weld bod gennych chi ran bwysig i'w chwarae wrth arwain diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
Ac fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i'ch paratoi chi ar gyfer swyddi heddiw ac yfory, ac i'ch helpu i ddatblygu sgiliau mewn sectorau sy'n datblygu'n gyflym, fel technolegau sero net, digidol ac AI.
Felly, pan fyddwch chi'n cael eich canlyniadau yr haf hwn, siaradwch â'ch cynghorydd gyrfaoedd, ac â staff eich ysgol neu goleg am eich opsiynau, siaradwch â busnesau lleol mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi, a dewch o hyd i'r cymorth sy'n eich galluogi chi i edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous. Pob lwc!
Mae Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wrth wraidd ymrwymiad i gefnogi anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.
Mae'n dwyn ynghyd gwahanol raglenni sydd wedi'u cynllunio i ddarparu'r cymorth iawn ar yr adeg iawn, p'un a yw person ifanc yn edrych i wella ei sgiliau, dechrau busnes, dod o hyd i waith neu barhau mewn addysg. Un o'r opsiynau amlwg yw'r cyfle i fod yn brentis. Mae prentisiaethau'n cynnig ffordd wych o ennill profiad ymarferol wrth ennill cyflog, ac mae amrywiaeth o opsiynau ar draws 23 o ddiwydiannau. Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig hyfforddiant wedi'i deilwra i'r rhai sy'n dechrau meddwl am eu gyrfaoedd, ac ar lefel uwch i unigolion sydd â syniad cliriach o'u llwybr gyrfa, gan gynnwys cyflogaeth i'r rhai sy'n barod i ymuno â'r gweithlu ar unwaith. Mae'r llwybrau hyn a ariennir yn sicrhau y gall pob person ifanc ddod o hyd i lwybr sy'n gweddu i'w dyheadau presennol a rhai'r dyfodol.
Yn ogystal, mae cymorth ymarferol ar gael i'r rhai sy'n awyddus i ddechrau ennill cyflog ar unwaith, gan helpu pobl ifanc i gael cyflogaeth a dechrau datblygu eu gyrfaoedd ar unwaith. Ac i'r entrepreneuriaid ifanc hynny sy'n ystyried dod yn fos arnyn nhw eu hunain, mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymorth a gwybodaeth ddefnyddiol ar ddechrau busnes.
Mae Cymru'n Gweithio, gwasanaeth a ddarperir gan Gyrfa Cymru, ar gael i helpu unrhyw un a allai fod angen cymorth ar ôl cael eu canlyniadau yr haf hwn. Gall ein cynghorwyr gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol a diduedd am ddim i helpu pobl ifanc i gael dewis llwybrau nad ydynt efallai wedi eu hystyried o'r blaen, er mwyn iddynt gyflawni eu nodau a theimlo'n gyffrous am y dyfodol.