Diweddariad gwasanaethau Arolygiaeth Cynllunio Cymru
Manylion yr aflonyddwch sydd ar ddod i wasanaethau a ddarperir gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar 1 Hydref, bydd staff a swyddogaethau Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Enw’r isadran newydd fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Er bod enw’r sefydliad yn newydd, bydd Arolygwyr a staff cymorth Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru i gyflawni’r swyddogaethau hyn. Mae trefniadau llywodraethu cadarn wedi’u sefydlu i sicrhau bod Arolygwyr yn parhau i benderfynu ar apeliadau a gwaith achos arall gyda’r un gwrthrychedd a didueddrwydd ag o’r blaen.
Bydd y trawsnewidiad yn golygu trosglwyddo achosion presennol i system brosesu gwaith achos newydd, ac er mwyn cynorthwyo â throsglwyddo data, ni fyddwn yn cychwyn apeliadau newydd nac achosion eraill a dderbynnir ar ôl 16 Medi.
Ni fyddwch yn gallu cyflwyno apêl drwy’r Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ar ôl 16 Medi, ond byddwn yn derbyn apeliadau a gwaith achos arall drwy’r e-bost a’r post.
Ni fyddwch yn gallu cyflwyno datganiadau/tystiolaeth drwy’r ACP ar ôl 16 Medi, ond byddwn yn derbyn cyflwyniadau drwy’r e-bost a’r post.
Os cyflwynwch apêl neu achos arall i ni ar ôl 16 Medi, bydd dyddiad y cyflwyniad yn cael ei dderbyn fel y dyddiad y gwneir yr apêl mewn perthynas â’r terfynau amser statudol ar gyfer cyflwyno apeliadau ac achosion eraill. Byddwn yn cychwyn ar eich apêl/achos cyn gynted ag y bo modd ar ôl i ni drosglwyddo i’r isadran newydd, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio ar achosion presennol o 16 Medi i 29 Medi. Yn dilyn rhyw wythnos o hyfforddiant ar ein systemau newydd, byddwn yn ailddechrau ar 11 Hydref.
Bydd newid y systemau gwaith achos yn arwain at newid i’ch rhif cyfeirnod achos, ond cewch wybod beth fydd y rhif newydd a ble i weld yr holl ddogfennaeth, cyn gynted ag y bo modd ar ôl y trosglwyddo.
Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru ar hyn o bryd, a bydd yn parhau’n Rheolydd Data wedi i’r symudiad hwn i Lywodraeth Cymru gael ei gwblhau.