Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Chwefror 2019.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 384 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus ichi fynegi barn am ein bwriad i newid cyfraith ddomestig Cymru os na cheir cytundeb ar Brexit.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori am gywiriadau i rai o offerynnau statudol Cymru sy'n deillio o gyfraith yr UE. Maent yn ymwneud â safonau marchnata bwyd, labelu a llaeth ysgol.
Mae'r diwygiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yn cywiro diffygion. Maen nhw'n cael eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd y gyfraith yn parhau'n effeithiol os na fydd cytundeb ar Brexit. Ni ddylai'r newidiadau effeithio ar y diwydiant yng Nghymru.
Dyma'r ddeddfwriaeth sydd dan sylw:
- Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
- Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
- Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
- Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
- Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018
- Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017
- Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011.
Rydym wedi estyn y cyfnod ymgynghori er mwyn cynnwys cynigion ychwanegol ynghylch diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 a Rheoliadau Adrodd ar Gynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011. Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben yn awr ar 19 Chwefror.