Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 2 Chwefror 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1–4. Bydd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n agored iawn i niwed yn glinigol. Yn amodol ar gyflenwad, rydym wedi dweud mai ein huchelgais yw gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror.

Hyd yn hyn mae bron i 440,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru. Mae hynny bron dros 14% o'r boblogaeth a 60% o'r rheini sydd wedi'u cynnwys yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Dros yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd ein timau’r brechlyn i rywun yng Nghymru bob pum eiliad.

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliadau sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned. Bwriedir i'r model hwn hefyd sicrhau bod ein cartrefi gofal i bobl hŷn a'r boblogaeth hŷn yn cael y brechlyn cyn gynted â phosibl.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld ein seilwaith yn ehangu ymhellach, gan gynnwys:

  • cynyddu nifer y canolfannau brechu torfol i 34, ochr yn ochr â defnyddio 17 o safleoedd ysbytai acíwt a chymunedol;
  • cynyddu nifer y practisau meddygon teulu sy'n cynnig y brechlyn i dros 400, sy’n rhagori'n sylweddol ar y 250 o bractisau yr ymrwymwyd iddynt yn ein Strategaeth erbyn diwedd mis Ionawr ac yn dangos awydd ein sector gofal sylfaenol i gefnogi'r rhaglen frechu;

Bydd aelodau o’r lluoedd arfog yn cael eu lleoli ar draws Cymru yn yr wythnosau i ddod a byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yr wythnos nesaf.

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror: 

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 3 oedd bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn a rhagorwyd arno cyn y dyddiad a nodwyd. Cadarnhaodd adroddiad yr wythnos diwethaf fod y marciwr hwn wedi'i gyflawni yn gynt na'r disgwyl, gyda mwy na 300 o bractisau'n cynnal clinigau. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae'r nifer hwn wedi cynyddu eto i dros 400 o bractisau.

Y marciwr olaf – marciwr 2 – oedd bod wedi cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr. Ein nod oedd cyrraedd yr holl gartrefi gofal hynny yr oedd yn bosibl eu cyrraedd; ac i sicrhau bod cynlluniau ar waith i gyrraedd y cartrefi gofal hynny sydd wedi cael achosion ac achosion lluosog o COVID-19 cyn gynted â phosibl.

Ble rydyn ni arni gyda’r gwaith ar gyfer y marciwr hwn?

Rydym wedi cyflawni’r marciwr hwn.

Fel gyda'n model cyflenwi yn gyffredinol, mae dull cyfunol wedi'i sefydlu ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn. Ar gyfer rhai cartrefi gofal, mae byrddau iechyd yn anfon timau brechu i frechu preswylwyr a staff. Ar gyfer cartrefi gofal eraill, mae practisau meddygon teulu yn trefnu brechiad i breswylwyr, yn aml drwy nyrs ardal neu dîm bychan; gyda staff yn cael eu gwahodd i ganolfannau torfol. Mae'r model cymysg hwn yn sicrhau'r dull cywir ar gyfer y cartref cywir o ystyried ei gyd-destun a'i leoliad.

Mae byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â phob cartref gofal i bobl hŷn y bu'n ddiogel i anfon timau brechu iddynt. Bwriedir trefnu i ymweld â’r cartrefi hynny nad yw wedi bod yn ddiogel i fynd iddynt yn ystod mis Chwefror, cyn gynted ag y bydd cyngor iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Y pwynt allweddol nesaf yn ein Strategaeth yw Carreg Filltir 1. Y garreg filltir hon yw:

  • cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngharfanau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

60% o'n 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae’r cyflymder yn parhau i gynyddu ac rydym yn gwneud cynnydd da. 

Mae'r siart canlynol yn dangos ein bod yr wythnos hon wedi brechu mwy o bobl fel canran o'n poblogaeth nag unrhyw un o wledydd eraill y DU. Rydym yn symud drwy'r carfannau blaenoriaeth ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni Carreg Filltir 1 erbyn canol mis Chwefror.

Image
Dosau cyntaf y bechlyn, fesul diwrnod, ym mhob 100,000 o bobl, fel cyfartaledd dros 7 diwrnod

Rhagor o wybodaeth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.