Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Plant yn herio rhieni a phlant yng Nghymru benbaladr i dreulio Diwrnod Chwarae yn yr awyr agored ac ymarfer eu cyrff wrth chwarae yn hytrach nag aros dan do.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Huw Irranca-Davies yn defnyddio Diwrnod Chwarae eleni i annog plant a rhieni i fynd allan i chwarae, un ai yn eu cymuned eu hunain neu drwy fynd i un o'r llu o ddigwyddiadau cymunedol sy'n cael eu cynnal mewn parciau a mannau agored eraill ledled Cymru.

Mae pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc yn glir. Mae'n darparu manteision lu o ran anghenion corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant, ac mae'n eu helpu i dyfu'n gryf ac i ddatblygu cydsymud ac mae hefyd yn helpu i leihau'r risg y bydd plant yn mynd yn rhy drwm neu'n ordew.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dros 40% o blant Cymru un ai yn ordew neu'n rhy drwm erbyn eu bod yn 11 oed. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:

"Mae plant a phobl ifanc yn treulio llawer o'u hamser o dan do'r dyddiau hyn, yn chwarae gemau cyfrifiadurol ac yn defnyddio'u ffonau symudol a dyfeisiau electronig eraill i gymdeithasu â'u ffrindiau. Ond maen nhw'n treulio llai a llai o amser allan yn yr awyr iach yn chwarae'n gorfforol. Dyma un o'r rhesymau pam fod 40% o blant Cymru un ai'n rhy drwm neu'n ordew erbyn iddynt fod yn 11 oed.

“Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi gwerth mawr ar chwarae a'i bwysigrwydd ym mywydau ein plant.  Rydyn ni'n credu bod gan blant hawl sylfaenol i gael chwarae a bod chwarae yn hanfodol iddynt fwynhau eu bywydau.

"Yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae Diwrnod Chwarae yn ffordd ardderchog i roi sylw i'r rhan bwysig y dylai chwarae ei chael ym mywydau plant. Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad gwybyddol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant. Mae hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles y plant a'u teuluoedd, yn ogystal â chyfrannu at y cyfleoedd a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol. 

"Hoffwn annog rhieni i ddefnyddio Diwrnod Chwarae eleni fel cyfle i gael eu plant i fynd allan i chwarae yn yr awyr iach."

Yn ystod tymhorau ysgol, mae amrywiaeth o gynlluniau a gweithgarwch cymunedol ar gael fel Teithiau Iach i'r Ysgol, Milltir y Dydd a Chwaraeon Ysgol i alluogi plant a phobl ifanc i gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd. 

Dros wyliau'r haf, mae amrywiaeth o gynlluniau chwarae a gweithgareddau cymunedol eraill yn cael eu cynnal, fel GemauStryd a Parkrun, sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi dulliau gweithredu sydd wedi'u seilio yn y gymuned, ac i fuddsoddi ynddynt. 

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

“Heddiw, a dros y 31 mlynedd diwethaf, cynhaliwyd miloedd o ddigwyddiadau gwych ar draws Cymru i ddathlu Diwrnod Chwarae a hawl plant i chwarae. Mae chwarae’n bwysig i blant ac mae’n cael effaith cadarnhaol sylweddol ar eu hiechyd, lles a hapusrwydd. 

“Fel cymdeithas - yn oedolion, sefydliadau a llywodraethau - mae angen inni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pawb yn gwerthfawrogi hawl y plentyn i chwarae a’i fod yn cael ei ddarparu ar ei gyfer trwy wneud yn siŵr bod pob plentyn yng Nghymru’n cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae bob dydd o’r flwyddyn.”