Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 2 Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl oedd wedi bod ar y gweill gan GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau– rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
     
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt – ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
     
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol ar 26 Chwefror 2021 i ystyried y cynnydd a rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Ein blaenoriaeth gyntaf oedd cynnig y brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1-4. Roedd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Dywedasom, yn amodol ar y cyflenwad, mai ein huchelgais oedd gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror. Cyflawnwyd y targed hwnnw. Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn dechrau cael cynnig ail ddos y brechlyn, sy’n bwysig i sicrhau diogelwch hirdymor.

Rydym yn awr yn brechu’r set nesaf o grwpiau blaenoriaeth:

  • pawb rhwng 50 a 69 oed
  • pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn perygl o ddioddef salwch difrifol gyda COVID-19 – gan gynnwys rhai pobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol
  • gofalwyr di-dâl sy’n darparu gofal i rywun sy’n agored i niwed yn glinigol yn sgil COVID-19

Yn amodol ar y cyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bawb yn y grwpiau hyn erbyn canol mis Ebrill.

Ddydd Sadwrn 27 Chwefror, gwnaethom basio’r trothwy o un filiwn o frechlynnau. Gan ystyried y dosau cyntaf a’r ail ddosau, roeddem wedi gweinyddu 1,005,389 o frechlynnau. Roedd dros 38% o boblogaeth oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn.

Hyd yn hyn mae mwy na 930,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru; ac mae 111,000 wedi cael dau ddos y brechlyn. 

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi? 

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliadau sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned. 

Gwelwyd cyflenwad is o frechlynnau yn y DU dros yr wythnosau diwethaf. Roedd hyn yn ddisgwyliedig ac roeddem wedi cynllunio ar ei gyfer, gan addasu’r seilwaith i ddiwallu’r cyflenwad. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechlynnau’n cael eu rhoi mewn 492 o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys:

  • 36 o ganolfannau brechu torfol
  • 377 o leoliadau practis cyffredinol
  • 35 o ysbytai
  • gan 37 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror:  

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn. 

Marciwr 2 oedd cynnig y brechlyn i bob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 3 oedd bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn a rhagorwyd arno cyn y dyddiad a nodwyd. 

Carreg Filltir 1 yn ein strategaeth oedd bod wedi:

  • cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd gennym ddydd Gwener 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir hon. Mae pob unigolyn yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig y brechlyn ac mae mwy na 80% yn awr wedi derbyn eu dos cyntaf. Mae dros 90% o rai grwpiau yn manteisio ar y brechlyn, gan gynnwys unigolion dros 80 oed.

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Mae’r diweddariad i’n Strategaeth yn rhoi manylion pellach am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol. Ein blaenoriaeth bresennol yw carreg filltir 2 yn ein strategaeth. Rydym wedi dweud mai ein nod yw cynnig dos cyntaf y brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill. Ein nod gwreiddiol oedd gwneud hyn erbyn diwedd mis Ebrill, ond gan y bydd y cyflenwadau o’r brechlyn ar gael yn gynt, rydym wedi gallu dod â’r dyddiad targed ymlaen.

Mae’r diweddariad i’n Strategaeth hefyd yn rhoi gwybodaeth bellach am gam 2 ein rhaglen, a charreg filltir 3 yn ein Strategaeth. Rydym wedi cadarnhau y bydd ein rhaglen yn parhau i ddilyn dull blaenoriaethu yn seiliedig ar oedran. Y rheswm dros hyn yw mai oedran yw’r ffactor risg mwyaf, a bod defnyddio oedran, yn hytrach nag unrhyw ddull arall o flaenoriaethu, yn ein galluogi i barhau i roi’r brechlynnau mor gyflym ag yr ydym wedi’u rhoi hyd yma. Bydd pedair gwlad y DU yn symud ymlaen yn yr un modd.

Pan fydd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol wedi cael cynnig dos cyntaf y brechlyn, bydd GIG Cymru’n cynnig y brechlyn i unigolion 40-49 oed. Rydym wedi dweud mai ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf.   

Rhagor o wybodaeth

Yn ogystal â chyhoeddi Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol, yr wythnos diwethaf gwnaethom hefyd gyhoeddi dau ganllaw pwysig yn ymwneud â chymhwysedd, adnabod a chefnogi llawer o ofalwyr di-dâl a phobl gydag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol a fydd yn cael eu blaenoriaethu i gael y brechlyn.

Bydd Adran 4 yn ein diweddariad i’r Strategaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr ymchwil sy’n cael ei chyhoeddi ar effeithiolrwydd y brechlynnau. Mae’r ymchwil yn gadarnhaol iawn ond mae gennym ragor i’w ddysgu eto.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.