Neidio i'r prif gynnwy

Amserlenni cyfredol a chanllawiau ar gyfer ceisiadau DNS.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn parhau i wynebu pwysau llwyth gwaith sylweddol. Mae hyn yn wir ar draws yr ystod o geisiadau, apeliadau a gwaith arall rydym yn gyfrifol amdanynt. Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i fwrw ymlaen â’n gwaith achos mor gyflym ag y byddem yn dymuno.

Yn ystod y misoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau DNS a gyflwynwyd i PCAC. Disgwyliwn i’r ffrwd hon o gyflwyniadau barhau drwy gydol 2025.

Mae hyn yn golygu bod oedi’n debygol cyn derbyn a dechrau ceisiadau DNS. Mewn achosion, ni fyddwn yn bodloni’r amserlenni safonol o 4 a 6 wythnos ar gyfer derbyn ceisiadau nad ydynt yn rhai Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a cheisiadau AEA.

Er mwyn ein helpu i reoli ein hadnoddau, mae'n rhaid i geisiadau DNS fynd rhagddynt ar sail argaeledd adnodd Arolygydd.

Ar hyn o bryd gallai hyn olygu oedi cyn derbyn ceisiadau i'w harchwilio.

Mae hyn yn golygu y bydd yr amser a gymerir i ddechrau achosion unigol yn amrywio. Ceisiwn roi:

  • diweddariadau realistig i ymgeiswyr ar yr adeg cyflwyno
  • Gan dybio bod ceisiadau'n cael eu gwneud yn ddilys, dyddiadau a amcangyfrifir ar gyfer derbyn ar ôl iddynt gael eu hadnabod.

Rydym yn gweithio'n galed i adeiladu ein hadnodd drwy recriwtio Arolygwyr newydd a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd peth amser cyn i'r ymdrechion hyn wella'r ffordd y darperir gwasanaethau.

Yn y cyfamser, gall ymgeiswyr ein cynorthwyo trwy:

  • roi diweddariadau rheolaidd cyn cyflwyno eu cais (fel y gallwn gynllunio’n effeithiol)
  • sicrhau eu bod yn dilyn ein canllawiau ynglŷn â sut i gyflwyno’r cais. (Bydd hyn yn ein helpu i osgoi gweinyddiaeth ddiangen yn ymwneud â materion fel dogfennau coll a ffeiliau electronig o faint anymarferol)

Diolchwn i chi am eich amynedd wrth i ni ymdrechu i ddarparu ein gwasanaethau’n well.