Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 19 Hydref 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth frechu COVID-19 ar 11 Ionawr 2021 ac, ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion Rhaglen y Frechu yng Nghymru.

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau - rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu - rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Rydym wedi cyhoeddi ein Strategaeth Frechu ar gyfer yr hydref a’r gaeaf yn nodi sut y bydd y rhaglen frechu’n parhau i gael ei darparu yn effeithiol, yn effeithlon ac yn gyflym drwy gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf er mwyn cadw Cymru’n ddiogel.

Mae ein Strategaeth Frechu COVID-19 ar gyfer yr hydref a’r gaeaf yn canolbwyntio ar frechu’r bobl fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc, brechiadau atgyfnerthu ac yn pwysleisio ein hymrwymiad i beidio â gadael neb ar ôl. Mae’r Strategaeth yn amlinellu ein nodau a’n huchelgeisiau ar gyfer pob un o’r meysydd hyn, gan gynnwys y canlynol:

  • Bydd pobl imiwnoataliedig yn cael cynnig trydydd dos o’r brechlyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu cymaint â phosibl. Byddant yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer apwyntiadau brys ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw, yn seiliedig ar eu triniaeth a chyngor eu clinigydd.
  • Erbyn 1 Tachwedd bydd pob person ifanc 12-15 oed yn cael cynnig un dos, a bydd preswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal yn cael cynnig y brechlyn atgyfnerthu.
  • Erbyn 31 Rhagfyr, y gobaith yw y byddwn wedi brechu’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu.

Gwybod y ffeithiau

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus am y brechlyn COVID-19 yn seiliedig ar wybodaeth gywir, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi i gael y ffeithiau. Dylai gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru allu eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych chi.

Er mwyn osgoi sgamwyr, cofiwch na fydd angen i unrhyw un yng Nghymru dalu am ei frechlyn COVID-19, ac ni ofynnir i neb am ei fanylion banc cyn nac ar ôl ei apwyntiad gyda’r GIG. Mae’r brechlyn COVID-19 am ddim i bawb sy’n gymwys, ac nid oes angen i chi roi manylion banc na gwneud taliad er mwyn cael y brechlyn.

Os ydych wedi derbyn rhywbeth sy’n edrych yn amheus, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud:

  • Os ydych wedi derbyn e-bost rydych yn credu sy’n amheus, anfonwch ef ymlaen at Wasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus (SERS) drwy report@phishing.gov.uk
  • Os ydych wedi dod ar draws gwefan y credwch y gallai fod yn ffug ac yn ceisio eich sgamio, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i adrodd am hyn.
  • Dylech anfon negeseuon testun amheus i 7726. Mae’r cod byr hwn sydd am ddim yn galluogi eich darparwr i ymchwilio i darddiad y neges destun a gweithredu, os darganfyddir ei fod yn faleisus.

Cael eich brechu yn erbyn clefydau ataliadwy yw’r peth iawn i wneud er mwyn eich diogelu chi eich hun ac eraill rhag clefydau peryglus.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs Covid yn orfodol ar gyfer pawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs Covid digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael mynediad at y Pàs Covid gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu gliniadur, defnyddiwch y ddolen ganlynol https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs Covid i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Mae Cam 3 ein rhaglen yn mynd rhagddi’n dda; rydym yn anfon llythyron apwyntiadau ac yn rhoi pigiadau atgyfnerthu i’r rheini sy’n gymwys, yn nodi unigolion imiwnoataliedig sydd angen trydydd dos o’r prif frechlyn, ac yn brechu pobl ifanc 12-17 oed. Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd heb gael eu brechu eto.

Rydym yn gweinyddu’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Dos cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed
  • Dos cyntaf i blant 12-15 oed 
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys
  • Trydydd dos i unigolion imiwnoataliedig
  • Dosau atgyfnerthu i’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 4.6 miliwn o ddosau o frechlynnau wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • Mae cyfran fawr o bobl wedi manteisio ar y dosau cyntaf a’r ail ddosau yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed
  • Mae mwy na 2.4 miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf a mwy na 2.23 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn o frechlyn
  • Mae 77.9% o oedolion 18-29 oed a 78.5% o oedolion 30-39 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae 74% o unigolion 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon at bawb rhwng 12 a 15 oed cyn diwedd wythnos hanner tymor yr hydref, mae 30.9% o bob person 12-15 oed wedi cael y brechlyn
  • Mae rhaglen atgyfnerthu ar y gweill i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Rhagor o wybodaeth

Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac anogir pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 – gallwch ddarllen ei ddatganiad yma: Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID 

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.