Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 31 Awst 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu COVID-19 i Gymru ar 11 Ionawr 2021. Ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion Rhaglen Frechu Cymru.

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Chwefror 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mawrth 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mehefin 2021 

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
     
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol.
     
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Cyhoeddodd Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyngor pellach ar frechu pobl ifanc. Diweddarodd JCVI ei gyngor ar 4 Awst i argymell y dylid cynnig dos cyntaf o frechlyn Pfizer i bob person ifanc 16 ac 17 oed. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnig presennol o ddau ddos o frechlyn i bobl ifanc 16 i 17 oed sydd mewn grwpiau sy’n wynebu mwy o risg, a phobl ifanc sydd o fewn tri mis i'w pen-blwydd yn 18 oed.

Mae’r Byrddau Iechyd wedi bod yn gweithio'n galed ar y trefniadau sydd eu hangen i gynnig brechlyn i bob plentyn 16 ac 17 oed yn unol â'r cyngor hwn. Derbyniodd pob plentyn 16 ac 17 oed yng Nghymru eu cynnig o frechlyn COVID-19, a chafodd yr holl apwyntiadau eu trefnu erbyn diwedd mis Awst.  Mae clinigau galw i mewn hefyd ar agor ledled Cymru, sy’n cynnig cyfle i bobl gael brechiad pan mae’n gyfleus iddyn nhw.

Mae apwyntiadau’n cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed sy'n gymwys i gael y brechlyn fel y nodwyd gan JCVI.

Mae’n bwysig bod pawb yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad, yn enwedig pobl ifanc fel eu bod mewn llai o berygl o effeithiau’r coronafeirws gan ein bod bellach yn gallu cymdeithasu mwy.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi ei aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19.

Statws brechu COVID-19

Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, os cawsoch eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Mae pob dos o'r brechlyn AstraZeneca a ddefnyddir yn y DU a Chymru wedi'u hawdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn dilyn gwiriadau diogelwch ac ansawdd trylwyr.  Mae holl frechlynnau COVID-19 AstraZeneca a ddefnyddir yn y DU yr un fath, waeth ble cawsant eu cynhyrchu, a byddant yn ymddangos ar , os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID y GIG fel Vaxzevria.

Nid yw MHRA wedi cymeradwyo dosau a frandiwyd fel Covishield ac nid yw hwnnw wedi’i roi yn y DU o gwbl. Ni ddylai Covishield ymddangos ar eich tystysgrif. Os yw hynny wedi digwydd, efallai yr hoffech ofyn am gopi newydd o'ch tystysgrif. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i: Pàs COVID y GIG: dangoswch eich statws brechu.

Os oes camddealltwriaeth gyda gwledydd unigol, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i drafod dilysrwydd y brechlynnau yn uniongyrchol gyda'r Llywodraeth berthnasol. Er enghraifft, cododd sefyllfa o’r fath gyda Malta ac fe wnaeth Llywodraeth Malta gadarnhau ar 15 Gorffennaf ei bod yn derbyn pob brechlyn COVID-19 y mae MHRA wedi’i gymeradwyo a diweddarwyd holl gyngor teithio’r DU.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Crynodeb cyfredol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 4.5 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru;
  • Mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed;
  • Mae dros 2.35 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 2.18 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn o frechlyn;
  • Mae 76% o oedolion 18 i 29 oed a 77% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu dos cyntaf;
  • Mae 61% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu eu dos cychwynnol;
  • Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd;

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

  • yn darparu dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Dosau cyntaf ar gyfer plant cymwys 12 i 15 oed a nodwyd gan JCVI
  • Dos cychwynnol ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys.

Rhagor o wybodaeth

Yn ystod y tymor newydd, bydd y diweddariadau hyn yn cael eu cyhoeddi bob pythefnos.

Mae’r cyfraddau brechu ar gyfer gwledydd y DU wedi diweddaru i ddefnyddio'r amcangyfrifon diweddaraf o’r boblogaeth 16+ oed ar ganol 2020 gan fod y JCVI wedi argymell y grŵp oedran hwn i'w frechu. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u diweddaru wedi'u cymhwyso i bob dyddiad drwy gydol y rhaglen frechu. Mae ychwanegu ffigurau poblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i17 oed wedi cynyddu nifer cyffredinol y boblogaeth, sydd wedi achosi gostyngiad disgwyliedig yng nghanran y boblogaeth y dangosir eu bod wedi’u brechu. Mae data am yr holl frechiadau yn y DU, a chymariaethau o fewn y DU, ar gael yma.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.