Mae darparu seibiannau i ofalwyr a sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw eu bywydau, ymysg blaenoriaethau newydd Llywodraeth Cymru i wella bywydau gofalwyr yng Nghymru.
I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies, wedi pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ofalwyr drwy ddarparu £1m i fynd i'r afael â thair blaenoriaeth genedlaethol newydd i wella'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr ymhellach drwy ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.
Mae dros 370,000 o ofalwyr yng Nghymru – tua 12% o'r boblogaeth. Nhw sy'n darparu 96% o'r gofal yn y cymunedau yng Nghymru, ac maen nhw'n cyfrannu dros £8.1bn i economi Cymru bob blwyddyn.
Yng Nghymru, mae gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad o'u hanghenion â'r rheini maen nhw'n gofalu amdanynt, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a ddaeth i rym yn 2016. Os oes gan ofalwyr anghenion cymwys, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ateb yr anghenion hynny drwy gynllun cymorth i ofalwyr.
Y tair blaenoriaeth genedlaethol yw:
- Helpu i fyw yn ogystal â gofalu – Rhaid i bob gofalwr gael seibiannau rhesymol o ofalu er mwyn iddynt allu parhau i wneud hynny, ac i gael bywyd eu hunain y tu hwnt i ofalu.
- Adnabod a chydnabod gofalwyr – Mae gofalwyr yn haeddu cael eu hadnabod a'u cefnogi er mwyn iddynt allu parhau i ofalu. Mae'n hanfodol eu bod yn adnabod eu hunain fel gofalwyr.
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr – Mae'n bwysig bod gofalwyr yn cael yr wybodaeth a'r cyngor cywir yn ôl yr angen ac mewn fformat priodol.
"I nodi diwrnod hawliau gofalwyr, rwyf am ddiolch i'r miloedd o ofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru am eu hymrwymiad a'u cyfraniad parhaus yn ogystal â'r ffordd y maen nhw’n newid bywydau y rheini maen nhw'n gofalu amdanynt, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
"Rydyn ni'n gwybod bod modd anghofio am iechyd a lles y gofalwr ei hun wrth iddo fynd ati i ofalu a gwneud gwahaniaeth, ac ni allwn adael i hyn ddigwydd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau bod hawliau'r holl ofalwyr di-dâl yn cael eu gwella a'u diogelu. Ein gweledigaeth i ofalwyr Cymru yw iddyn nhw fod yn rhan o gymunedau sy'n ystyriol ohonynt, gan eu hadnabod a’u cefnogi fel nad ydyn nhw dan anfantais nac yn cael eu gwahaniaethu oherwydd eu rôl yn gofalu.
"Rhaid i ofalu fod yn brofiad cadarnhaol i bob gofalwr ni waeth sawl awr maen nhw'n ei ddarparu. Rhaid iddyn nhw hefyd deimlo'n hyderus a chael y gefnogaeth i fyw bywyd mor normal â phosibl."