Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ein gwasanaethau Treth Trafodiadau Tir (TTT) a chanllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn adolygu ein diweddariadau TTT. Rhowch eich barn (mae'n cymryd 30 eiliad).

Estyniad i gyfnod ad-dalu cyfraddau uwch ar gyfer diffygion diogelwch tân a sefyllfaoedd argyfwng

Er mwyn helpu prynwyr tai sy'n ei chael hi'n anodd gwerthu cartrefi sydd wedi’u heffeithio gan broblemau cladin diogelwch tân, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y rheolau cyfraddau preswyl uwch er mwyn ymestyn y cyfnodau ad-dalu o 3 blynedd ac eithriadau.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw technegol cyfraddau uwch:

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i hawlio ad-daliad TTT a dalwyd ar y gyfradd uwch

Canllawiau hunanasesu ar gyfer TTT

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen dreth TTT, mae'n bwysig eich bod yn ateb y cwestiwn "Oes angen i chi wneud hunanasesiad?" yn gywir. Yna bydd angen i chi gofnodi'r dreth sy'n ddyledus. 

Ar gyfer 95% o ffurflenni TTT, bydd ein Cyfrifiannell TTT  yn cyfrifo'r dreth i chi. Yna gallwch gytuno neu anghytuno â'r swm. 

Mewn nifer fach o achosion, nid yw'r gyfrifiannell yn cyfrifo'r dreth i chi. Yn hytrach, mae'n gofyn a ydych chi am hunanasesu. Gallai hyn ddigwydd pan: 

  • fyddwch yn cofnodi mwy nag 1 darn o dir 
  • fyddwch yn hawlio rhyddhad (yn llawn neu'n rhannol) 
  • fydd gennych gydnabyddiaeth ddibynnol neu ddigwyddiadau ansicr 
  • fydd gennych drafodiad cysylltiol 

Dylech ateb 'ydw' i hunanasesiad, hyd yn oed os yw hynny er mwyn nodi bod y dreth sy'n ddyledus yn £0. Dylech ond ateb 'na' os ydych yn hawlio rhyddhad llawn

Os byddwch yn ateb 'na', bydd y gyfrifiannell yn nodi'r dreth sy'n ddyledus fel £0, nid yw'r swm hwn bob amser yn gywir. Rydym wedi bod yn cysylltu ag asiantau a threthdalwyr i gywiro hyn. Gallai cofnodi'r swm anghywir arwain at dreth, llog a chosbau ychwanegol. 

Defnyddiwch ein cyfrifiannell TTT a‘n canllaw TTT i helpu cyfrifo'r dreth. Neu cysylltwch â ni am gymorth. 

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r system ac yn ystyried newidiadau i'r cwestiwn hwn. Os hoffech chi rannu unrhyw adborth am y cwestiwn, cysylltwch â ni ar dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Pa gyfeiriad i'w ddefnyddio ar y ffurflen TTT

Pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen TTT ar ran eich cleient, rydym yn gofyn am:

  • y cyfeiriad gohebu (lle mae eich cleient yn byw)
  • cyfeiriad y tir (yr hyn y mae eich cleient wedi'i brynu)

Mae'n bwysig bod y ddau gyfeiriad yma’n gywir. Byddwn hefyd yn defnyddio'r cyfeiriad gohebu i rannu gwybodaeth gyda'ch cleient. 

Os yw eich cleient yn symud i'r eiddo y maen nhw’n ei brynu

Rhowch gyfeiriad eu heiddo newydd fel y cyfeiriad gohebu. Bydd y cyfeiriad gohebu a'r cyfeiriad tir yr un fath.

Os nad yw'ch cleient yn symud i'r eiddo y maen nhw’n ei brynu

Rhowch y cyfeiriad lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd fel y cyfeiriad gohebu. Bydd y cyfeiriad gohebu a'r cyfeiriad tir yn wahanol.

Ein fforwm TTT nesaf

Yn dilyn llwyddiant ein fforwm TTT wyneb yn wyneb yn Abertawe, rydym yn bwriadu cynnal un arall yn ddiweddarach eleni. 

Mae ein fforymau rhad ac am ddim:

  • ar gyfer cyfreithwyr, trawsgludwyr a'u timau sy'n ffeilio ac yn talu TTT
  • yn darparu gweithdai ar y pynciau rydych chi wedi dweud wrthym yr hoffech i ni ymdrin â nhw
  • yn gyfle i chi gwrdd â rhai o'r bobl sy'n gweithio yn Awdurdod Cyllid Cymru a siarad am ein gwasanaethau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn y diweddariad hwn ac ar ein tudalen hyfforddiant a digwyddiadau pan fyddwn yn derbyn archebion ar gyfer ein fforwm nesaf. 

Offer defnyddiol 

Mae gennym wahanol offer i helpu gyda TTT. Rydym yn eich annog i'w defnyddio a rhoi eich adborth a'ch syniadau i ni i'w datblygu. 

Cyfrifiannell y Dreth Trafodiadau Tir

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i'ch helpu i gyfrifo faint o dreth y gallai fod angen i chi ei thalu os ydych yn prynu eiddo neu dir yng Nghymru. 

Gwirio a yw cod post yng Nghymru 

Defnyddiwch y gwiriwr hwn i weld a yw'r cod post yn perthyn i dir neu eiddo yng Nghymru ar gyfer TTT. 

Cyfrifiannel Treth Trafodiadau Tir gyda rhyddhad anheddau lluosog

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau os ydych yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR). 

Gwiriwr Treth Trafodiadau Tir Cyfradd Uwch 

Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio a yw'r gyfradd uwch o TTT yn berthnasol i drafodiad. 

Helpwch ni i wella ein gwasanaethau

Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau'n haws i'w defnyddio a sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn bodloni eich anghenion chi. Mae eich adborth yn rhan hanfodol o hyn. I gymryd rhan, e-bostiwch dweudeichdweud@acc.llyw.cymru a byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r sesiynau ymchwil defnyddwyr sydd ar ddod. 

Mae cymryd rhan yn wirfoddol a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt ag unrhyw drydydd parti nac yn eu defnyddio at ddibenion marchnata. Darllenwch fwy yn ein polisi preifatrwydd.