Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynllun yw’r fframwaith NYTH, sy’n helpu sefydliadau ac arweinwyr i siarad am iechyd meddwl a lles. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud yn siŵr bod babanod, plant, pobl ifanc, a’u teuluoedd yn cael y gwasanaethau iechyd meddwl a lles gorau.

Mae’r fframwaith NYTH yn helpu gwasanaethau gwahanol i weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau gwell - gwasanaethau sy’n:

  • meithrin
  • grymuso
  • diogel
  • dibynadwy

Mae’r adroddiad yma’n dangos pa mor dda mae’r fframwaith NYTH yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Beth ydyn ni wedi’i wneud ar draws Cymru

Ym mis Chwefror 2024, fe wnaethon ni ddechrau defnyddio offeryn hunanasesu NYTH. Dyma offeryn sy’n holi gwasanaethau am ba mor dda mae eu gwaith NYTH yn ei wneud. Cafodd ei greu gyda help gan bobl ifanc, gweithwyr, ac arweinwyr. Cyn ei rannu gyda phawb, fe wnaethon ni ei brofi mewn llefydd gwahanol. Fe wnaethon ni hefyd gynnal digwyddiad mawr i ddangos i bobl sut i’w ddefnyddio. Daeth dros 300 o bobl i’r digwyddiad. Ar ben hyn, rydyn ni’n cynnal cyfarfod bob mis i helpu pobl i’w ddefnyddio.

NYTH yn Llywodraeth Cymru

Mae NYTH bellach yn rhan o sawl darn o waith gan Lywodraeth Cymru:

  • mae’r fframwaith NYTH yn rhan fawr o’r strategaeth iechyd meddwl a lles newydd
  • mae’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru yn dweud y dylai pobl sy’n cynllunio gwasanaethau ddefnyddio’r fframwaith NYTH
  • mae’r fframwaith NYTH yn rhan o’r cynllun newydd ar gyfer plant ag anableddau dysgu
  • mae’r grant plant a chymunedau bellach yn cynnwys NYTH ar gyfer prosiectau cymorth, chwarae a gofal plant i deuluoedd
  • mae’r rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth yn gweithio gyda NYTH i helpu teuluoedd â phlant sy’n niwrowahanol
  • rŵp o bobl â swyddi gwahanol yw ein cymuned ymarfer NYTH, sy’n cyfarfod i siarad am iechyd meddwl a lles plant
  • mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr chwarae yn gweithio gyda NYTH ac rydyn ni’n gwybod bod gwaith ieuenctid a chwarae yn bwysig i iechyd meddwl plant a phobl ifanc

NYTH a hyfforddiant hawliau plant

Ym mis Chwefror 2024, fe wnaethon ni ddechrau cwrs hyfforddi newydd am NYTH a hawliau plant. Cafodd y cwrs yma ei greu gyda help gan bobl ifanc a Chomisiynydd Plant Cymru. Erbyn mis Hydref 2024, roedd 147 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cwrs, ac roedd 70 wedi ei orffen.

Roedd adborth yn cynnwys:

  • roedd pobl yn hoff o’r enghreifftiau go iawn o sut mae’r fframwaith NYTH yn cael ei ddefnyddio
  • roedden nhw’n teimlo bod clywed lleisiau plant a straeon go iawn yn gwneud yr hyfforddiant yn ddiddorol
  • roedd pobl eisiau gweld mwy o straeon fideo ac enghreifftiau o’r fframwaith NYTH yn cael ei ddefnyddio

Dywedodd un person:

Roeddwn i’n teimlo bod cynnwys lleisiau’r bobl ifanc yn yr hyfforddiant yn ddefnyddiol, a’r holl wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud ganddyn nhw a gyda nhw.

Beth mae’r rhanbarthau (ardaloedd lleol) wedi’i wneud

Grwpiau o bobl yw Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella’r gofal a’r cymorth mae pobl yn eu cael yn eu hardal.

