Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 5 Mai 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl oedd wedi bod ar y gweill gan GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt – ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd y Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol ar 26 Chwefror 2021 i ystyried y cynnydd a rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Fel y nodir yn yr adran isod ar gynnydd, rydym wedi cwblhau cam cyntaf y rhaglen:

  • pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn
  • staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • y rhai sy’n 50 oed a hŷn
  • y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth

Rydym yn awr yn ail gam y rhaglen. Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael unrhyw un ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • pawb rhwng 30 a 39 oed
  • oedolion 40-49 oed sydd ar ôl heb eu brechu
  • pobl sy’n byw gydag unigolion a chanddynt systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau’n ddifrifol 
  • unrhyw un na chafodd ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un grŵp i'r nesaf. Mae pob bwrdd iechyd wedi brechu dros 50% o oedolion yn eu 40au yn eu hardal, felly mae’r grŵp oedran 30-39 oed yn cael eu gwahodd i gael eu brechu. 

Mae ein rhaglen ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyn pobl yn y tymor hirach felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd yr ail ddos.

Ble mae pobl yn cael eu brechu?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad a phob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 516 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 56 o ganolfannau brechu torfol
  • 361 o leoliadau practis cyffredinol
  • 14 o fferyllfeydd
  • 40 o leoliadau ysbyty
  • ac roedd 43 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawniad o ran marcwyr a cherrig milltir

Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein rhaglen, sy'n cynnwys 2 garreg filltir. 

Carreg filltir 1

Yn ein Strategaeth Frechu, fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd ar 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni'r garreg filltir hon.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni’r garreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror:  

  • marciwr 1: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr
  • marciwr 2: cynnig y brechlyn i bob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr
  • marciwr 3: sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr

Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn cael cynnig eu hail ddos o’r brechlyn, sy’n bwysig i’w hamddiffyn yn y tymor hirach. Mae 89.3% o breswylwyr cartrefi gofal yn awr wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn, ac mae 90.7% o staff cartrefi gofal wedi cael o leiaf un dos.

Carreg filltir 2

Fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-9 erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny’n cynnwys pobl 50 oed a hŷn. 

Fe wnaethom gyflawni hyn ar 4 Ebrill.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr yr oeddem yn disgwyl eu cyflawni yn ystod yr ail garreg filltir erbyn canol mis Ebrill:   

  • gweinyddu 1 miliwn dos o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 27 Chwefror
  • gweinyddu 1 miliwn dos cyntaf erbyn 14 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 9 Mawrth
  • gweinyddu 1.5 miliwn dos yn ystod yr ail garreg filltir. Cyflawnwyd hyn

I grynhoi:

  • mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae dros 90% ohonynt bellach wedi cael eu dos cyntaf
  • mae nifer y rhai sydd wedi cymryd y brechlyn yn uchel iawn – dros 95% mewn rhai grwpiau, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a'r rhai sy'n 75 oed a hŷn
  • hyd yma, mae 1,873,152 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru
  • mae 783,120 o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn. Gyda’i gilydd, mae mwy na 2.6 miliwn o frechlynnau wedi’u gweinyddu
  • mae 73.9% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf ac mae mwy nag un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos

Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu.

Y marcwyr a’r cerrig milltir nesaf

Mae ail gam ein Rhaglen Frechu wedi dechrau a'n blaenoriaeth bresennol yw’r drydedd garreg filltir yn ein strategaeth. 

Rydym wedi dweud mai ein nod, yn amodol ar gyflenwad, yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Rydym yn symud yn gyflym drwy’r grwpiau oedran yn grwpiau blaenoriaeth 10 ar draws Cymru. Fel yr amlinellwyd yn ein strategaeth frechu, mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un grŵp i'r nesaf. Mae pob bwrdd iechyd wedi brechu dros 50% o bobl 40-49 oed, sy’n golygu bod pobl 30-39 oed nawr yn cael gwahoddiad i’w hapwyntiadau ar draws Cymru.

Mae rhai ardaloedd hefyd yn agos i gyrraedd y porth o 50% o’u poblogaethau grŵp oedran 30-39, sef y trothwy ar gyfer dechrau gwahodd y grŵp nesaf; mae hyn yn golygu y bydd y grŵp 18-29 mewn rhai ardaloedd yn dechrau derbyn llythyron apwyntiad. Yn unol â chyngor y JVCI, mae'r GIG yn gweithio'n galed i sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir i unigolion. Rydym yn mynd ati’n barhaus i adolygu cynnydd ym mhob bwrdd iechyd ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod niferoedd cyson yn cael eu brechu ym mhob ardal fel na fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Mae pobl Cymru yn cymryd cyfrifoldeb ac yn mynd i’w hapwyntiadau, sy’n galluogi’r rhaglen i barhau i symud ymlaen yn gyflym.

Nid yw cyrraedd y porth o 50% yn golygu bod byrddau iechyd yn rhoi’r gorau i alw gweddill y grŵp oedran i gael apwyntiadau. Mae’n caniatáu hyblygrwydd fel bod rhestrau’r clinigau brechu mor llawn â phosibl er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o’r brechlynnau’n cael eu gwastraffu, a bod momentwm yn y rhaglen yn cael ei gadw. Caiff pawb ei alw i gael ei frechu; os byddwch yn colli llythyr, cewch apwyntiad arall.

Rhagor o wybodaeth

Diogelwch pobl fydd yn dod gyntaf bob amser. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddiogelwch. Yr ydym yn hyderus yn ein brechlynnau ac yn sicr bod yn rhaid inni gadw momentwm. Rydym bob amser wedi cadw at gyngor arbenigol y JCVI a byddwn yn parhau i wneud hynny drwy gydol y rhaglen.

Y dystiolaeth ddiweddaraf o’r byd go iawn ar effeithiolrwydd brechu. Mae astudiaeth newydd gan Public Health England (PHE) wedi dangos bod un dos o frechlyn COVID-19 yn lleihau’r gyfradd drosglwyddo mewn aelwydydd hyd at hanner. Mae’r ymchwil newydd yn dangos bod y rheini a gafodd y dos cyntaf o naill ai’r brechlynnau Pfizer neu’r AstraZeneca – ac a gafodd eu heintio dair wythnos yn ddiweddarach – rhwng 38% a 49% yn llai tebygol o basio’r feirws ymlaen o gymharu â phobl oedd heb eu brechu, yn ôl PHE. Nid yw’r astudiaeth wedi cael ei hadolygu’n llawn gan gymheiriaid eto, ond rydym yn sicr yn croesawu’r newyddion.

Y cyflenwad o’r brechlyn yw’r ffactor cyfyngol yn ein rhaglen. Rydym yn parhau i reoli’r cyflenwad sydd wedi’i glustnodi i Gymru, ac mae byrddau iechyd a meddygon teulu yn cael cyflenwad digonol o’r brechlyn ar gyfer yr ail ddosau bob rhyw 11 i 12 wythnos. Mae’n bwysig bod pawb yn cael yr ail ddos er mwyn cwblhau’r cwrs brechu.

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o’r rhai sy’n cymryd y brechlyn er mwyn cadw Cymru yn ddiogel. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Bydd diogelwch pobl bob amser yn dod yn gyntaf. Mae’r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddiogelwch. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus. Rydym yn ffyddiog yn ein brechlynnau ac yn sicr bod rhaid inni gynnal y momentwm.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.