Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 8 Mehefin 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y cynllunio manwl yr oedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi bod yn ei wneud. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru

Cyhoeddwyd Diweddariad i'n Strategaeth Genedlaethol ddoe, 7 Mehefin 2021, yn dilyn y diweddariadau a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror a 23 Mawrth. Mae’n sôn am y cynnydd sydd wedi’i wneud ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Fel y nodir yn yr adran isod ar gynnydd, rydym wedi cwblhau cam cyntaf y rhaglen:

  • pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
  • staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • y rhai sy’n 50 oed a hŷn
  • y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth

Rydym yn awr yn ail gam y rhaglen. Yn amodol ar gyflenwadau, ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn sy’n gymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • pawb rhwng 18 a 29 oed
  • oedolion 40-49 a 30-39 oed sydd ar ôl heb eu brechu
  • unrhyw un na chafodd ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae ein rhaglen ar gyfer yr ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen ar gyfer y dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd yr ail ddos.

Ble mae pobl yn cael eu brechu?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 454 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 54 o ganolfannau brechu torfol
  • 313 o leoliadau practis cyffredinol
  • 32 o fferyllfeydd
  • 27 o leoliadau ysbyty
  • ac roedd 26 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawniad o ran marcwyr a cherrig milltir

Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein rhaglen, sy'n cynnwys 2 garreg filltir.

Carreg filltir 1. Yn ein Strategaeth Frechu dywedwyd y byddem, yn amodol ar gyflenwadau:

  • yn cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd ar 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni'r garreg filltir hon.

Amlinellwyd hefyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni’r garreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror: 

  • Marciwr 1: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. 
  • Marciwr 2: cynnig y brechlyn i bob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr.
  • Marciwr 3: sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr.

Erbyn hyn mae’r grwpiau cyntaf hyn yn cael cynnig eu hail ddos o’r brechlyn, sy’n bwysig i’w hamddiffyn yn y tymor hirach. Mae 92% o breswylwyr cartrefi gofal ac 81% o staff cartrefi gofal bellach wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn.

Carreg filltir 2. Fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwadau:

yn cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-9 erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny’n cynnwys pobl 50 oed a hŷn.

Cyflawnwyd y garreg filltir hon ar 4 Ebrill.

Amlinellwyd hefyd 3 marciwr yr oeddem yn disgwyl eu cyflawni yn ystod yr ail garreg filltir erbyn canol mis Ebrill, sef:  

  • Gweinyddu 1 miliwn dos o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed, 27 Chwefror.
  • Gweinyddu 1 miliwn dos cyntaf erbyn 14 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed, 9 Mawrth.
  • Gweinyddu 1.5 miliwn dos yn ystod yr ail garreg filltir. Cyflawnwyd hyn.

I grynhoi:

  • Mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae’r rhai sydd yng ngrŵp blaenoriaeth 10 yn cael ei gynnig ar hyn o bryd;
  • Mae nifer y rhai sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 yn uchel;
  • Yn gyfan gwbl, mae dros 3 miliwn o ddosau o frechlynnau wedi’u rhoi yng Nghymru;
  • Mae dros 2.18 miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf a dros 1.2 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn;
  • Mae 82% o’r grŵp 40-49 oed wedi cael dos cyntaf, 70% o’r grŵp 30-39 oed wedi cael dos cyntaf a 61% o’r grŵp 18-29 oed wedi cael dos cyntaf;
  • Yn gyffredinol, mae 86% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 49% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod i gael ei frechu.

Y marcwyr a’r cerrig milltir nesaf

Mae ail gam ein Rhaglen Frechu wedi dechrau a'n blaenoriaeth bresennol yw’r drydedd garreg filltir yn ein Strategaeth.

Rydym wedi dweud mai ein nod, yn amodol ar gyflenwadau, yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Rydym yn disgwyl cyflawni'r garreg filltir nesaf hon yn gynnar – bydd pawb sydd dros 18 oed yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn dechrau'r wythnos nesaf ac rydym yn disgwyl y bydd 75% o bobl wedi manteisio ar y cyfle i gael eu brechiad cyntaf ar draws yr holl grwpiau blaenoriaeth a’r holl grwpiau oedran tua mis cyn y dyddiad targed.  Mae dros ddwy filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn COVID-19. Yn gyfan gwbl, mae dros dair miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u rhoi yng Nghymru mewn cwta chwe mis.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn gwahodd pobl rhwng 18 a 29 oed i ddod i gael eu brechu. Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor, mae GIG Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob dos o frechlyn sydd wedi’i ddyrannu i Gymru yn cael ei ddanfon yn brydlon i ganolfannau brechu a chontractwyr gofal sylfaenol i’w ddefnyddio yn y rhaglen. Mae hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir.

