Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau a’n canllawiau Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Talu â siec

O 2 Chwefror 2023, ni fyddwn bellach yn derbyn sieciau.

Yn hytrach, gallwch dalu i ni drwy drosglwyddiad banc.

Gweler talu Treth Trafodiadau Tir am fanylion.

Rydym wedi gwneud y newid hwn am fod trosglwyddiadau banc:

  • yn gallu cael eu gwneud a'u prosesu’n gyflym, gan roi mwy o sicrwydd eu bod wedi'u derbyn
  • yn fwy diogel gan fod llai siawns eu bod yn mynd ar goll neu’n cael eu dwyn
  • yn well gwerth am arian gan fod y costau gweinyddu’n llai

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut i dalu neu os ydych angen help, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Manylion cyswllt prynwyr ac asiantau

Rydym yn gwneud newidiadau i adran 'Ynglŷn â’r prynwr' y ffurflen TTT:

  • maes newydd ar gyfer cyfeiriad e-bost y prynwr
  • bydd cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y prynwr yn orfodol
  • meysydd dewisol ar gyfer manylion cyswllt yr asiant (enw, ffôn, ac e-bost) ar gyfer ymholiadau ffurflenni treth

Yn ddiweddar rydym wedi gwneud gwaith er mwyn deall sut mae pobl yn mynd i ddyled.

Pan fyddwn yn derbyn ffurflen TTT, nid yw bob amser yn glir gyda phwy mae angen i ni siarad.

Mae cael y wybodaeth hon yn sicrhau:

  • bod ein data'n gywir er mwyn i ni allu cysylltu â'r person cywir
  • y gallwn ni ddatrys ymholiadau'n gyflym ac osgoi dwysáu’r sefyllfa, fel codi cosbau a thaliadau llog ar y trethdalwr

Newidiadau i'r prif gyfraddau preswyl

Ar 27 Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl TTT.

Mae'r cyfraddau a bandiau newydd yn berthnasol o 10 Hydref 2022.

Mae rheolau trosiannol ar waith. Os yw'r prynwr yn cwblhau pryniant eiddo:

  • cyn 10 Hydref byddwch yn talu'r cyfraddau treth blaenorol
  • ar neu ar ôl 10 Hydref byddwch yn talu'r cyfraddau treth newydd

Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir defnyddio'r cyfraddau blaenorol lle mae contractau wedi cael eu cyfnewid cyn 10 Hydref, ond nad yw'r pryniant wedi'i gwblhau tan neu ar ôl y dyddiad hwn.

Os cafodd ffurflen dreth ei drafftio cyn 10 Hydref, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y cyfraddau cywir wedi'u defnyddio cyn iddi gael ei chyflwyno.

Darllenwch fwy am y newidiadau i'r prif gyfraddau preswyl a bandiau TTT yn ein cyhoeddiad, gan gynnwys canllawiau ar sut i ffeilio ffurflen gan ddefnyddio'r rheolau trosiannol.

Cyfrifo TTT gyda rhyddhad anheddau lluosog (MDR)

Rydym wedi diweddaru ein cyfrifiannell MDR i gynnwys prynu anheddau gydag eiddo tir eraill.

Yn dilyn hyn, rydym wedi tynnu'r gyfrifiannell taenlen MDR dros dro oddi ar ein gwefan.

I gael gwybod pryd y gallai MDR fod yn berthnasol i drafodiad:

Ar gyfer achosion mwy cymhleth, gan gynnwys trafodiadau cysylltiol, neu os ydych chi'n ansicr sut mae'r dreth neu'r rhyddhad yn berthnasol i chi cysylltwch â ni.

Cofrestru eich sefydliad ar gyfer ffeilio ar-lein

Wrth gofrestru i ffeilio mae'n bwysig gwybod a deall eich cyfrifoldebau.

Ni allwch gofrestru sefydliad fwy nag unwaith. Gwiriwch yn gyntaf os yw eich sefydliad eisoes wedi cofrestru i ffeilio ar-lein.

Os nad ydych yn siŵr a oes cyfrif yn bodoli'n barod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Byddwn angen:

  • prif gyswllt o fewn eich sefydliad
  • gweinyddwr ar-lein a enwir i reoli cyfrifon defnyddwyr

Dylai cyfeiriadau e-bost fod yn gyfeiriadau e-bost unigol, nid blwch post a rennir fel 'info@'.

Pan fydd ymholiadau ynglŷn â ffurflenni treth, mae angen i ni allu siarad â'r cyswllt uniongyrchol er mwyn osgoi oedi o ran y prosesu.

Pan fyddwch wedi cofrestru

Ni ddylid rhannu manylion cyfrif a chyfrineiriau. Os oes eraill yn eich sefydliad sydd angen mynediad gallan nhw greu cyfrif defnyddiwr newydd.

Eich cyfrifoldeb chi yw ein hysbysu ni os oes unrhyw un o'r cysylltiadau hynny'n newid neu'n gadael eich sefydliad.

Rydym angen eich help chi

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gyda'n hymchwil defnyddwyr.

Byddai eich adborth a'ch profiad o ddefnyddio ein canllawiau a'n gwasanaethau yn helpu i lywio datblygiadau ar gyfer y dyfodol.

Cofrestrwch i ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr drwy e-bostio dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Mae gwirfoddoli i helpu yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud am sut mae'r gwasanaethau hyn yn edrych ac yn teimlo.

Mae pob gweithgaredd ymchwil yn ddewisol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu yn ystod y sesiynau i:

  • wella'n canllawiau a'n gwasanaethau presennol
  • datblygu gwasanaethau newydd