Ym mis Hydref 2024, fe wnaeth pob bwrdd ddweud wrthym ni pa mor dda roedden nhw’n meddwl roedd eu gwaith NYTH yn ei wneud, drwy broses o’r enw hunanasesiad NYTH.

Er mwyn cwblhau’r broses yma, fe wnaeth y byrddau siarad â gweithwyr ac arweinwyr a gwrando ar blant, pobl ifanc, a theuluoedd.

Mae gan NYTH 6 syniad pwysig ar gyfer iechyd meddwl plant. Yr enw ar y syniadau yma yw egwyddorion. Fe wnaethon ni ofyn i’r byrddau roi sgôr iddyn nhw eu hunain o 1 i 4 ar ba mor dda roedden nhw’n ei wneud ar gyfer pob syniad. Mae’r sgoriau yma ar gael yn yr adroddiad.

Oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 2.3.

Mewn sawl lle yng Nghymru, maen nhw’n ceisio gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw oedolion y gall plant ymddiried ynddyn nhw. Mae gwasanaethau eisiau i staff aros yn eu swyddi am amser hir, fel y gall plant ddod i ymddiried ynddyn nhw. Ond weithiau, mae contractau byr a dim digon o arian yn gwneud hyn yn anodd.

Mae hyfforddi oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw am drawma (profiadau sy’n annymunol ac sy’n gallu achosi gofid neu bryder inni) yn bwysig iawn.

Fe wnaeth y rhanbarthau ddweud hefyd ei bod yn bwysig bod cydweithio da rhwng oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw. Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod plant yn cael y cymorth cywir pan fyddan nhw ei angen.

Lles ar draws addysg

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 2.1.

Mae pob rhanbarth yn gwybod bod cymorth iechyd meddwl a lles mewn ysgolion yn bwysig iawn. Ond, roedd llawer o lefydd yn ei chael hi’n anodd cael gweithwyr addysg i ymuno â’u grwpiau. Maen nhw’n gweithio ar wella hyn.

Mae cymorth ar gael i ysgolion ar gyfer iechyd meddwl a lles dysgwyr drwy’r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol a gwasanaeth mewngymorth CAMHS.

Mae llawer o’r rhanbarthau eisiau i ysgolion ddysgu mwy am wasanaethau iechyd meddwl, ac i ysgolion gysylltu â’r gwasanaethau yma.

Mae rhai o’r rhanbarthau’n gweithio ar roi cymorth ychwanegol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref neu mewn unedau arbennig.

Fe wnaeth y rhanbarthau ddweud hefyd y dylai gofal plant, colegau a phrifysgolion fod yn rhan o’r cynllun NYTH.

Arloesi drwy gydgynhyrchu

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 2.1.

Mae angen i bob grŵp sy’n cwblhau hunanasesiad NYTH wrando ar blant a theuluoedd. Roedd rhai llefydd yn cael hwyl dda arni, tra nad oedd llefydd eraill yn cael gystal hwyl. Yn y rhanbarthau lle nad oedden nhw’n gwrando ar leisiau plant, roedd cynlluniau i ddechrau gwneud hynny.

Roedd gan lawer o’r rhanbarthau enghreifftiau da o weithio gyda phlant a theuluoedd i gynllunio a darparu gwasanaethau. Er hynny, nid oedd gan bob rhanbarth gynllun ar gyfer cynnwys plant a theuluoedd mewn penderfyniadau mwy pwysig. Mae’r rhanbarthau’n gweithio ar wella hyn.

Mae’r rhanbarthau’n bwriadu cynnwys mwy o leisiau plant a allai fod yn cael eu gadael allan, fel pobl ifanc ddigartref, plant â salwch difrifol, a phlant sydd ddim yn siarad. Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed mwy gan rieni a gofalwyr.

Ychydig iawn o’r rhanbarthau oedd yn gwrando ar fabanod a phlant ifanc iawn, ond maen nhw’n gwybod bod angen iddyn nhw weithio ar hyn.

Mynediad hawdd at arbenigedd

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 2.1.

