Saith deg pum mlynedd yn ôl, fe ildiodd Japan i luoedd y Cynghreiriaid gan ddod â’r Ail Ryfel Byd i ben.
Roedd chwe mlynedd o ymladd a dioddefaint digynsail wedi gorffen o’r diwedd. A chafodd aelodau’r lluoedd o Gymru, yn ddynion ac yn fenywod, oedd wedi bod yn ymladd yn y Dwyrain Pell a’r Cefnfor Tawel ddod adref at eu hanwyliaid unwaith yn rhagor.
Cefais y fraint o gael siarad â feteraniaid oedd wedi bod yn gwasanaethu yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar Zoom wythnos ma. Bydd storïau byw Walford Hughes a Ted Owens yn aros yn fy nghof am byth, fel y bydd eu cefnogaeth i’w cyd-feteraniaid wrth iddynt geisio ailgydio mewn bywyd ar ôl y rhyfel.
Mae’n anodd dychmygu heddiw gymaint o bobl wynebodd chwalfa fel rhan o waddol y rhyfel a ymladdwyd ar draws rhannau helaeth o’n planed, yr holl ffordd o Hawaii i’r India.
Y drychineb hefyd oedd i filiynau o bobl gyffredin ar draws Asia a’r Cefnfor Tawel eu lladd a’u hanafu hefyd. Daeth y bom niwclear cynta i’w ddefnyddio erioed â distryw i bobl Hiroshima. Byddai ei waddol yn para degawdau.
Rhwng Rhagfyr 1941 ac Awst 1945, gwelodd Lluoedd Prydain a’r Gymanwlad a’u cynghreiriaid ymladd ffyrnig ar dir, yn yr awyr ac ar fôr, mewn jyngls ac ar ynysoedd pellennig.
Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 30,000 o filwyr Prydeinig wedi’u lladd yn y Dwyrain Pell, a thair gwaith cymaint â hynny wedi’u hanafu. Dioddefodd dros 130,000 o filwyr y cynghrair amodau arswydus fel carcharorion rhyfel.
Roedd yr amodau a wynebai’r carcharorion yn erchyll. Cafodd rhai eu hanfon i wersylloedd llafur yn y jyngl. Bu eraill yn adeiladu ffyrdd a phontydd a chafodd rheilffordd Burma-Gwlad Thai yr enw ‘Rheilffordd Angau’ wedi i 15,000 o garcharorion rhyfel ac 80,000 o lafurwyr lleol farw wrth ei hadeiladu.
Cafodd sifiliaid y cynghreiriaid, yn fenywod, plant a dynion, oedd yn byw yn y Dwyrain Pell eu rhoi mewn gwersylloedd a’u cadw o dan amodau yr un mor fwystfilaidd.
I bawb a oroesodd – yn aelodau’r lluoedd ac yn sifiliaid – mae creithiau’r rhyfel ar gorff ac enaid yn rhai dwfn.
Ar ôl llawenydd diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE), ni fedrwn ond dychmygu dewrder a chadernid y rheini a ddaliodd ati i ymladd am dri mis hir arall. Bu’n rhaid i’r milwyr o Gymru a wasanaethodd yn y Dwyrain Pell a’r Cefnfor Tawel wynebu amodau na welsant mo’u tebyg o’r blaen. Gwres llethol, monsŵn, mosgitos a chlefydau trofannol, roedd eu brwydrau’n rhyfeddol.
Roedd rhyw 90% o bersonél y brif fyddin yn Ne-ddwyrain Asia – y 14eg Fyddin – yn hanu o’r parthau lle mae India, Pacistan a Bangladesh heddiw.
Ni ellir mesur cyfraniad gwirfoddolwyr yr holl genhedloedd. Roedd Byddin India wedi tyfu i fod yn 2.5 miliwn o aelodau erbyn diwedd y rhyfel, y fyddin fwyaf o wirfoddolwyr yn hanes y byd.
Ar ôl gorfoledd Diwrnod VE, teimlai llawer o filwyr o Gymru a oroesodd y Dwyrain Pell bod y byd wedi anghofio am y ‘Fyddin Angof’. Roeddynt wedi ymladd mor bell o gartref, heb gysylltiad o gwbl â’u hanwyliaid nac â’u byd cyfarwydd. Roedd sylw pawb gartref wedi bod ar Ewrop. Hawdd maddau iddynt felly am feddwl bod neb yn cofio’u hymdrechion.
Testun tor-calon yw bod llawer a fu farw mewn meysydd tramor wedi’u gadael yno, heb fedd na charreg i’w nodi.
Ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Japan (VJ), roedd y rheini oedd yn y Dwyrain Pell yn dal i fod dramor, neu ar fwrdd llong yng nghanol y môr fel Stan Smith o’r Barri, wythnosau neu fisoedd oddi cartref. Roedd y rheini ddychwelodd wedi’u newid am byth gan eu profiadau.
Ddydd Sadwrn, byddwn yn cofio’r 75mlwyddiant hwn ac yn talu teyrnged i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn y Dwyrain Pell a’r Cefnfor Tawel. Aelodau’r lluoedd, eu teuluoedd a sifiliaid o bob rhan o’r byd.
Rydym yn talu teyrnged i bawb sydd wedi dioddef oherwydd rhyfel, yn ein hamserau rhyfeddol ni o dan gysgod y coronafeirws, a fydd yn ddi-os yn effeithio ar ein cynlluniau arferol i goffáu. Ond a ninnau wedi gorfod aberthu a cholli anwyliaid, rydym yn cofio’r rheini 75 mlynedd yn ôl, pan oedd y gwrthdaro mwyaf dinistriol yn hanes y byd yn tynnu i’w derfyn. Aberth a dioddefaint y rheini a agorodd lwybr i’r genhedlaeth a’i dilynodd i weithio at heddwch.
Rydym yn diolch ichi. Fe’ch cofiwn, Mewn angof, ni chewch fod.
Cymryd rhan:
- cymerwch ran mewn saib dwy funud o dawelwch am 11am, fore 15 Awst
- dathlwch gartref – am syniadau, ewch i https://ve-vjday75.gov.uk/
- crewch hashnod cymdeithasol gan ddefnyddio #DiwrnodVJ75 #VJDay75, i rannu storïau’ch teulu ac i ddweud Diolch