Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Er mwyn dathlu’r miloedd o staff ymroddedig a’r gofal eang sy’n cael ei roi ar draws y Gwasanaeth Iechyd, bydd byrddau iechyd yng Nghymru yn cynnig cyfle i bobl ddod i ddeall mwy am eu gwaith, ac i’w dilyn mewn amser real.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd "24 awr yn GIG Cymru" yn dangos pa mor amrywiol yw’r gofal iechyd sy’n cael ei roi ar yr un pryd ar draws meddygfeydd, ysbytai, fferyllfeydd a gwasanaethau cymunedol dros gyfnod o ddiwrnod.

Bydd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei chynnal ddydd Gwener 7 Mawrth 2025. Fel y bydd yr ymgyrch yn datgelu, mewn cyfnod o ddim ond 24 awr:

  • mae practisau meddygon teulu yn ymdrin â 98,000 o alwadau ac yn darparu 75,000 o apwyntiadau
  • mae fferyllfeydd yn dosbarthu mwy na 231,000 o bresgripsiynau
  • mae 3,000 o bobl yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys
  • mae nyrsys cymunedol yn gwneud 7,000 o ymweliadau cartref
  • mae 6,000 o driniaethau deintyddol yn cael eu rhoi gan y GIG
  • mae 75 o fabanod yn cael eu geni
  • mae gwasanaethau ambiwlans yn ateb 1,200 o alwadau 999 brys

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd cynnwys amser real yn cael ei roi ar amrywiol sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, gan rannu straeon cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy gydol y diwrnod.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

O ofal brys i apwyntiadau rheolaidd, mae’r ymgyrch hon yn dangos bod GIG Cymru yn cyffwrdd â bywydau miloedd o bobl ym mhob cwr o Gymru bob dydd. Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn gofalu am bobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru:

Mae’r ffigurau newydd hyn yn dangos pa mor eithriadol yw maint y ddarpariaeth gofal iechyd ledled Cymru. Mae pob rhif yn cynrychioli unigolyn sy’n cael gofal, ac mae’n dangos hefyd y rôl hanfodol y mae’r GIG yn ei chwarae yn gofalu am bawb pryd a lle bynnag y bo angen y gofal hwnnw arnyn nhw.