Rydym yn gweithredu dull dosbarthu mewn union bryd, gan sicrhau bod pob brechlyn sy’n dod i Gymru yn cael ei roi i bobl cyn gynted â phosibl. Mae byrddau iechyd yn cadw eu rhestrau wrth gefn eu hunain ac mae modd iddynt fod yn hyblyg i sicrhau nad oes yr un brechlyn yn cael ei wastraffu, yn enwedig os oes gan y brechlyn derfyn amser buan neu pan fo pobl yn canslo apwyntiad ar fyr rybudd neu’n methu â mynd i’r apwyntiad. Mae modd iddynt hefyd fod yn hyblyg i sicrhau bod pobl yn cael y brechlyn mwyaf priodol iddynt hwy.

Rhagor o wybodaeth

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad pellach i'n Strategaeth Genedlaethol i amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ac i roi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn un o egwyddorion allweddol ein rhaglen frechu. Er bod y nifer sy'n manteisio ar frechlyn COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn, mae grwpiau o'r boblogaeth o hyd sydd, er iddynt dderbyn mwy nag un cynnig, yn dal heb eu brechu. Bydd y GIG bob amser yn barod ichi. Os na wnaethoch chi fanteisio ar eich cynnig cyntaf o frechlyn COVID-19 am ba reswm bynnag ond eich bod wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.

Rydym yn parhau i fonitro’n ofalus yr amrywiolyn sy’n cael ei alw’n amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) a nodwyd gyntaf yn India. Mae ein timau Profi Olrhain Diogelu yn parhau i sicrhau ein bod yn olrhain ac yn monitro unigolion sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion o’r amrywiolyn ac rydym hefyd yn datblygu cynlluniau lleol ymhellach ar gyfer y posibilrwydd y bydd angen cyflwyno profion wedi’u targedu neu gynnal proses ddwysach o brofi. Mae nifer yr achosion o’r amrywiolyn hwn yn isel yng Nghymru, ac mae nifer y bobl sydd eisoes wedi cael eu brechu yma yn uchel, gan gynnwys, ymhlith ein grwpiau sy’n agored i niwed, nifer y rheini sydd wedi cael yr ail ddos. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fonitro’r amrywiolyn hwn yn ofalus yng Nghymru ac, yn unol â chyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor, rydym yn gweithio gyda’n timau rheoli achosion lleol a’n byrddau iechyd i hwyluso’r dasg, yn amodol ar gyflenwadau, o ddarparu ail ddos o’r brechlyn i bobl yn gynharach lle y bydd hynny yn golygu y bydd llai yn cael eu heintio, yn cael salwch difrifol ac yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty.

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn sy’n cael ei alw yn amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yn ein hatgoffa nad yw COVID-19 wedi diflannu, a’i bod yn bwysig iawn eich bod yn derbyn y cynnig i gael eich brechu pan gewch eich gwahodd, gan gynnwys cymryd yr ail ddos pan fydd ar gael ichi er mwyn cael yr amddiffyniad mwyaf.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael digon o frechlynnau i sicrhau bod ail ddosau’n cael eu darparu o fewn y cyfnod a argymhellir, sef 12 wythnos. Yn unol â chyngor presennol y Cyd-bwyllgor, mae gan fyrddau iechyd yr hyblygrwydd i ddarparu ail ddosau yn gynharach mewn ardaloedd penodol os byddant yn penderfynu bod hynny’n flaenoriaeth glinigol a phan fo ganddynt gyflenwad digonol o frechlynnau ar y pryd.

Diogelwch pobl sy’n dod gyntaf bob amser. Rydym yn defnyddio brechlynnau dim ond pan fo’n ddiogel i wneud hynny a phan fo’r manteision yn fwy na’r risg. Rydym yn hyderus yn y brechlynnau ac yn sicr bod yn rhaid inni gadw momentwm. Bydd pobl yn cael eu gwahodd i apwyntiad brechu sy’n defnyddio brechlyn priodol i’w hoedran a’u hamgylchiadau clinigol.

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.