Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 20 Ebrill 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl oedd wedi bod ar y gweill gan GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt – ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd y Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol ar 26 Chwefror 2021 i ystyried y cynnydd a rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Fel y nodir yn yr adran isod ar gynnydd, rydym wedi cwblhau cam cyntaf y rhaglen:

  • pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn
  • staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • y rhai sy’n 50 oed a hŷn
  • y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth

Rydym yn awr yn symud i ail gam y rhaglen. Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolion cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael unrhyw un ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • pawb rhwng 40 a 49 oed
  • pobl sy’n byw gydag unigolion a chanddynt systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau’n ddifrifol 
  • unrhyw na chafodd ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un grŵp i'r nesaf. Mae rhai byrddau iechyd eisoes wedi brechu dros 50% o oedolion yn eu 40au yn eu hardal, felly maent bellach wedi dechrau gwahodd y grŵp oedran 30-39 oed. 

Hyd yma mae mwy na 1,699,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru. Mae ein rhaglen ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen dos cyntaf ac mae dros 610,800 o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyn pobl yn y tymor hirach felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd yr ail ddos. Gyda’i gilydd, mae mwy na 2.3 miliwn o frechlynnau wedi cael eu gweinyddu.

Ble mae pobl yn cael eu brechu?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad a phob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 551 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

•    46 o ganolfannau brechu torfol
•    392 o leoliadau practis cyffredinol
•    14 o fferyllfeydd
•    46 o leoliadau ysbyty
•    ac roedd 49 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawniad o ran marcwyr a cherrig milltir

Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein rhaglen, sy'n cynnwys 2 garreg filltir. 

Carreg filltir 1. Yn ein Strategaeth Frechu, fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd ar 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni'r garreg filltir hon.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni’r garreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror:  

  • marciwr 1: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr
  • marciwr 2: cynnig y brechlyn i bob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr
  • marciwr 3: sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr

Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn cael cynnig eu hail ddos o’r brechlyn, sy’n bwysig i’w hamddiffyn yn y tymor hirach. Mae tua 80% o breswylwyr cartrefi gofal, a’u staff gofal, yn awr wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn, ac mae 90% o staff cartrefi gofal wedi cael o leiaf un dos.

Carreg filltir 2. Fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad:

  • yn cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-9 erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny’n cynnwys pobl 50 oed a hŷn. Rhoddwyd 1.5 miliwn o frechiadau
  • fe wnaethom gyflawni hyn ar 4 Ebrilla

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr yr oeddem yn disgwyl eu cyflawni yn ystod yr ail garreg filltir erbyn canol mis Ebrill:  

  • gweinyddu 1 miliwn dos o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 27 Chwefror
  • gweinyddu 1 miliwn dos cyntaf erbyn 14 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 9 Mawrth
  • gweinyddu dros 1.5 miliwn dos yn ystod yr ail garreg filltir. Cyflawnwyd hyn 

I grynhoi:

  • mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae dros 90% ohonynt bellach wedi cael eu dos cyntaf
  • mae nifer y rhai sydd wedi cymryd y brechlyn yn uchel iawn – dros 95% mewn rhai grwpiau, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a'r rhai sy'n 75 oed a hŷn
  • hyd yma 1,699,092 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru
  • 610,882 o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn. Gyda’i gilydd, mae mwy na 2.3 miliwn o frechlynnau wedi’u gweinyddu
  • rydym yn cynnal y gyfradd frechu orau ar gyfer dos cyntaf yn y DU, fel y mae’r siart cyfartaledd treigl 7 diwrnod a ganlyn yn ei ddangos. Hefyd, mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Roeddem yn drydydd yn y byd yr wythnos ddiwethaf – y tu ôl i’r Emiraethau Arabaidd Unedig ac Israel.
Image
Image showing different test results

Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu.

