Wrth inni agosáu at ddiwedd y cyfnod adborth ar gyfer y Cwricwlwm drafft i Gymru, mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cadarnhau y bydd ysgolion yn cael diwrnod HMS ychwanegol.
Bydd diwrnod HMS ychwanegol yn digwydd bob tymor yr haf ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn benodol i roi mwy o amser i athrawon ar gyfer eu dysgu proffesiynol. Mae hynny'n rhan o becyn cymorth i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn cael ei roi ar waith o 2022 ymlaen.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £24 miliwn mewn athrawon yn ddiweddar, drwy'r Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol – y buddsoddiad unigol mwyaf mewn dysgu proffesiynol i athrawon ers datganoli.
Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu i'r ysgolion yr wythnos yma i dynnu eu sylw at ba mor werthfawr y mae'r amser ychwanegol hwn a bod rhaid i'r amser gael ei ddefnyddio'n effeithiol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. A rhaid gwneud hynny er budd rhieni hefyd.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Rydyn ni am sicrhau'r addysg orau bosibl i'n disgyblion, ac i gyflawni hynny rhaid inni wneud yn siŵr bod athrawon wedi paratoi yn dda i wneud yr hyn y mae'n nhw'n ei wneud orau.
“Mae'r diwrnod HMS ychwanegol hwn, ochr yn ochr â'r buddsoddiad digyffelyb yr ydyn ni wedi'i wneud yn ein hathrawon, yn dangos ein bod ni o ddifrif am roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i addysgu'r cwricwlwm newydd.”
Dim ond pedwar diwrnod sydd ar ôl i ymateb i'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm drafft, felly mae'r Gweinidog yn annog pawb i leisio'u barn cyn dydd Gwener hwn, sef 19 Gorffennaf:
“Diolch i bawb sydd wedi cynnig eu barn, eu syniadau a'u hadborth hyd yma. Am y tro cyntaf yn hanes y genedl hon, bydd gennym ni ein cwricwlwm ein hunain a wnaed yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni hynny'n iawn.
“P'un a ydych chi'n athro, yn ddisgybl, yn rhiant, yn ddarlithydd neu'n berchen ar fusnes; pwy bynnag ydych chi, os yw addysg yng Nghymru o bwys i chi, rwy am ichi gael dweud eich dweud.”
Dros y misoedd diwethaf, bu dros 100 o ddigwyddiadau Rhanbarthol i Ymgysylltu â'r Gweithlu a gynhaliwyd gan y Consortia Rhanbarthol er mwyn meithrin cysylltiadau â'r gweithlu addysgu ehangach.
Mae'r Gweinidog wedi teithio'r wlad i gyfarfod ag athrawon presennol a darpar athrawon, penaethiaid, staff cymorth ystafelloedd dosbarth, llywodraethwyr ysgolion, rhieni, a phlant a phobl ifanc, i gael eu hadborth.
Heddiw, bydd hi'n cynnal brecwast busnes i ennyn diddordeb gweithwyr yn y sector preifat am y modd y bydd y cwricwlwm o fudd iddyn nhw.