Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Ionawr 2023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 329 KB
PDF
329 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar y diweddariad arfaethedig i’r ddogfen ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru’.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y meini prawf drafft gyda’r nod o sicrhau bod rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a ailachredir a rhai newydd yn:
- adlewyrchu’n llawn y diwygiadau addysg datblygedig, gan ymgorffori newidiadau deddfwriaethol a chyfeiriadau at y canllawiau diweddaraf ar faterion cysylltiedig
- adlewyrchu’n llawn y gwersi a ddysgwyd o’r ‘cylch’ achredu cyntaf a darpariaeth achrededig, i sicrhau bod y weledigaeth a’r gwaith gweithredu mewn perthynas â rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yn glir i bawb sy’n helpu i ddarparu a chefnogi addysg gychwynnol athrawon
- dod yn fwy uchelgeisiol a chodi ein disgwyliadau ar gyfer rhaglenni a phartneriaethau addysg gychwynnol athrawon i gefnogi ein dyhead o arwain y byd ym maes addysg gychwynnol athrawon
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 714 KB
PDF
714 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.