Y marcwyr a’r cerrig milltir nesaf

Rydym wedi dechrau ar ail gam ein Rhaglen Frechu a'n blaenoriaeth bresennol yw’r drydedd garreg filltir yn ein strategaeth. 

Rydym wedi dweud mai ein nod, yn amodol ar gyflenwad, yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae pobl rhwng 40 a 49 oed yn cael eu galw am eu hapwyntiadau ledled Cymru, gyda rhai ardaloedd eisoes wedi cyrraedd y porth o 50%, sef y trothwy ar gyfer dechrau gwahodd y grŵp nesaf, y rhai rhwng 30 a 39 oed, i gael eu brechu.

Rhagor o wybodaeth

Cyflenwad yw’r ffactor sy’n cyfyngu ar ein rhaglen. Rydym yn ymwybodol o ostyngiad disgwyliedig yn y cyflenwad o’r brechlyn Moderna i’r DU. Rydym wrthi’n ystyried beth fydd hyn yn ei olygu i’n rhaglen yng Nghymru. Byddwn yn parhau i drafod y mater â Llywodraeth y DU, gan ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cyrraedd y cerrig milltir yn ein strategaeth genedlaethol.

Cafodd cyngor terfynol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch blaenoriaethu yn ystod ail gam y rhaglen ei gyhoeddi ar 13 Ebrill. Mae’r cyngor hwn yn cadarnhau mai'r ffordd gyflymaf o frechu pawb yw parhau â’r dull seiliedig ar oedran ar gyfer gweddill y boblogaeth, gan ddechrau gyda'r oedolion hynaf yn gyntaf. Ar yr un pryd, dylid parhau i geisio estyn y cwmpas i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9.  

Bydd diogelwch pobl bob amser yn dod yn gyntaf. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus. Rydym yn ffyddiog yn ein brechlynnau ac yn sicr bod rhaid inni gynnal y momentwm. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (‘yr Asiantaeth’), yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddiogelwch. 

Mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn i fenywod beichiog yr un pryd â menywod nad ydynt yn feichiog, ar sail eu grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol. Erbyn hyn, mae tystiolaeth helaeth ar gael o’r defnydd o’r brechlynnau Pfizer a Moderna yn yr Unol Daleithiau ar ôl eu rhyddhau ar y farchnad, heb unrhyw signalau diogelwch hyd yma. Felly, y brechlynnau hyn yw’r rhai a ffefrir ar gyfer menywod beichiog. Dylai clinigwyr drafod risgiau a manteision brechu â’r fenyw, a dylid dweud wrthi am y dystiolaeth gyfyngedig, ond sy’n dod i’r amlwg, ynghylch diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd. Y cyngor i fenywod beichiog sydd wedi dechrau cael eu brechu gyda’r brechlyn AstraZeneca yw parhau â’u cwrs brechu gyda’r un brechlyn.

Mae pennod 14a y Llyfr Gwyrdd hefyd yn cadarnhau y gall menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd, sydd newydd roi geni, neu sy’n bwydo ar y fron gael eu brechu gydag unrhyw frechlyn, yn unol â’u grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol.

Bu signal diogelwch mewn perthynas â’r brechlyn AstraZeneca ac rydym wedi bod yn ei fonitro'n ofalus. Mae'r Asiantaeth wedi cyhoeddi cyngor newydd sy'n nodi bod cysylltiad posibl rhwng Brechlyn COVID-19 AstraZeneca a ffurf eithriadol o brin o glotiau gwaed. Mae'r risg yn fath penodol a phrin iawn o glot gyda chyfrif platennau isel (a elwir yn thrombosytopenia). Mae manteision brechu yn parhau i fod yn fwy nag unrhyw risgiau ond mae’r Asiantaeth yn cynghori y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael mathau penodol o glotiau gwaed oherwydd cyflyrau meddygol. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd wedi cyhoeddi cyngor mewn perthynas â defnyddio AstraZeneca yr ydym yn ei ddilyn. Maent wedi dweud y canlynol: 

