Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 30 Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Ddoe, gwnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddiweddaru eu cyngor ynghylch y rhaglen brechiadau atgyfnerthu. Yng ngoleuni’r bygythiad sy’n cael ei achosi gan Omicron, yr amrywiolyn sy’n peri pryder diweddaraf, gofynnwyd i'r JCVI adolygu Rhaglen Frechu COVID-19 y DU yn gyflym.

Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor ystyried pa newidiadau, os o gwbl, oedd angen eu gwneud i'r rhaglen.

Gofynnwyd hefyd iddynt gynghori ar strategaeth i achub bywydau, diogelu'r GIG a lleihau cymaint â phosibl ar nifer yr heintiadau, cyn i unrhyw don Omicron gyrraedd ei brig.

Mae’r JCVI wedi argymell y dylid cyflymu'r rhaglen frechu drwy ddilyn y cyngor sydd wedi’i nodi isod:  

  • Mae pob oedolyn sydd dros 18 oed bellach yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu, ond dylid rhoi blaenoriaeth o hyd i oedolion hŷn a'r rheini sydd mewn perygl.
  • Dylai’r cyfnod cyn y cynigir dos atgyfnerthu gael ei leihau i o leiaf dri mis ar ôl cwblhau’r cwrs sylfaenol.
  • Dylai unigolion sydd â system imiwnedd wan sydd wedi cwblhau eu cwrs sylfaenol o dri dos gael cynnig dos atgyfnerthu, gydag o leiaf dri mis rhwng y trydydd dos sylfaenol a'r dos atgyfnerthu, yn unol â’r cyngor clinigol ar yr amseru gorau posibl.
  • Ni ddylid gwahaniaethu rhwng y brechlynnau Moderna a Pfizer-BioNTech wrth ddewis pa un i’w ddefnyddio fel rhan o’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19. Dangoswyd bod y ddau frechlyn yn cynyddu lefelau gwrthgyrff yn sylweddol pan fyddant yn cael eu cynnig fel dos atgyfnerthu.

At hynny, mae’r JCVI yn cynghori, fel ail gam, yn amodol ar ystyriaeth briodol gan y timau a fydd yn rhoi’r pigiadau o ba mor ymarferol fydd gwneud hynny, y dylid cynnig ail ddos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech i bob plentyn a pherson ifanc 12 i 15 mlwydd oed. o leiaf 12 wythnos ar ôl iddynt gael eu dos cyntaf. Gellir lleihau'r bwlch ar gyfer y grŵp hwn (a phobl ifanc 16 i 17 oed) i o leiaf 8 wythnos rhwng dosau os bydd y data epidemiolegol sy'n dod i’r amlwg yn cefnogi hyn. 

Nid yw’n hysbys eto faint o amddiffyniad y bydd y brechlynnau COVID-19 yn ei roi yn erbyn yr amrywiolyn Omicron. Fodd bynnag, teimlai'r JCVI y byddai cyflymu'r rhaglen yn sicrhau bod unigolion yn cael yr amddiffyniad gorau posibl. Drwy ymestyn cymhwysedd a lleihau'r bwlch cyn rhoi pigiad atgyfnerthu, y nod yw lleihau effaith yr amrywiolyn newydd ar y boblogaeth, a hynny cyn inni wynebu ton o heintiadau. Bydd y JCVI yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth i ragor o ddata ddod i’r amlwg. 

Byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol, fel yr ydym wedi’i wneud ers dechrau'r pandemig. Rwyf wedi derbyn argymhellion y JCVI, yn unol â gwledydd eraill y DU. Bydd GIG Cymru yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol i gynyddu'r capasiti ar gyfer gweithredu'r cyngor hwn. 

Yn unol â chyngor y JCVI, bydd ein canolfannau brechu yn cynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 Pfizer-BioNTech neu Moderna. Mae’r ddau frechlyn yn effeithiol ac wedi cael eu cymeradwyo gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU.

Beth am fy apwyntiad i?

Bydd pob unigolyn sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn cael gwahoddiad yn awtomatig i fynd i apwyntiad pan ddaw eu tro. Dylai’r rheini sydd wedi cael apwyntiad am bigiad atgyfnerthu yn barod fynd ar y dyddiad a’r amser y maen nhw wedi’u derbyn. Bydd apwyntiadau ar gyfer pob unigolyn arall sydd nawr yn gymwys yn cael eu trefnu gan eu byrddau iechyd yn unol â’r cyngor diweddaraf gan y JCVI ac yn unol â’u hoed a pha mor agored i niwed ydynt yn glinigol.   