Fe wnaeth y rhanbarthau siarad am y problemau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael help. Mae rhai o’r problemau yma’n cynnwys:

  • byw mewn ardaloedd gwledig
  • cysylltiadau teithio gwael
  • tlodi

Fe wnaeth rhanbarth y Gogledd ddweud bod angen gwasanaethau yn y Gymraeg arnyn nhw. Roedd angen gwasanaethau mewn ieithoedd gwahanol ar ranbarthau eraill hefyd.

Mae’r rhanbarthau’n gweithio ar wefannau sy’n rhoi gwybodaeth am iechyd meddwl a gwasanaethau.

Fe wnaeth pobl ddweud bod gwasanaethau’n gweithio’n well gyda’i gilydd pan maen nhw’n cael eu hariannu gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Y broblem fwyaf yw rhestrau aros hir i gael help.

Cymunedau diogel a chefnogol

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 1.8 (yr isaf).

Fe wnaeth y rhanbarthau ddweud bod llawer o waith i’w wneud. Mae problemau’n cynnwys byw mewn ardaloedd gwledig, cysylltiadau teithio gwael a phrosiectau’n cael eu rhedeg mewn trefi mawr yn unig yn hytrach na phentrefi bach.

Mae llawer o’r rhanbarthau hefyd yn poeni bod ganddyn nhw ddim digon o fannau gwyrdd a llefydd i blant chwarae, sy’n bwysig i iechyd meddwl.

Mae’r rhanbarthau’n bwriadu gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar faterion lles. Maen nhw eisiau cynnwys pethau fel gwaith ieuenctid, gwaith chwarae, a thai yn eu cynlluniau NYTH.

Mae’r rhanbarthau’n gwybod bod gweithgareddau ieuenctid a digwyddiadau cymunedol yn bwysig iawn. Fe wnaeth rhai ohonyn nhw sôn hefyd am “bresgripsiynu cymdeithasol,” sy’n golygu cysylltu pobl â gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol i’w helpu i deimlo’n well.

Dim drws anghywir

Y sgôr NYTH ar gyfer pob rhanbarth yw 2.3.

Mae’r rhanbarthau’n treulio llawer o amser ac ymdrech ar wneud yn siŵr nad oes “dim drws anghywir” ar gyfer cael help. Mae hyn yn golygu ble bynnag rydych chi’n mynd am help, fe fyddwch chi’n cael eich tywys i’r lle cywir. Dyma un o’r egwyddorion i sgorio uchaf.

Mae pob rhanbarth yn creu pwyntiau mynediad unigol neu’n gwella eu systemau “dim drws anghywir” drwy ddysgu gan eraill. Mae’r newidiadau yma’n cymryd amser hir ac yn cynnwys y rhanbarthau’n gweithio gyda’i gilydd, rhannu gwybodaeth, a newid sut mae pobl yn meddwl.

Mae rhai o’r rhanbarthau eisiau cynnwys help ar gyfer niwroamrywiaeth a sefyllfaoedd argyfwng yn eu systemau “dim drws anghywir”.

Casgliadau

Eleni, mae NYTH wedi gwneud cynnydd da gyda’r offeryn hunanasesu a’r hyfforddiant newydd. Mae hyn yn helpu pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r un cynllun, gyda chefnogaeth yn lleol.

Mae pobl eisiau defnyddio NYTH, ac mae pethau’n mynd yn dda. Ond, fe fydd hi’n cymryd amser hir i NYTH gael ei ddefnyddio’n iawn, ac mae angen i bawb weithio gyda’i gilydd.

Fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr bod gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn cael eu cynnwys yn NYTH. Rydyn ni’n gwybod bod iechyd meddwl plant ifanc yn bwysig iawn. Fe fyddwn ni hefyd yn cysylltu NYTH â gwaith iechyd meddwl mewn ysgolion.

Fe fyddwn ni’n parhau i wella’r systemau “dim drws anghywir” i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael help yn hawdd.

Yn olaf, fe fyddwn ni’n parhau i wrando ar bawb sy’n gweithio gyda NYTH i wneud yn siŵr ein bod yn ateb anghenion babanod, plant, pobl ifanc, a theuluoedd.