Crynodeb o'r newidiadau i'r opsiynau Grant Creu Coetiroedd o fis Ionawr 2025.
Rydym wedi lleihau maint y llain leiaf o 0.1ha (sy'n cyfateb i 100m x 10m) i 0.01ha (sy'n cyfateb i 10m x 10m). Ar gyfer hyn, mae’n rhaid:
- i 11 coeden gael eu plannu o dan opsiynau sydd â dwysedd rhywogaethau o 1,100 o goesynnau yr hectar,
- i 16 coeden gael eu plannu o dan opsiynau sydd â dwysedd rhywogaethau o 1,600 o goesynnau yr hectar,
- i 25 coeden gael eu plannu o dan opsiynau sydd â dwysedd rhywogaethau o 2,500 o goesynnau yr hectar.
Mae'r holl ofynion grant eraill yn aros yr un fath, gan gynnwys arwynebedd lleiaf y cytundeb.
Mae lleihau'r llain yn golygu y gallwch fod yn fwy arloesol gyda'ch ceisiadau creu coetir. Er enghraifft, gallwch blannu mewn rhesi (stribedi o goed wedi'u plannu ar draws cae i wahanu unedau pori).
Mae'r arwynebedd lleiaf ar gyfer gwaith plannu newydd yn parhau i fod yn 0.25ha ar gyfer y Grant Creu Coetir a 0.1ha ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.
Rydym wedi creu categori ‘Ffrwythau a Chnau’ er mwyn:
- hwyluso arallgyfeirio ar ffermydd
- cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â chreu coetiroedd.
Mae'r categori wedi'i gyfyngu i 30% o gyltifarau ffrwythau, i gynnal gorchudd coetir pe bai'r coed ffrwythau yn cael eu cwympo ar ôl i'r contract ddod i ben.
Rhaid plannu 800 o goed yr hectar o dan yr opsiwn hwn, sy’n gyfystyr â bwlch o 3.5m rhwng pob coeden os oes lle cyfartal rhyngddynt. Gall dwysedd plannu amrywio i ganiatáu i ganopïau coed ehangach ffurfio, ond y pellter lleiaf rhwng coed yw 1m a'r pellter mwyaf yw 10m. Mae'r dwysedd is yn caniatáu ar gyfer cost prynu uwch cyltifarau ffrwythau a rhywogaethau cnau. Mae bylchau mwy hefyd yn galluogi canopïau mwy i ffurfio gan ei gwneud hi'n haws cynaeafu.
Bydd contract y categori yn para am 12 mlynedd, yn gofyn am wahardd da byw ac yn gymwys i gael y taliad premiwm.
Ar gyfer y Grant Creu Coetir rydym wedi cyflwyno dau opsiwn dwysedd isel (i gymryd lle'r un blaenorol).
Opsiwn tir isel:
- ar gyfer tir sydd o dan derfyn uchaf tir wedi’i amgáu,
- dwysedd penodol o 50 o goed yr hectar,
- pellter o 15m o leiaf rhwng pob coeden.
Opsiwn tir uchel:
- ar gyfer tir sydd uwchlaw terfyn uchaf tir wedi’i amgáu
- dwysedd penodol o 80 o goed yr hectar,
- bwlch o 8m o leiaf rhwng pob coeden.
Rydym wedi diwygio'r gofynion diogelu coed ar gyfer ffensio pob coeden o dan yr opsiwn amaeth-goedwigaeth yn y Grant Creu Coetir. Mae bellach yn:
- llai rhagnodol,
- yn caniatáu ar gyfer atebion a datblygiadau arloesol sy'n benodol i safle,
- mae'r cyfraddau talu yn cynnwys cyllid ar gyfer diogelu coed,
- mae hyd y contract wedi'i ymestyn i 12 mlynedd (o 5 mlynedd).
Mater i'r ymgeisydd yw dewis pa ddull diogelu y mae'n ei ddefnyddio.