Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 11 Ionawr 2022 .

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd yn ystod y toriad?

Mae’r wythnosau diwethaf yn ystod y Toriad wedi bod yn rhai prysur iawn i’r Rhaglen Frechu COVID-19. Gwnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddau gyhoeddiad ac fe lwyddon ni i gyflawni ein nod i gynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr 2021. 

Ar 17 Rhagfyr, ar sail data ynglŷn â diogelwch, ynghyd â’r risg gynyddol o COVID-19, cynghorodd y JCVI y dylid ystyried menywod beichiog fel grŵp risg clinigol a’u blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn COVID-19. I unrhyw fenyw feichiog, cael ei dos cyntaf, ei hail ddos a’i dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID-19 yw un o’r pethau pwysicaf y gall hi ei wneud i ddiogelu ei hun a’i baban rhag y coronafeirws. Rydym yn annog mamau i gysylltu â’u bwrdd iechyd i wneud apwyntiad i gael eu brechlyn COVID-19 os nad ydynt wedi’u brechu eto neu os yw’n bryd iddynt gael pigiad atgyfnerthu.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brechu COVID-19 a beichiogrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Ar 22 Rhagfyr, ar ôl trafod ac ystyried y dystiolaeth, gwnaeth y JCVI ddau argymhelliad i ehangu’r rhaglen frechu COVID-19 ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Yn gyntaf, mae’r JCVI wedi argymell y dylai plant 5 i 11 oed – plant sy’n perthyn i un o’r grwpiau “risg” neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig – gael cynnig dau ddos 10 microgram o'r brechlyn Pfizer-BioNTech. Dylid gadael bwlch o wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o’r brechlyn. Os bydd unigolyn wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar, dylid gadael bwlch o 28 diwrnod o leiaf rhwng unrhyw ddos o frechlyn a’r haint hwnnw. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo defnyddio brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech (Comirnaty®) mewn plant iau.

Ar sail cydbwyso’r manteision a’r niwed posibl, mae'r JCVI o blaid brechu’r grŵp hwn. Hyd yma, tan y daw rhagor o wybodaeth a thystiolaeth i’r amlwg, nid yw'r JCVI wedi cynghori a ddylai plant 5 i 11 oed nad ydynt mewn categori 'risg' gael eu brechu.

Yn ail, mae'r JCVI wedi argymell cynnig dos atgyfnerthu COVID-19 i:

  • Bob plentyn a pherson ifanc 16 i 17 oed
  • Plant a phobl ifanc 12 i 15 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig
  • Plant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n ddifrifol imiwnoataliedig ac sydd wedi cael trydydd dos sylfaenol

Ni ddylai unigolion gael cynnig y dos atgyfnerthu hyd nes y bydd tri mis o leiaf ers iddynt gwblhau eu cwrs sylfaenol. 

Bydd gwybodaeth briodol am fanteision a risgiau posibl brechu ar gael i blant a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r brechiad. 

Bydd GIG Cymru yn nodi plant a phobl ifanc 5 i 11 oed cymwys yn y grwpiau 'risg' ac yn dechrau cynnig apwyntiadau nes ymlaen y mis hwn. Bydd plant o dan 18 oed sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn cael apwyntiad pan fyddant yn gymwys.

Cyn y Toriad, rhoddwyd ymdrechion brys ar waith i gyflymu ein rhaglen o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron. Gwnaethom gyflawni ein nod – cadarnhaodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru eu bod wedi cynnig apwyntiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Rhagfyr. Gwnaed y cynnig i bawb cymwys drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun, archebu ar-lein ac opsiynau galw heibio.

Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Mae byrddau iechyd hefyd wrthi'n mynd ar ôl unrhyw un sydd wedi methu derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu hyd yma ac mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru.

Os yw wedi bod yn dri mis ers eich ail ddos ac nad ydych yn credu eich bod wedi derbyn llythyr, galwad ffôn neu neges destun ar gyfer apwyntiad pigiad atgyfnerthu, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Bydd ganddynt fanylion ar eu gwefan hefyd am sesiynau galw heibio a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael eich methu.

