Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

“Rydyn ni’n dysgu mwy am amrywiolyn omicron bob dydd.

“Mae hwn yn ffurf sy'n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd â'r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru. Gallai hyn arwain at nifer fawr o bobl angen triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein GIG o dan bwysau sylweddol.

“Ein gwarchodaeth orau o hyd yw brechu. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod y dos atgyfnerthu yn hanfodol.

“Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu i gynyddu nifer y bobl a fydd yn derbyn eu brechlyn atgyfnerthu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae pobl hŷn a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd.

“Rydyn ni'n cynyddu nifer y clinigau a’u horiau agor; rydyn ni wedi gofyn i'r holl staff sydd ar gael ymuno â thimau brechu i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.

“Gwnewch yn siŵr bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth. Bydd yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i warchod eich hun rhag y coronafeirws a'r amrywiolyn newydd hwn.

“Mae'r Cabinet yn monitro'r sefyllfa iechyd cyhoeddus hon sy'n newid yn gyflym yn ofalus iawn ac wedi symud i gylch adolygu wythnosol.

“Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn ac efallai y bydd angen i ni gymryd camau pellach i gadw Cymru’n ddiogel. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gymru.”