Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ein system, ein canllawiau a’n digwyddiadau Treth Trafodiadau Tir (TTT) i weithwyr treth proffesiynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae eich dangosfwrdd TTT yn newid

O 23 Gorffennaf 2020, bydd eich dangosfwrdd TTT yn newid. Rydym wedi lleihau nifer y ffurflenni treth y byddwch yn eu gweld er mwyn cynnal perfformiad y system a chadw gwybodaeth yn ddiogel.

Bydd gennych fynediad at y 150 ffurflen TTT ddiwethaf i chi eu cyflwyno neu eu diddymu. Bydd drafftiau'n aros yn ddi-ben-draw.

Bydd unrhyw ddiwygiad neu hawliad o gyfraddau uwch TTT yn cael ei gynnwys yn y 150 ffurflen ddiweddaraf.

Proses haws ar gyfer ychwanegu defnyddwyr newydd

O 23 Gorffennaf 2020, bydd eich gweinyddwyr TTT ar-lein yn gallu actifadu a dadactifadu defnyddwyr i gyfrif eich sefydliad. Byddwn yn diweddaru ein canllawiau cofrestru i adlewyrchu'r broses newydd ar 23 Gorffennaf 2020.

Dyma fideo byr yn dangos y newidiadau a sut fydd y system yn edrych.

Bydd eich gweinyddwr TTT ar-lein hefyd yn gallu uwchraddio defnyddwyr yn weinyddwyr. Mae hyn yn golygu y bydd eich sefydliad yn gallu cael mwy nag un gweinyddwr.

O'r dyddiad hwn, bydd gweinyddwyr TTT ar-lein  yn gweld rhestr o ddefnyddwyr sydd wedi'u cofrestru ar gyfer eu sefydliad. Bydd angen iddynt gadw’r rhestr o ddefnyddwyr yn gyfredol drwy ddadactifadu neu actifadu cyfrifon pan fydd cydweithwyr yn gadael neu'n ymuno â'r sefydliad.

Os yw'ch gweinyddwr TTT ar-lein wedi gadael eich sefydliad, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu eich helpu i sefydlu un.

Gweminar ar Ryddhad Anheddau Lluosog TTT

Dywedsoch wrthym fod arnoch eisiau mwy o arweiniad ar Ryddhad Anheddau Lluosog (MDR) felly rydym yn cynnal gweminar ar 7 Gorffennaf 2020. Cofrestrwch ar gyfer y gweminar.

Bydd y gweminar yma yn Saesneg. I ofyn am weminarau yn Gymraeg anfonwch e-bost os gwelwch yn dda: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Rydym hefyd yn derbyn diwygiadau i ffurflenni treth sydd eisoes wedi'u ffeilio er mwyn hawlio MDR. Er mwyn helpu i sicrhau bod ffurflenni TTT yn cael eu ffeilio’n gywir, rydym wedi diweddaru adran termau allweddol a diffiniadau ein canllaw MDR gan ei gysylltu â chanllaw newydd, gwell ar eithriadau ar gyfer is-anheddau

Rydym hefyd wedi creu fideo byr:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch a yw MDR yn berthnasol, cysylltwch â'n desg gymorth neu gofynnwch am opiniwn treth.

Canllawiau ar eiddo defnydd cymysg

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi canllawiau newydd i helpu i wahaniaethu rhwng tir sy’n ardd neu’n dir tŷ, a thir amhreswyl. Rydym yn parhau i dderbyn ffurflenni treth lle mae'n bosibl bod eiddo wedi’i gamddisgrifio fel eiddo defnydd cymysg.

Wedi darllen ein canllawiau, os nad ydych yn siŵr a yw'r tir yn ddefnydd preswyl neu gymysg, gallwch gysylltu â'n desg gymorth am ragor o gymorth, neu efallai y byddwch yn gallu ofyn am opiniwn treth.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19) 

Nid yw’r coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar ein gwasanaethau ar-lein ar y cyfan.  Rydym wedi gorfod addasu rhai o'n gwasanaethau a'r ffordd rydym yn gweithredu. Gweler y manylion llawn yn ein diweddariad am ein gwasanaethau mewn ymateb i coronafeirws (COVID-19).

Desg gymorth

Mae ein gwasanaeth desg gymorth ar agor ar gyfer galwadau o ddydd Llun i ddydd Gwener 10yb i 3yp i helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Rhif ein llinell gymorth yw 03000 254 000. Gallwch hefyd ddefnyddio ein ffurflen gysylltu ar-lein.

Help i lenwi eich ffurflen dreth:

  • Rydym yn cael ceisiadau am wneud diwygiadau lle mae'r dyddiad dod i rym yn anghywir. Pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gallwch adael y dyddiad dod i rym a dyddiad y contract yn wag neu gallwch nodi dyddiad yn y dyfodol. Bydd angen i chi fynd yn ôl a nodi'r dyddiadau cywir cyn cyflwyno’r ffurflen.
     
  • Pan fyddwch yn talu TTT, gwnewch yn siŵr mai cyfeirnod 12 digid unigryw'r trafodiad yn unig yw'ch cyfeirnod banc, heb unrhyw rifau, bylchau na chyfeirnodau eraill o'i flaen. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyfateb y taliad hwn â'r ffurflen dreth yn awtomatig ac ni fydd angen i ni gysylltu â chi.
     
  • I gadw’ch ffurflen dreth TTT yn electronig fel PDF, gallwch ddewis y botwm argraffu a defnyddio'r opsiwn 'save as PDF' neu 'print to PDF', yn dibynnu ar eich porwr.
     
  • Gwnewch yn siŵr bod gwybodaeth bersonol yn eich ffurflenni, er enghraifft, rhifau yswiriant gwladol a phasbort yn gywir cyn cyflwyno.

Ymchwil defnyddwyr

Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau’n haws i'w defnyddio. Cofrestrwch er mwyn ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr a helpwch ni i wella drwy e-bostio: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Dweud eich dweud

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y diweddariad hwn neu am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth ebostiwch: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru