Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dros gyfnod pandemig y coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o asesiadau o effaith mesurau i reoli'r feirws. Ar 22 Hydref, penderfynodd Gweinidogion Cymru roi nifer o fesurau ‘cyfnod atal byr’ ychwanegol ar waith am gyfnod byr o amser, gyda'r nod o leihau'r gyfradd trosglwyddo yn gyflym a dod â'r feirws o dan reolaeth eto. Darllenwch grynodeb o asesiad effaith integredig o'r mesurau hyn.

Bwriedir i'r ddogfen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r dystiolaeth a gyflwynir yn asesiad effaith integredig y cyfnod atal byr.

Pan fydd y cyfnod atal byr yn dod i ben, bydd set newydd o Reoliadau cenedlaethol. Mae'r prif fesurau yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn:

  • Gartref, gan gynnwys yn yr ardd, bydd pobl ond yn gallu cwrdd â phobl eraill o'u haelwyd estynedig, a bydd aelwyd estynedig yn golygu dwy aelwyd yn unig yn uno.
  • Unrhyw le arall, dim ond pedwar unigolyn (heb gynnwys plant o dan 11 oed) a all gwrdd dan do neu yn yr awyr agored, ac eithrio pan fydd mwy na phedwar unigolyn o'r un aelwyd gyda'i gilydd
  • Bydd hyd at 15 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) yn gallu cymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi'i drefnu a bydd hyd at 30 (heb gynnwys plant o dan 11 oed) yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, ar yr amod bod yr holl fesurau Covid eraill o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a diogelwch yn cael eu dilyn.
  • Bydd ysgolion yn ailagor yn llawn o ddydd Llun nesaf.
  • Bydd pob safle busnes, sydd wedi bod ar gau ers 23 Hydref, yn gallu ailagor ar 9 Tachwedd.
  • Ni fydd cyfyngiadau teithio yng Nghymru, ond yn ystod y cyfyngiadau symud yn Lloegr sy'n para mis, ni chaniateir teithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol.

Dyletswydd i hunanynysu

  • Bydd dyletswydd ar gyflogwyr i beidio'n fwriadol â galluogi nac annog pobl i weithio pan ddylent fod yn hunanynysu. Gall cyflogwyr sydd yn fwriadol yn gwrthod â gadael i gyflogai hunanynysu gael dirwy o £1,000.
  • Bydd methu â hunanynysu, os bydd yn ofynnol gwneud hynny, yn drosedd, a bydd hyn yn cael ei orfodi drwy Hysbysiad Cosb Benodedig safonol o £60 am drosedd gyntaf ac yna bydd yn codi. Yn ogystal, bydd darparu gwybodaeth ffug i swyddogion olrhain cysylltiadau neu unwaith y byddwch yn cael eich hysbysu bod angen hunanynysu, yn darparu gwybodaeth ffug am eich cyfeiriad ynysu ac aelodau eich aelwyd, yn golygu Hysbysiad Cosb Benodedig safonol o £60.
  • Yn amodol ar gymhwysedd, gwneir taliad cymorth hunanynysu o £500 i bobl y mae angen iddynt hunanynysu sy'n cael prawf positif neu gyswllt agos â rhywun sy'n cael prawf positif, na allant weithio ac a fydd yn colli incwm ac yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny.

Asesiad effaith wedi'i ddiweddaru

Mae'r prif niwed mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei liniaru mewn perthynas â niwed uniongyrchol o COVID 19: amddiffyn iechyd y cyhoedd a gwarchod bywydau. Roedd y penderfyniad i roi cyfnod atal byr ar waith yng Nghymru yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol a chyngor a luniwyd yn sgil y sefyllfa gyhoeddus sy'n gwaethygu yn y DU a Chymru. Awgrymodd papur ymyriadau anfferyllol Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau Llywodraeth y DU y byddai cyfnod atal byr yn golygu y byddai twf esbonyddol yr epidemig ar ôl 9 Tachwedd yn ailddechrau ar lefel sylweddol is na fyddai wedi bod heb y cyfnod atal byr. Roedd y dybiaeth hon ar sail cydymffurfiaeth dda â'r mesurau, a dim cynnydd ychwanegol mewn cysylltiadau cyn nac ar ôl y cyfnod atal byr.

Er bod y pecyn o fesurau y cytunwyd ei roi ar waith rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd yn torri llawer o erthyglau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ystyriwyd bod hyn yn gymesur wrth geisio gwarchod bywydau. Roedd y cyfyngiadau llym ar gyfer aelwydydd ac achosion eang o gau yn yr economi yn taro cydbwysedd rhwng amddiffyn iechyd y cyhoedd a'r niweidiau cymdeithasol, ariannol, economaidd a llesiant a achosid gan y cyfyngiadau. Bwriad y cyfyngiadau mwy llym yn ystod y cyfnod hwn oedd lleihau'r angen i roi cyfyngiadau pellach ar waith, er na ellid, ac na ellir, sicrhau na fydd angen cyfyngiadau pellach.

Yn fras, bydd y mesurau cenedlaethol newydd a gyflwynwyd ar 9 Tachwedd yn cael effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol ac effaith o ran cydraddoldeb o gymharu â'r cyfnod atal byr, gan leddfu rhai o'r effeithiau negyddol a ddisgrifir yn asesiad effaith integredig y cyfnod atal byr. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Effeithiau negyddol o'r mesurau ‘aros gartref’ o ran menywod a phlant yn wynebu camdriniaeth; teimladau dwysach o unigrwydd ac unigedd i sawl adran o'r boblogaeth; ac effeithiau anghymesur ar fywydau pobl anabl, pobl BAME a menywod
  • Effeithiau negyddol o gau busnesau yn enwedig o ran yr effaith economaidd ar bobl sy'n ennill llai na'r incwm canolrifol yng Nghymru. Bydd y sectorau y bu'n rhaid iddynt gau wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol megis menywod (gwasanaethau cyswllt agos a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol), BAME (gwasanaethau lletygarwch a thrafnidiaeth) a phobl iau (lletygarwch)
  • Effeithiau negyddol o ran tarfu – yn enwedig ar grwpiau gwarchodedig – ar waith dysgu plant hŷn a phobl ifanc, blynyddoedd 9 ac uwch nad oeddent yn yr ysgol uwchradd nac mewn Addysg Bellach (oni bai at ddibenion sefyll arholiadau)

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod cyfyngiadau llym yn parhau ar yr hyn y gall pobl ei wneud ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben – ac mae'r cyfyngiadau hynny yn cael effeithiau gwahanol. Yn y bôn, dros gyfnod y gaeaf mae'n rhaid i ni gyd fyw ein bywydau yn wahanol. Mae'n rhaid i ni gyd leihau ein cysylltiadau â phobl eraill gymaint â phosibl, cadw ein cylch o ffrindiau a phobl rydym yn cwrdd â nhw mor fach â phosibl ac ystyried a oes angen cwrdd wyneb yn wyneb, neu a allwn gwrdd mewn ffordd arall. Bydd hyn yn parhau i gael effeithiau economaidd-gymdeithasol a chydraddoldeb negyddol. 

Aelwydydd yn cymysgu

Yn gyffredinol mae'r penderfyniad i ganiatáu i aelwydydd estynedig gael eu ffurfio yn hyrwyddo cydraddoldeb am y bydd yn galluogi pobl i ddatblygu sail gymorth ychwanegol a chydfuddiannol yn aml. Ystyrir bod y cyfyngiad i ganiatáu ffurfio aelwyd estynedig ag un aelwyd arall yn unig yn gymesur er mwyn rheoli'r risg ehangach i iechyd y cyhoedd a chadw trosglwyddiadau'r coronafeirws mor isel â phosibl. Er nad ydynt yn gynhwysfawr, mae'r effeithiau canlynol wedi cael eu nodi:

  • Bydd gallu ffurfio aelwydydd estynedig o fudd i bob grŵp oedran, gan leihau effeithiau unigrwydd ac unigedd (problem benodol i bobl iau) neu allgáu digidol (i bobl hŷn).
  • Fodd bynnag, efallai fod pobl dros 70 oed yn bryderus am risgiau uwch iddynt o gymysgu â mwy o bobl a gallai'r rhai sydd mewn mwy o berygl deimlo pwysau i ymuno ag aelwydydd estynedig i ddarparu gofal a chymorth (e.e. neiniau a theidiau oedrannus; pobl BAME).
  • Ar y llaw arall, gall y teimladau o unigrwydd fod yn waeth i rai os byddant yn cael eu heithrio rhag ymuno â'r aelwydydd estynedig y maent am eu ffurfio.
  • Bydd aelwydydd estynedig yn rhoi gofal a chymorth ychwanegol gwerthfawr a gallai hyn fod yn gadarnhaol i fenywod yn enwedig, sydd yn aml â baich anghymesur o ran gofalu[1]. Gallai aelwydydd estynedig fod o fudd penodol i aelwydydd incwm isel sy'n cael trafferth gyda gofal plant neu anghenion gofal.
  • Cydnabyddir bod aelwydydd estynedig yn gweithio'n dda i rai teuluoedd, er enghraifft rhieni a neiniau a theidiau, ond eu bod yn creu rhai heriau i deuluoedd sy'n gorfod dewis rhwng dwy set o neiniau a theidiau. Nid yw chwaith yn gweithio cystal i unrhyw unigolyn neu deulu sydd â chydberthnasau mwy cymhleth neu i unrhyw un y mae ei ryngweithio cymdeithasol neu ei gymorth yn cael eu darparu yn bennaf drwy rwydwaith o ffrindiau