  • dylai'r rhai rhwng 18 a 29 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes gael brechlyn COVID-19 amgen pan fo dewis arall ar gael
  • dylai'r bobl hynny sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca barhau i gael yr ail ddos
  • dylid rhoi gwybodaeth i unigolion sy'n cael cynnig brechiad a dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod â’r wybodaeth ddiweddaraf i adlewyrchu'r ystyriaethau hyn

Rydym yn cymryd y cyngor hwn o ddifri a byddwn yn sicrhau bod y cyngor wedi'i ddiweddaru er diogelwch pobl. Bydd y GIG yng Nghymru yn rhoi’r cyngor ar waith mor effeithlon â phosibl a bydd yn sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael ar yr adeg iawn i unigolion. Yn amodol ar gyflenwad brechlynnau, bydd y rhai o dan 30 oed yn cael cynnig brechlyn amgen. Mae hwn yn fesur rhagofalus ac nid oes unrhyw bryderon difrifol ynghylch diogelwch. I'r rhan fwyaf o'r boblogaeth, ystyrir bod y brechlyn AstraZeneca yn frechlyn diogel ac effeithiol o hyd.

Dylai pobl sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca barhau i gael yr ail ddos. Os oes gan bobl bryderon, yna dylent drafod y rhain gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a fydd yn cael ei hysbysu o sgil-effeithiau, effeithiolrwydd, manteision a risgiau'r brechlyn.

Rhaid i ni gael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol sydd ar gael ar y mater hwn a byddwn yn parhau i ddefnyddio brechlynnau pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny a bod y manteision yn parhau i fod yn fwy na'r risgiau. Mae'n bwysig nodi mai anaml y gall y math hwn o glot gwaed, ynghyd â phlatennau isel, ddigwydd yn naturiol mewn pobl heb eu brechu yn ogystal ag mewn pobl â chlefyd COVID-19.

Yng Nghymru mae dros 1 miliwn o bobl wedi cael brechlyn Oxford AstraZeneca ers mis Ionawr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o 1 achos a gadarnhawyd ac 1 achos posibl o glot prin ar ôl cael y brechlyn AstraZeneca, heb unrhyw farwolaethau. Mae ymchwiliadau trylwyr yn parhau i'r holl achosion a gofnodwyd.

O gymharu risgiau, pe byddai 1 miliwn o bobl yn eu 40au wedi'u heintio â COVID-19 byddai'n arwain at tua 1000 o farwolaethau. Mae'r risg yn amrywio yn ôl oedran a risgiau clinigol. 

Dywedodd y Dr June Raine, prif weithredwr yr Asiantaeth:

O'r adroddiadau hyn, mae'r risg o'r math hwn o glot gwaed prin yn tua phedwar o bobl ym mhob miliwn sy'n cael y brechlyn.

Mae’r risg felly yn un ym mhob 250,000, neu 0.0004%.

Mae'n arferol disgwyl rhai sgil-effeithiau wrth gael brechlyn, ond er bod yr Asiantaeth yn parhau i ymchwilio i'r achosion hyn. Fel mesur rhagofalus, cynghorir unrhyw un sy'n datblygu symptomau ar ôl cael ei frechu i geisio cyngor meddygol ar unwaith. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys: 

  • diffyg anadl, poen yn y frest neu boen parhaus yn yr abdomen, chwydd yn y coesau
  • golwg aneglur, dryswch neu ffitiau
  • brech gyda smotiau bach anesboniadwy neu gleisio unrhyw le ac eithrio safle’r chwistrelliad 

At hynny, dylai unrhyw un sydd â chur pen difrifol neu barhaus newydd nad yw'n ymateb i gyffuriau lladd poen syml ac sy'n dechrau bedwar diwrnod neu ragor ar ôl brechu siarad â'u meddyg.  

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth.  

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o’r rhai sy’n cymryd y brechlyn. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.