Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru eisiau dyblu nifer y busnesau yng Nghymru sy'n eiddo i'w gweithwyr, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gymorth i weithwyr sy'n prynu er mwyn sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn aros yn nwylo Cymry, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw i nodi Diwrnod Perchnogaeth gan Weithwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nododd y Gweinidog y diwrnod drwy ymweld â Tregroes Waffles yn Llandysul, sy'n eiddo'n rhannol i'r staff lleol sy'n gweithio i'r becws. Mae Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr wedi bod o fudd i'r perchennog a'r gweithwyr, sydd bellach â mwy o lais yn y busnes ffyniannus. 

Ar gyfartaledd, ceir cytundebau prynu allan gan weithwyr ddwywaith neu deirgwaith  yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae maint y sector sy'n eiddo i weithwyr wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae potensial gweld llawer mwy o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr. Ar hyn o bryd mae 38 yng Nghymru, gydag 8 wedi'u creu yn y chwe mis diwethaf. 

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn dod â nifer o fanteision i weithwyr ac i fusnesau, gyda tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Maent hefyd wedi'u gwreiddio yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau lleol, gan sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy mewn cymunedau ledled Cymru. 

Gan weithio gyda Cwmpas, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £70,000 o gymorth ychwanegol yn ddiweddar i hyrwyddo manteision a datblygiad perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o'r cyfleoedd a'r manteision y mae'n eu cynnig.  

Mae Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru hefyd yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi gweithwyr sy'n prynu busnesau, gyda chymorth pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn ar gael i helpu perchnogion busnes i benderfynu ai cynlluniau perchnogaeth gan weithwyr a chyfranddaliadau yw'r ateb cywir i'w busnes. 

At hynny, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, yn cynnig llwybr ariannu posibl sy'n seiliedig ar ddyledion ar gyfer pryniannau gweithwyr, gyda chymorth i'r rheolwyr ar gael drwy Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. 

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:  

"Mae perchnogaeth gan weithwyr yn rhoi cyfle i weithwyr gael cyfran sylweddol ac ystyrlon yn y busnes y maent yn gweithio iddo. Mae'n rhoi mwy o reolaeth iddynt dros eu tynged eu hunain. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i berchnogion busnes fod dyfodol eu busnes mewn dwylo diogel, a bod dyfodol eu gweithwyr gwerthfawr iawn wedi'i ddiogelu yn y gymuned y cafodd y busnes ei ddatblygu ynddo.  

"Roedd yn brofiad ysbrydoledig ymweld â Waffles Tregroes yn Llandysul i weld drosof fy hun sut mae perchnogaeth gan weithwyr wedi bod o fudd i'r busnes, y staff sy'n gweithio yno a'r gymuned leol ehangach.  

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr erbyn 2026. Er mwyn cyflawni hynny, rydym am ddarparu mwy o gymorth i weithwyr sy'n prynu. Rwy'n annog mwy o fusnesau i edrych ar y manteision a gynigir drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru, er mwyn sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau i fod yn nwylo Cymry." 

Dywedodd Kees Huysmans, Sylfaenydd Waffles Tregroes: 

"Fy ngobaith yw y bydd perchnogaeth gan weithwyr yn rhoi'r cyfle gorau i Waffles  Tregroes ffynnu yn y byd ansefydlog hwn heddiw."