Cwrdd y tu allan i'r aelwyd, ac eithrio gweithgareddau wedi'u trefnu

Bydd galluogi pedwar unigolyn i gwrdd yn yr awyr agored neu mewn lleoliad rheoledig yn helpu i leddfu rhai o'r effeithiau negyddol ar aelwydydd yn cymysgu a ddisgrifir uchod ac yn cael effaith gadarnhaol, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Yn yr holiadur Coronafeirws a Fi, nodwyd mai'r prif beth a oedd yn cael effaith ar deimladau plant a phobl ifanc oedd methu â gallu gweld ffrindiau.

Mae'r effeithiau canlynol wedi cael eu nodi:

  • Bydd pob busnes, fel lleoliadau rheoledig, yn destun amrywiaeth o ofynion mewn deddfwriaeth i'w galluogi i weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran Covid. Mae'r mesurau hyn yn galluogi busnesau i agor a gwasanaethu grwpiau o bedwar. Fodd bynnag, cydnabyddir eu bod yn creu costau untro a chostau ychwanegol parhaus. Maent hefyd yn cyfyngu ar allu busnesau i weithredu fel y byddent yn ei wneud fel arfer, gan leihau eu hallbwn a'u proffidioldeb a newid y galw am staff. Mewn rhai achosion mae hyn wedi darparu cyfleoedd newydd ond mae'r profiad llawer mwy cyffredin, yn enwedig mewn sectorau ar gyfer y cyhoedd fel busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, twristiaeth, lletygarwch ac adloniant, wedi bod yn negyddol. Yn y sectorau rydym yn disgwyl y bydd effaith sylweddol arnynt, byddwn yn gweld effaith anghymesur ar grwpiau penodol: gweithwyr iau (yn enwedig mewn lletygarwch), menywod (yn enwedig mewn gwasanaethau cyswllt agos a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol) a phobl BAME (yn enwedig mewn rhannau o'r sector lletygarwch ac mewn gwasanaethau trafnidiaeth gan gynnwys tacsis.) Ar gamau cynharaf y pandemig, roedd pobl anabl yn fwy tebygol o fod ar ffyrlo ac mae'n bosibl y caiff y patrwm hwn ei ailadrodd.
  • Bydd pobl ar incymau is yn llai abl i allu fforddio mynd allan i gaffi, bwyty neu dafarn.

Gweithgareddau wedi'u trefnu, (hyd at 15 dan do; hyd at 30 yn yr awyr agored)

Er y bydd gweithgareddau wedi'u trefnu yn bosibl ar ôl y cyfnod atal byr, bydd gweithgareddau yn destun amrywiaeth o ofynion mewn deddfwriaeth i'w galluogi i weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran Covid. Dylid cadw niferoedd mor isel ag sy'n ymarferol, a dylai'r gweithgaredd ddigwydd ar-lein lle y bo'n bosibl. Fodd bynnag, dylai caniatáu i'r gweithgareddau amrywiol hyn gael eu cynnal gyfrannu at leihau unigrwydd ac unigedd a gwella llesiant corfforol a meddyliol. Gall yr elfen wyneb yn wyneb fod yn arbennig o bwysig i grwpiau sy'n agored i niwed, am na all llawer ohonynt ymuno â grwpiau ar-lein am amrywiaeth o resymau gan gynnwys allgáu digidol.

Ailagor mannau addoli

Roedd mannau addoli ar gau yn ystod y cyfnod atal byr a bydd hyn wedi cael effaith andwyol ar rai pobl â chredoau crefyddol neu gredoau eraill. Felly dylai ailagor mannau addoli gael effaith gyffredinol gadarnhaol ar lesiant.

