Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 26 Ionawr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1–4. Bydd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n agored iawn i niwed yn glinigol. Yn amodol ar gyflenwad, rydym wedi dweud mai ein huchelgais yw gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror.

Hyd yma mae bron i 290,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru. Mae mwy o bobl bellach wedi cael eu brechu ers dechrau mis Rhagfyr, nag sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws yng Nghymru yn ystod y pandemig.

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned. Bwriedir i'r model hwn hefyd sicrhau bod ein cartrefi gofal a'r boblogaeth hŷn yn cael y brechlyn cyn gynted â phosibl.

Yr wythnos diwethaf, ychwanegwyd Canolfannau Brechu Cymunedol i'r model cyflenwi. Bydd Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ymarferwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys deintyddion ac optometryddion, gan gynnig ateb mewn cymunedau lleol ond ar raddfa fwy na phractisau meddygon teulu yn unig.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld ein seilwaith yn ehangu ymhellach, gan gynnwys:

  • cynyddu nifer y canolfannau brechu torfol i 30, yn ogystal â defnyddio 17 safle ysbyty acíwt a chymunedol
  • mae dros 300 o bractisau meddygon teulu yn cynnig y brechlyn bellach, sy'n fwy na'r nod o 250 o bractisau erbyn diwedd mis Ionawr y gwnaethom ymrwymo iddo yn ein Strategaeth
  • mae’r dosau o’r brechlyn sydd wedi’u danfon i fyrddau iechyd wedi cynyddu eto i tua 150,000
  • mae clystyrau o bractisau meddygon teulu yn dod at ei gilydd i gynnal clinigau brechu wrth galon cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys ar Benrhyn Llŷn

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror: 

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn. Mae mwy na 65% o staff rheng flaen wedi manteisio ar y cynnig o'r brechlyn hyd yma.

Yr ydym ar y ffordd i gyflawni ein carreg filltir gyntaf.

Mae'r gwahaniaeth hwn rhwng cynnig y brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a bod 65% wedi derbyn eu dos cyntaf hyd yma yn bwynt pwysig. Nid yw derbyn y brechiad yn orfodol, felly mae'n bosibl na fyddwn yn cyrraedd 100% o bob carfan oherwydd y bydd rhai pobl yn dewis peidio â chael y brechlyn. Rydym yn canolbwyntio ar feithrin hyder yn y defnydd o frechlynnau drwy ein strategaeth gyfathrebu. Ystyriaeth bwysig arall, yn enwedig gyda staff iechyd a gofal rheng flaen, yw a ydynt ar gael i fynychu apwyntiad. Gwyddom, er enghraifft, nad yw rhai parafeddygon wedi gallu mynychu apwyntiad brechlyn eto oherwydd eu patrwm sifftiau neu oherwydd eu bod yn hunanynysu ar hyn o bryd. Mae ein strategaeth yn gosod cerrig milltir yn seiliedig ar gynnig brechlynnau, oherwydd mai dyma'r hyn y gallwn ei reoli ac anelu amdano.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym hefyd wedi cyflawni Marciwr 3 yn ein strategaeth. Mae'r strategaeth yn gosod yr uchelgais i sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi’r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Roedd dros 300 o bractisau meddygon teulu yn ymwneud â darparu'r brechlyn yr wythnos diwethaf, sy'n golygu ein bod wedi rhagori ar ein nod ac wedi gwneud hynny'n gynharach nag sydd wedi’i amlinellu yn y strategaeth.

Mae ein dull yn cynnwys pob gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr, wrth ddarparu'r brechlyn. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot Fferyllfeydd Cymunedol, Canolfannau Brechu Cymunedol ac, o'r penwythnos diwethaf, clystyrau o bractisau meddygon teulu yn cynnal clinigau mewn cymunedau lleol. Amcangyfrifwyd bod y 3 chlinig clwstwr meddygon teulu a gynhaliwyd y penwythnos diwethaf wedi rhoi 3,000 o frechlynnau dros y penwythnos, a llawer o'r rhain i'r grŵp blaenoriaeth dros 80 oed.

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Disgwylir y byddwn wedi cyflawni’r Marciwr nesaf yn ein strategaeth erbyn diwedd mis Ionawr ac rydym yn gwneud cynnydd da.

Y Marciwr hwn yw:

  • cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal

Ar hyn o bryd, rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal y dydd ar gyfartaledd. Mae dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal, sef tua 67% o'r grŵp blaenoriaeth hwn, bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn. 

Mae'r cynnydd hwn, a’r ffaith ein bod yn parhau i adeiladu ein seilwaith, yn rhoi hyder inni ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni ein carreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror.

Rhagor o wybodaeth

Rydym wedi dechrau cyhoeddi mwy o ddata ar frechlynnau dros yr wythnosau diwethaf. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn cyhoeddi datganiad data gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r datganiad yn cyflwyno nifer cyffredinol y brechlynnau a roddwyd (dos cyntaf ac ail ddos); yn ogystal â dadansoddiadau o rai grwpiau blaenoriaeth, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys y rhai dros 80 oed, y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal, gweithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal iechyd. Bydd dadansoddiadau pellach yn cael eu hychwanegu wrth i ni symud drwy'r carfannau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad wythnosol sy'n dadansoddi'r data i lefel bwrdd iechyd. Cyhoeddir hwn bob dydd Iau.

O heddiw ymlaen, bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn dechrau cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen, a hynny’n rheolaidd. Rhyddhawyd y cyntaf o'r cyhoeddiadau hyn heddiw a bydd y cyhoeddiad hwn yn wythnosol o hyn ymlaen. Mae data ar wastraff yn cael eu cynnwys fel rhan o'r cyhoeddiad hwn. Roeddem hefyd wedi bwriadu cyhoeddi data ar stoc brechlynnau, fodd bynnag mae Llywodraeth y DU wedi gofyn inni beidio â gwneud hynny oherwydd y sensitifrwydd masnachol presennol. Rydym yn gweithio ar draws y 4 gwlad i ddod i gytundeb ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am stoc a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.