Does dim angen cysylltu â’ch bwrdd iechyd na’ch meddyg teulu i wirio a oes gennych apwyntiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu, byddwch yn cael eich gwahodd pan ddaw eich tro.

O ystyried cyngor y JCVI, sydd wedi cael ei ddiweddaru, bydd nifer sylweddol o apwyntiadau brechu yn cael eu rhoi dros yr wythnosau nesaf. I helpu ein GIG, gofynnwn i bobl gadw’r apwyntiad a roddir iddynt pan fo hynny’n bosibl. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i'n gwasanaeth aildrefnu negeseuon testun fynd yn fyw heddiw a byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad nesaf yn ein Strategaeth Frechu ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Mae hyn yn golygu, o yfory ymlaen, bydd gennych yr opsiwn i aildrefnu eich apwyntiad drwy neges destun os na allwch gadw’r apwyntiad a roddir ichi. 

Os ydych chi dros 18 oed neu o dan 18 oed ac mewn grŵp risg uchel a byddwch yn dal COVID-19 pan fyddwch ar fin cael eich pigiad COVID-19, mae angen i chi aros 28 diwrnod cyn cael y pigiad. Rhaid gwneud hyn er mwyn osgoi camgymryd symptomau a fydd yn dod i’r amlwg ar ôl cael y pigiad am symptomau COVID-19.

O ran plant a phobl ifanc o dan 18 oed nad ydynt mewn grwpiau risg uchel, mae’r JCVI wedi dweud, ar ôl ichi gael eich heintio gyda COVID-19, y dylech aros am 12 wythnos yn ddelfrydol cyn ichi gael y pigiad.

Neb yn cael ei adael ar ôl

Nawr, yn fwy nag erioed, gyda bygythiad yr amrywiolyn newydd hwn, mae'n bwysig bod pobl yn dod i’w hapwyntiadau pan fyddant yn cael eu galw, yn enwedig y rheini nad ydyn nhw wedi cymryd eu dos cyntaf neu eu hail ddos hyd yma. 

Os nad ydych wedi cael dos cyntaf neu ail ddos, nid yw'n rhy hwyr ichi gael eich brechu. Gall unrhyw un sydd am dderbyn eu cwrs sylfaenol (sef dos cyntaf neu ail ddos) gysylltu â'u bwrdd iechyd i drefnu pigiad. Os ydych wedi cael eich cwrs sylfaenol ac rydych yn aros am eich pigiad atgyfnerthu, gofynnwn ichi fod yn amyneddgar ac aros i gael eich galw. Ni fydd neb sy'n dewis cael eu brechu yn cael eu gadael ar ôl. Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am frechu a'ch cefnogi i gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu torfol ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros ac mae gan lawer ohonynt nyrsys arbenigol yn bresennol hefyd, i gynorthwyo'r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin am y brechlyn a diogelwch.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs COVID yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

O 15 Tachwedd, bydd hefyd angen Pàs COVID i fynd i:

  • Sinemâu
  • Theatrau
  • Neuaddau cyngerdd

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs Covid i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn rhoi’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i bawb sy’n 12 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys
  • Trydydd dos sylfaenol a dos atgyfnerthu i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn
  • Dosau atgyfnerthu i’r rhai sy’n gymwys 

Wrth i ni barhau i weithredu ar egwyddor o adael neb ar ôl, mae'r GIG yn parhau i fynd yn ôl a chynnig pigiad i’r rhai nad ydynt wedi manteisio ar eu cynnig eto.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 5.61 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.46 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.26 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae 71.8% o oedolion 18 i 29 oed a 74.6% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu hail ddos
  • Mae 76.2% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 53.8% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 42,000 o bobl sydd â system imiwnedd wan iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae mwy na 840,000 o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 32.1% o bobl 12 oed+ yng Nghymru wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos
  • Mae 81.6% o breswylwyr cartrefi gofal a 63.1% o staff cartrefi gofal ac 80% o oedolion dros 80 oed wedi cael eu dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Maen nhw hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd ar gael yma: Brechu COVID-19 a beichiogrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae astudiaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (a arferai gael ei galw yn Public Health England PHE) yn darparu rhagor o ddata ar ddiogelwch brechlynnau COVID-19 adeg beichiogrwydd: New UKHSA study provides more safety data on COVID-19 vaccines in pregnancy - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.