Teithio

Yn hytrach na gorfod aros gartref, ni fydd cyfyngiadau teithio yng Nghymru. Yn ystod y cyfyngiadau symud yn Lloegr sy'n para mis, ni chaniateir teithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol.

Er y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar lawer o bobl, bydd cyfyngiadau teithio yn parhau i gael effeithiau negyddol ar gydraddoldeb. Mae'r rhain yn codi o gyfyngu ar y lleoliadau lle mae pobl yn defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau hamdden ac mewn llawer o achosion bydd yn golygu atal pobl rhag cwrdd â theulu a ffrindiau os ydynt yn byw mewn rhannau eraill o'r DU neu dramor. Disgwylir y gall hyn gael effaith andwyol ar bobl BAME, sydd â theulu agos a theulu estynedig yn byw mewn rhannau eraill o'r DU a thramor. 

Ailagor busnesau

Bydd galluogi busnesau i ailagor a masnachu yn cael effeithiau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ac yn lleddfu rhai o effeithiau cronnol negyddol mesurau rheoli coronafeirws a ddisgrifir isod.

Fel y nodir uchod, bydd cyfyngiadau o hyd ar weithredu a chostau ychwanegol a fydd yn disgyn ar fusnesau penodol a'r bobl maent yn eu cyflogi. Ni fydd y rhain wedi'u dosbarthu'n gyfartal ledled yr economi na'r boblogaeth. Yn benodol:

  • Mae pobl BAME wedi'u cynrychioli'n anghymesur mewn nifer o'r sectorau y mae'r mesurau rheoli lletygarwch a thrafnidiaeth wedi effeithio'n andwyol arnynt. Nododd y Resolution Foundation, er bod dros hanner y bobl a oedd ar ffyrlo yn ystod y cyfyngiadau symud wedi dychwelyd i'r gwaith erbyn 9 Medi, roedd 9 y cant o'r rhai a oedd ar ffyrlo yn flaenorol wedi colli eu swyddi. Roedd y gyfradd hon ar ei huchaf ymhlith pobl 18-24 oed, gweithwyr Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a'r rhai ar gyflog isel. Gall gael effaith andwyol benodol hefyd ar fusnesau BAME sy'n gwerthu bwydydd diwylliannol arbenigol – megis cuisine ethnig sydd eisoes yn cael trafferth cadw cwsmeriaid oherwydd prinder cynhyrchion bwyd.
  • Mae tystiolaeth[2] hefyd fod costau economaidd y mesurau rheoli yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl.
  • Bydd effeithiau negyddol ar bobl ifanc oherwydd canlyniadau economaidd tymor canolig a thymor hwy ymdrechion i reoli'r feirws o ran eu cyfleoedd cyflogaeth ac ennill cyflog.

Gweithio gartref

Mae gweithio gartref yn fwy tebygol o fod yn opsiwn i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddfa ac mewn swyddi â chyflogau uwch. Ni fydd ar gael i bawb ac i lawer o swyddi â chyflogau is – manwerthu, gwaith gofal, gwasanaethau cyswllt agos a lletygarwch, cydnabyddir na fyddai'n opsiwn. I'r rhai sy'n gweithio gartref, mae'r gwahaniaethau yn cynnwys: diffyg gofod i weithio gartref naill ai oherwydd maint y tŷ neu orfod rhannu ag eraill; cost a dibynadwyedd band eang; biliau gwresogi a goleuo ychwanegol, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf.

Hunanynysu

Bydd y ddyletswydd i hunanynysu a dyletswyddau cysylltiedig ar gyflogwyr yn helpu i amharu ar drosglwyddiad y feirws, a byddai'n golygu amddiffyn eraill, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed o gael eu hamlygu i COVID-19 a'r effeithiau difrifol posibl y gallai ei achosi (i rai, gallai hyn olygu osgoi marwolaeth debygol). Mae'r taliad o £500 wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhai sydd ar incwm isel neu mewn cyflogaeth ansicr a galluogi cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd. Mae effeithiau canlynol y ddyletswydd wedi cael eu nodi:

  • Mae tystiolaeth dda o ran gynharaf y pandemig bod y cyfrifoldebau gofalu ychwanegol sy'n codi o'r pandemig, gan gynnwys gofal plant, yn disgyn yn anghymesur ar fenywod. Gofynnir i blant barhau i hunanynysu pan fydd achosion mewn ysgolion ac yn seiliedig ar y cyfyngiadau symud cyntaf, bydd gofalu am blant a'u cefnogi i ddysgu, os bydd gwaith dysgu o bell yn digwydd, yn disgyn yn fwy ar fenywod nag ar ddynion.
  • I ddisgyblion y gofynnir iddynt hunanynysu, ni chaiff gwaith dysgu cyfunol (cyfuniad o ddysgu ar-lein ac addysgu wyneb yn wyneb) ei ystyried yn ddewis amgen cymaradwy i addysgu wyneb yn wynebu a byddai'n effeithio'n anghymesur ar ddysgwyr sy'n fwy agored i niwed ac sydd dan anfantais. Fodd bynnag, mae hunanynysu yn galluogi addysgu wyneb yn wyneb i'r rhai nad ydynt yn hunanynysu i barhau mewn ffordd ddiogel a reolir. Mae cael Profi Olrhain Diogelu ar waith ymhlith mesurau eraill yn golygu y gallwn atal trosglwyddiad mewn sefydliadau addysgol gan sicrhau y gall gwaith dysgu barhau i'r mwyafrif.
  • I bobl BAME yn enwedig, mae defnyddio'u gwybodaeth i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd yn fater pwysig o ymddiriedaeth a hyder mewn awdurdodau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd briodol a theg. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyrff gorfodi yn gweld cyn lleied o ddata sy'n ofynnol i gyflawni eu swyddogaethau, a chaiff hyn eu rhannu yn unol â deddfwriaeth diogelu data gan gynnwys GDPR.
  • I fusnesau, bydd y ddyletswydd i hunanynysu yn cael effaith gadarnhaol o ran amharu ar drosglwyddiad pellach yn y gweithle, gan arwain at lai o absenoldeb salwch. Fodd bynnag, bydd y ddyletswydd yn achosi problemau staffio tymor byr lle gofynnir i niferoedd mawr o staff ynysu ar yr un pryd.
  • Bydd hunanynysu yn helpu i atal risgiau sylweddol i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus ehangach rhag cael eu gorlwytho, a fyddai'n arwain at fwy o farwolaethau.

Ailagor ysgolion a sefydliadau addysgol eraill a'r effaith ehangach ar blant a phobl ifanc

Yr hawl i addysg yw un o egwyddorion craidd CCUHP. Er bod yr holiadur Coronafeirws a Fi wedi dangos bod y mwyafrif o'r ymatebwyr yn hyderus am eu gwaith dysgu yn ystod y cyfyngiadau symud cychwynnol, dim ond 11% o'r ymatebwyr rhwng 12 a 18 oed a ddywedodd nad oeddent yn poeni am eu haddysg. Y pryder mwyaf a nodwyd (54%) oedd colli tir yn eu gwaith dysgu. Felly mae ailagor ysgolion ac addysg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn dilyn y cyfnod atal byr.

Ni ellir gorbwysleisio buddiannau addysg o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc. Mae tystiolaeth amlwg y bydd gwaith dysgu yr amherir arno, gwaith dysgu cyfunol a gwaith dysgu o bell yn cael effaith anghymesur negyddol ar rai plant, yn enwedig plant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, plant anabl neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant BAME. Hyd yn oed os gallant gael gafael ar waith dysgu drwy ddyfais ddigidol, bydd rhwystrau ymarferol eraill o ran argaeledd lle, galwadau eraill ar eu hamser (e.e. gofalu am frodyr a chwiorydd iau), diffyg cymorth arbenigol y byddent yn ei gael yn yr ysgol a galluedd a galluogrwydd eu teuluoedd i'w helpu gyda gwaith ysgol yn effeithio'n negyddol ar eu gallu i ddysgu. Mewn perthynas â gwasanaethau eraill i blant ar ôl 9 Tachwedd:

