Diweddariadau fframwaith.
Gwasanaethau rhagweld tywydd garw
Mae ein fframwaith newydd ar gyfer rhagweld tywydd garw (WGCD-BU-114-22) wedi'i ddyfarnu a bydd yn dechrau ar 18 Medi 2022. Mae'r fframwaith presennol (NPS-CFM-0086-18) yn dod i ben ar 17 Medi. Am ragor o wybodaeth, dogfennau cyfarwyddyd cwsmeriaid, ac i gael mynediad i'r ystafell ddogfennau yn ôl y gofyn, ewch i wefan GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Diweddariad ynni adnewyddadwy a phontio
Mae'r holl drydan a gyflenwyd i'n cwsmeriaid trwy EDF yn adnewyddadwy ac yn cael ei gefnogi gan dystysgrifau REGO (Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy).
O fis Ebrill 2020 a Mawrth 2021, cynhyrchwyd 86% o'r ynni adnewyddadwy a gafodd ei gyflenwi yng Nghymru, oedd yn gynnydd o 23% ar y flwyddyn flaenorol. Mae'r dadansoddiad fel a ganlyn (REGO Cymru):
- Hydro: (1%)
- Nwy tirlenwi: (7%)
- Solar: (17%)
- Gwynt: (75%)
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, e-bostiwch CommercialProcurement.Utilities@gov.cymru