Cynhelir Diwrnod Amgueddfeydd Cymru bob blwyddyn ar 12 Mai gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ynghyd â’r Gymdeithas Amgueddfeydd. Eleni, fe ddathlwn yr amrywiaeth gyfoethog o amgueddfeydd ar draws y wlad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Drwy ddilyn #WelshMuseums #Amgueddfeydd, bydd amgueddfeydd ar draws y wlad yn rhannu eu straeon, casgliadau, ac yn dangos eu gwaith arloesol a’u heffaith gadarnhaol ar yr economi, dysgu, addysg a sgiliau, cydlyniant cymunedol, iechyd a llesiant.
Mae amgueddfeydd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau – ac maent hefyd wedi teimlo effaith uniongyrchol y pandemig a’r cyfyngiadau sydd yn eu lle. Er mwyn cefnogi’r sector yn ystod yr amser anodd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Cronfa Cadernid COVID-19, sy’n cael ei gweinyddu drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru. Mae wedi dyfarnu £100,451 i 17 o sefydliadau hyd yma. Mae aelodau’r Ffederasiwn hefyd wedi asesu cynllun grant y Llywodraeth sy’n seiliedig ar werthoedd ardrethol ardrethi busnes sydd wedi arwain at £360,000 o gyllid. Mae ceisiadau hefyd yn cael eu prosesu ar gyfer Cronfa Cadernid Diwylliannol y Llywodraeth.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud popeth posibl i gefnogi’r cadernid, y creadigrwydd a’r ysbryd o bartneriaeth sy’n cael eu dangos gan y sector.
“Mae Diwrnod Amgueddfeydd Cymru yn gyfle gwych i ddangos y cadernid a’r creadigrwydd hyn – a byddwn ni’n eu mwynhau eleni yn niogelwch ein cartrefi ein hunain.
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio fel partneriaid i alluogi’r sector i wrthsefyll yn erbyn y cyfnod anodd hwn ac i ffynnu, gobeithio, unwaith eto – a dod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto pan fo’r argyfwng drosodd.”
Dywedodd Victoria Rogers, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru:
“Mae amgueddfeydd Cymru yn wir yn rhwydwaith o adnoddau cymunedol ac mae diwrnod #AmgueddfeyddCymru yn gyfle i ddangos cymaint yw eu gwerth i Gymru a pha mor hanfodol ydynt i’w cymunedau. Bydd amgueddfeydd ar draws y wlad, yn lleol ac yn genedlaethol, yn defnyddio Twitter i ddangos enghreifftiau pwerus ac arloesol o’r effeithiau cadarnhaol y maent yn eu cael gyda’u cymunedau ac ar gyfer y cymunedau hynny – cyn ac yn ystod pandemig y Coronafeirws.
“Mae amgueddfeydd yn ein hysbrydoli i ddysgu o’r gorffennol, i ddeall ein presennol ac i bennu ein dyfodol. Drwy adnoddau addysgu yn y cartref, teithiau o amgylch casgliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, darlithoedd sy’n cael eu ffrydio a phodlediadau, mae amgueddfeydd Cymru wedi bod yn cefnogi eu cymunedau yn ystod yr adeg hon pan fo symudiadau wedi’u cyfyngu. A byddant yn hanfodol o ran helpu Cymru i ddeall y pandemig a’i waddol hefyd – mae sawl amgueddfa leol ar draws y wlad, yn ogystal ag Amgueddfa Cymru, eisoes yn gweithio gyda chymunedau i gofnodi eu profiadau a’r hyn maent yn ei wneud, yn ei deimlo ac yn hiraethu amdano yn ystod argyfwng COVID-19.”