Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 14 Rhagfyr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Mae ymdrechion brys ar y gweill nawr i gyflymu ein rhaglen o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron. Mae tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg ynghylch pa mor effeithiol yw ein brechlynnau yn erbyn Omicron. Nid yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i roi'r lefel amddiffyn sydd ei angen arnom i gyd. Mae'r dos atgyfnerthu yn hanfodol i ddiogelu Cymru. 

Ein nod yw cynnig apwyntiad am dos atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y mis. Byddwn yn brechu cymaint o bobl â phosibl yn gyflym ac yn ddiogel, gan barhau i flaenoriaethu’r brechiadau yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, yn seiliedig ar oedran pobl a pha mor agored i niwed ydyn nhw yn glinigol.   

Ehangu’r broses o gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu i sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl fydd y brif flaenoriaeth i'r GIG dros yr wythnosau nesaf. Bydd hon yn ymdrech enfawr arall i'n rhaglen frechu – ac i'n Gwasanaeth Iechyd – sydd eisoes wedi gwneud cymaint i amddiffyn pobl ledled Cymru. Mae ein timau brechu a'r holl staff cymorth yn gweithio'u gorau glas i gyflawni hyn. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i fynychu eich apwyntiad i gael dos atgyfnerthu. 

Bydd pob unigolyn sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn cael gwahoddiad yn awtomatig i fynd i apwyntiad pan ddaw eu tro. Bydd y byrddau iechyd yn anfon llythyrau a negeseuon testun ac yn gwneud galwadau ffôn i gysylltu â phobl ar gyfer eu hapwyntiadau i gael dos atgyfnerthu. Hyd yn hyn, mae ein staff brechu wedi rhoi mwy na 1.1 miliwn o ddosau atgyfnerthu.

Bydd y byrddau iechyd yn darparu mwy o ganolfannau brechu mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd, a mwy o glinigau. Bydd oriau agor hirach gyda'r nos ac ar benwythnosau, a lonydd ychwanegol yn y canolfannau brechu torfol. Cyflwynir sesiynau galw i mewn ar gyfer rhai grwpiau oedran, ochr yn ochr ag apwyntiadau gyfer y rhai mwyaf agored i niwed. Bydd rhagor o fanylion yn cael cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan a chyfryngau cymdeithasol eich bwrdd iechyd lleol.

Byddwn yn gweithio gyda meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i ddarparu'r brechlyn, a gyda llywodraeth leol a’r gwasanaethau tân. Bydd myfyrwyr yn darparu cymorth ychwanegol i’r clinigau. Rydym hefyd wedi gofyn am ragor o gefnogaeth gan y lluoedd arfog.

Mae ar ein timau brechu angen cefnogaeth pobl Cymru. I helpu ein GIG, a'ch cymuned leol, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i ddod i’ch apwyntiad penodedig.

Beth am fy nos cyntaf neu fy ail ddos?

Os ydych dros 18 oed a heb gael dos cyntaf neu ail ddos, nid yw'n rhy hwyr. Gall unrhyw un sydd am gael eu cwrs sylfaenol (dyna'r dos cyntaf neu'r ail ddos) gael eu brechu mewn sesiynau galw i mewn neu gallant gysylltu â'u bwrdd iechyd i drefnu brechiad.

Os ydych o dan 18 oed a heb gael eich dos cyntaf, gallwch gysylltu â'ch bwrdd iechyd i drefnu brechiad neu i gael gwybod am sesiynau galw i mewn pwrpasol. Byddwch cael llythyr yn eich gwahodd i apwyntiad ar gyfer eich ail ddos. Os oes mwy na 12 wythnos wedi mynd heibio ers eich brechiad cyntaf a/neu ers ichi gael haint COVID-19, gallwch gysylltu â'ch bwrdd iechyd i drefnu brechiad.

Dydyn ni ddim am i neb gael ei adael ar ôl. Mae pob brechiad yn cyfrif wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru. 

Gall y timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am frechu, a'ch cefnogi i gael eich brechu. Os oes arnoch ofn nodwyddau neu os ydych yn teimlo'n bryderus, rhowch wybod i'r person sy'n rhoi'r brechlyn i chi. Byddant yn deall, ac yn barod i’ch cefnogi. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu torfol ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros ac mae gan lawer ohonynt nyrsys arbenigol yn bresennol hefyd, i helpu’r rhai a allai fod angen cymorth ychwanegol.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin am y brechlyn a diogelwch.

Sut galla i wirfoddoli? 

Gall pobl sydd am wirfoddoli i helpu’r rhaglen frechu COVID-19 gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Er mwyn gallu rhoi’r gefnogaeth orau i'n byrddau iechyd, bydd angen ichi allu gwneud ymrwymiad rheolaidd o leiaf 15 awr dros 2 ddiwrnod yr wythnos.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs COVID yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

O ddydd Llun 15 Tachwedd, bydd angen Pàs COVID hefyd i fynd i

  • sinemâu
  • theatrau
  • neuadd cyngerdd

Mae’r Pàs Covid yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs Covid digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs Covid i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn rhoi’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i bawb sy’n 12 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Ail ddos i bawb 12 oed a hŷn fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl 
  • Trydydd dos sylfaenol a dos atgyfnerthu i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn
  • Dosau atgyfnerthu i’r rhai sy’n gymwys 

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 5.9 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.47 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.28 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae 72.2% o oedolion 18-29 oed a 74.9% o oedolion 30-39 oed wedi cael eu hail ddos
  • Mae 77% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 56.4% o bobl ifanc 12-15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 44,600 o bobl sydd â system imiwnedd wan iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae mwy nag 1.1 miliwn o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 40.7% o unigolion 12 oed+ yng Nghymru wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos
  • Mae 85% o breswylwyr cartrefi gofal, 67% o staff cartrefi gofal a mwy nag 80% o bobl dros 65 oed wedi cael dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd ar gael yma: Brechu COVID-19 a beichiogrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae astudiaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (a arferai gael ei galw yn Public Health England PHE) yn darparu rhagor o ddata ar ddiogelwch brechlynnau COVID-19 adeg beichiogrwydd: New UKHSA study provides more safety data on COVID-19 vaccines in pregnancy - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.