Effeithiolrwydd brechlynnau

Mae’r brechlynnau’n effeithiol ac yn darparu amddiffyniad rhag clefyd difrifol. Ar 7 Ionawr, cyhoeddodd y JCVI ddatganiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y rhaglen pigiadau atgyfnerthu a’r amrywiolyn Omicron. Cyfeiriwyd hefyd at dystiolaeth a oedd yn dangos bod y rhaglen pigiadau atgyfnerthu wedi darparu lefelau uchel o amddiffyniad rhag clefyd difrifol yn sgil COVID-19 (yr amrywiolyn Delta a’r amrywiolyn Omicron) ar draws y boblogaeth.

Yn ddiweddar, edrychodd y JCVI ar y manteision iechyd posibl o roi dos atgyfnerthu ychwanegol ar unwaith i’r bobl fwyaf agored i niwed mewn ymateb i'r don Omicron bresennol. Serch hynny, ar hyn o bryd, cyngor y JCVI yw y dylai’r rhaglen frechu COVID-19 barhau i flaenoriaethu cynyddu nifer yr oedolion sy’n cael y dos atgyfnerthu cyntaf. Pwysleisiodd hefyd ba mor bwysig yw hi bod unigolion sydd heb eu brechu, yn enwedig y rhai agored i niwed, yn cwblhau cwrs sylfaenol o’r brechlyn. Bydd y JCVI yn parhau i fonitro’r rhaglen pigiadau atgyfnerthu ac i adolygu’r posibilrwydd o ddarparu ail bigiadau atgyfnerthu.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn cyhoeddi gwybodaeth am waith dadansoddi ar dderbyniadau i’r ysbyty yn sgil Omicron ac effeithiolrwydd brechlynnau. Mae brechlynnau’n cynnig amddiffyniad da rhag derbyniadau i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Omicron. Canfu’r gwaith dadansoddi fod risg pobl o orfod cael gofal brys neu gael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl dal Omicron tua hanner y risg yn sgil Delta. Canfuwyd hefyd fod risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn is ar gyfer achosion o Omicron gyda haint symptomatig neu asymptomatig ar ôl 2 a 3 dos o’r brechlyn, gan leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty 81% ar ôl 3 dos o gymharu ag achosion o Omicron ymysg pobl sydd heb eu brechu. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwneud y peth cywir, sef cael eich brechlyn COVID-19 a chwblhau’r cwrs llawn sydd ar gael, gan gynnwys eich dos atgyfnerthu.

Mae ein Cell Cyngor Technegol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y coronafeirws, yma: Y Gell Cyngor Technegol

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs COVID yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

O 15 Tachwedd ymlaen, mae hefyd angen y Pàs COVID i fynd i:

  • Sinemâu
  • Theatrau
  • Neuaddau cyngerdd

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 24 awr ddiwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn rhoi’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf ac ail ddos i bawb 12 oed a hŷn fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl 
  • Trydydd dos sylfaenol a dos atgyfnerthu i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn
  • Dosau atgyfnerthu i’r rhai sy’n gymwys 

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 6.6 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.49 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.32 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae 73% o oedolion 18 i 29 oed a 75.5% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu hail ddos
  • Mae 78.5% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 59.6% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 52,300 o bobl sydd â system imiwnedd wan iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae mwy nag 1.7 miliwn o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 64.7% o unigolion 12 oed+ yng Nghymru wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos. Nid yw’r ffigur hwn yn ystyried y ffaith na fydd pawb yn gymwys am ddos atgyfnerthu ar hyn o bryd, er enghraifft pobl nad ydynt mewn grŵp cymwys, pobl sydd wedi cael eu hail ddos lai na dri mis yn ôl a phobl sydd wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar
  • Mae 88% o breswylwyr cartrefi gofal, 74% o staff cartrefi gofal a mwy nag 83.4% o bobl dros 50 oed wedi cael dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.