Neidio i'r prif gynnwy

Saith deg a phump o flynyddoedd yn ôl i heddiw, dathlodd y genedl Fuddugoliaeth yn Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ledled Cymru daeth pobl at ei gilydd i rannu beth bynnag oedd ganddynt – siwgr, bisgedi neu gwrw – i ddathlu ar eu strydoedd.   

Mae’n sicr bod y diwrnod cofiadwy hwnnw wedi ymddangos yn bell iawn yn ystod y blynyddoedd maith o wrthdaro a dogni llym. 

Heddiw, rydyn ni’n talu teyrnged i bawb wnaeth fyw drwy’r Ail Ryfel Byd.

I holl aelodau’r lluoedd gwasanaethu, yn ddynion a merched, a fu’n brwydro, i’r mamau a ofalodd am eu plant yn ystod y cyrchoedd awyr, y teuluoedd a roddodd loches i blant oedd yn efaciwîs ac i bawb gartref a gadwodd ymdrech y rhyfel i fynd – yn gweithio ar y tir, yn y ffatrïoedd, yn y pyllau; yn ein cymunedau ni.

I bawb a wasanaethodd yn ystod y rhyfel.       

Hefyd rydym yn cofio undod gwledydd y Gymanwlad a ddaeth at ei gilydd er mwyn brwydro yn erbyn lledaeniad ffasgiaeth.

Heddiw, oherwydd y coronafeirws, ni fyddwn yn ail-greu’r partïon stryd a gynhaliwyd 75 mlynedd yn ôl. Ond gallwn droi at genhedlaeth y rhyfel am gryfder ac ysbrydoliaeth i’n helpu ni drwy’r cyfnod yma.

O’n cartrefi ein hunain, fe safwn ni’n unedig ac yn ddiolchgar am y gymdeithas hon rydyn ni’n elwa ohoni heddiw.

Gadewch i ni adlewyrchu ar beth gyflawnwyd yn sgil yr Ail Ryfel Byd. A chofio’r rhai a garwyd ac a gollwyd.         

Rydym yn eich cofio chi.

Rydym yn diolch i chi.

Ni fydd eich aberth yn cael ei anghofio fyth.