  • Bydd gwasanaethau mamolaeth ac amenedigol yn parhau, gyda mynediad i ymwelwyr iechyd a gwasanaethau cymorth ehangach ar waith. Bydd hyn yn cynnwys cynnal dosbarthiadau bwydo ar y fron a dosbarthiadau rhiant a phlentyn, y ddau i gefnogi iechyd meddwl mamol amenedigol a sicrhau bod plant bach yn cael eu gweld a bod eu datblygiad yn cael ei asesu er mwyn galluogi ymyrraeth gynnar fel sy'n ofynnol. Bydd gwasanaethau cymorth ehangach drwy Dechrau'n Deg hefyd yn ailddechrau, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb, lle mae mewn amgylchedd sy'n ddiogel o ran Covid. Bydd hyn yn helpu i leihau'r effaith ar ddatblygiad plant
  • Bydd mynediad i ofal plant, ac yn enwedig gofal plant Dechrau'n Deg, yn parhau. Mae gofal plant cofrestredig ffurfiol yn cwmpasu plant rhwng 0 a 12 oed, er bod y swmp o ddarpariaeth o ran lleoedd ac oriau'r gofal a ddarperir ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar. Mae'n ofynnol i bob lleoliad gofal plant weithio i egwyddorion y Cyfnod Sylfaen, hyd yn oed pan nad yw'n ddarparwr addysg gynnar, gan gefnogi gwaith dysgu a datblygiad cynnar. Mae presenoldeb rheolaidd mewn lleoliad gofal plant hefyd yn cefnogi cymdeithasoli ac yn galluogi i oedi datblygol gael ei nodi'n gyflym, yn ogystal â galluogi rhieni i weithio.
  • Bydd mynediad i weithgareddau allgyrsiol a gweithgareddau wedi'u trefnu yn ailddechrau. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon, ond hefyd amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol, addysgol a datblygiadol. Mae enghreifftiau yn cynnwys presenoldeb mewn clybiau dawns, drama a chwaraeon, yn ogystal â grwpiau cymorth i ofalwyr ifanc a phlant ag anghenion ychwanegol, anableddau dysgu ac anghenion iechyd cymhleth.
  • Bydd cyfleusterau chwarae, gan gynnwys meysydd chwarae awyr agored ac ardaloedd chwarae dan do, yn parhau ar agor ac yn hygyrch, yn unol â hawl y plentyn i chwarae fel y nodir yn CCUHP ac sydd wedi'i gynnwys yng nghyfraith Cymru. Dylai hyn gynnwys mynediad i barciau a mannau agored, lleiniau a chyrtiau cyhoeddus a pharhau i chwarae ar y stryd lle mae'n ddiogel gwneud hynny. I blant hŷn, y disgwyl yw y bydd Gwasanaethau Ieuenctid yn parhau i weithredu, gan ddarparu mannau diogel i blant a phobl ifanc hŷn gwrdd, cymdeithasu a chael cymorth yn ôl yr angen.

Effeithiau ar yr amgylchedd

Mae'n debygol y bydd effaith amgylcheddol negyddol gyffredinol yn dilyn y cyfnod atal byr oherwydd mwy o deithio, gan mai dim ond teithiau hanfodol a ganiatawyd yn ystod y cyfnod atal byr. Yn yr wythnos a ddaeth i ben 29 Hydref, gostyngodd derbyniadau traffig ffyrdd, bws a rheilffyrdd am ei fod yn wyliau hanner tymor ac wedyn y cyfnod atal byr. Gostyngodd traffig ffyrdd 18 pwynt canran o gymharu â'r wythnos flaenorol, ac ar hyn o bryd mae ar 54% o'r lefelau a welwyd ar 13 Mawrth. Mae hyn yn parhau i fod yn uwch na'r lefel isaf o 35% ar ddiwrnod o'r wythnos a ddilynodd y cyhoeddiad i aros gartref yn ôl ym mis Mawrth (Monitor Data Covid-19 2 Tachwedd).

[1] Menywod yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n darparu gofal, â thâl ac yn ddi-dâl, a menywod yw'r rhan fwyaf o'r gweithwyr iechyd, ac maent yn fwy tebygol na dynion o roi gofal di-dâl gartref (Grŵp Cyllideb Menywod, Covid-19: Materion Rhywedd a Chydraddoldeb)

[2] Adroddiad Cyngor ar Bopeth: Mae An Unequal Crisis (Cymru a Lloegr) yn nodi, o blith yr 1 o bob 6 (17%) o'r boblogaeth weithio sy'n wynebu colli swydd: 

  • mae 1 o bob 4 o bobl anabl (27%) yn wynebu colli eu swydd, sy'n codi i 37% i'r bobl hynny y mae eu hanabledd yn cael effaith sylweddol ar eu gweithgareddau
  • mae 1 o bob 2 o bobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i'r coronafeirws (48%) yn wynebu colli eu swydd
  • mae 2 o bob 5 o bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu (39%), naill ai am blant neu oedolion agored i niwed, yn wynebu colli eu swydd