Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth trwy ymweld â labordy fforensig Prifysgol De Cymru (USW) i gwrdd â’r nifer gynyddol o fenywod sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg (STEM) ac i annog mwy o fenywod a merched i ystyried gyrfa yn y gwyddorau.
Yn y labordy, mae safleoedd troseddu o bob math yn cael eu hail-greu – o olion byrgleriaid a lladron tai cyffredin i sefyllfaoedd mwy cymhleth fel llofruddiaethau a thanau angheuol.
Mae’r gwyddorau yn USW yn gartref i nifer o fenywod sy’n arweinwyr yn eu maes ac yn enghraifft o le lle y mae menywod yn llwyddo mewn pynciau STEM. Mae gan yr adran Gwyddorau Fforensig nifer o staff sy’n ymarferwyr ac yn gyn-ymarferwyr. A hwythau naill ai wedi gweithio mewn labordai fforensig yn y sector neu’n ymchwilwyr neu’n rheolwyr safleoedd trosedd gyda’r heddlu, mae’r menywod sy’n gweithio yma yn dod â chyfoeth o brofiad i addysgu myfyrwyr.
Mae ymchwil yn dangos bod amrywiaeth yn cynyddu arloesedd, cynhyrchiant, proffidioldeb a sefydlogrwydd, ac nad yw erioed wedi bod yn bwysicach. Ond cyn belled â bod menywod yn parhau heb eu rhagweld o lefel mynediad i'r ystafell fwrdd, mae'r arloesedd hwn wedi'i rwystro.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella rhagolygon gyrfaoedd menywod a merched ledled y wlad er mwyn i Gymru allu gwireddu ei photensial economaidd yn llawn, cynyddu arloesedd a dod yn wlad sydd wir yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Nid yw gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg erioed wedi bod yn bwysicach er mwyn cael atebion i rai o broblemau mawr cymdeithas.
Mae menywod ledled Cymru yn ysbrydoli ac yn chwarae rhan flaenllaw i daclo’r heriau sylfaenol sy’n wynebu cymdeithas, fel ymadfer ar ôl Covid-19 a delio â’r newid yn yr hinsawdd.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, dywedodd y Gweinidog bod annog mwy o fenywod a merched i ddilyn gyrfaoedd STEM yn bwysicach heddiw nag erioed.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething sy’n gyfrifol ar lefel y Cabinet am wyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru:
“Mae’n braf cael ymweld â Phrifysgol De Cymru heddiw i weld y gwaith sy’n cael ei wneud i annog mwy o fenywod a merched i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth.
“Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac yn benderfynol i gynyddu'r nifer o ferched sy'n gweithio yn y sectorau hanfodol pwysig hyn oherwydd ei bod yn dda i'n cymdeithas ac i'n heconomi. Mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod gweithlu amrywiol yn cynyddu proffidioldeb, cynhyrchiant, a chreadigrwydd ar draws diwydiant.
“Wrth i ni weithio at gyrraedd y nod o Gymru gryfach, tecach a gwyrddach, rydym yn gwneud pynciau STEM yn ganolog i addysg ac yn rhan sylfaenol o’r Cwricwlwm i Gymru, i baratoi dysgwyr ar gyfer astudio, gweithio a byw yn y 21ain ganrif.”
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud i helpu menywod a merched i feysydd STEM yn enghraifft o’n hymdrechion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru i drechu anghydraddoldeb ac atal stereoteipio o ran rhyw. Mae’r gyrfaoedd amrywiol a buddiol sy’n cael eu cynnig trwy STEM yn galluogi menywod a merched i anelu’n uwch, i lwyddo ac i wireddu’u potensial yma yng Nghymru.
“Gwelsom yn y pandemig aruthredd cyfraniad menywod i’r ymateb gwyddonol a chlinigol gan ddangos i’r genhedlaeth nesaf beth sy’n bosib ei wneud.
“Mae heddiw’n gyfle i roi llwyfan i’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fenywod a merched wrth i ni barhau i ymroi at gydraddoldeb i’r rhywiau yng Nghymru”.
Dywedodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ac Ymchwil:
"Roedd yn wych croesawu'r Gweinidog i Brifysgol De Cymru a dangos iddo'r cyfleusterau sy'n arwain y sector sydd gennym ar gael i fyfyrwyr sy'n mynychu PDC.
"Un o'n nodau craidd yw helpu gyda datblygu menywod ym maes STEM, sydd, o ddysgwyr ysgol i athrawon ac arweinwyr mewn busnesau, yn cael eu cynrychioli'n wael.
"Trwy arddangos y gwaith rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn, a rhoi golwg uniongyrchol i'r Gweinidog ar yr ymdrechion hynny, rydym yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i wella rhagolygon menywod a merched yng Nghymru, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o fanteisio ar botensial pawb sy'n byw ac yn gweithio yma."