Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn diolch i'r staff am eu gwaith diflino yn ystod y cyfnod prysur hwn, ac i alw ar bobl i ddewis yn dda.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Mr Gething:

“Hoff ddiolch i staff o bob rhan o GIG Cymru a'r sector gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal i bobl Cymru. Ar hyn o bryd mae pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig ar gyfer staff gwasanaethau ambiwlans rheng-flaen, meddygon teulu ac Adrannau Achosion Brys.  

Rydym yn gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cyflwyno'r canlyniad gorau posibl i gleifion ar hyn o bryd, ac i gefnogi'r gwaith ymarferol pellach sydd ei angen i ddiwygio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Er bod rhai llawdriniaethau yn cael eu gohirio yn hytrach na'u canslo, mae nifer sylweddol o bobl yn parhau i gael y gofal dewisol y mae arnynt ei angen. Buddsoddwyd £30m yn ychwanegol gennym ym mis Medi i gefnogi #GIGCymru ac awdurdodau lleol gyda'u cynlluniau ar gyfer y gaeaf, a defnyddiwyd llawer o'r arian hwn i helpu i gynyddu nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael, cynhwysedd cymunedol a chapasiti gofal cymdeithasol, yn dechrau yr wythnos hon. 

Rydym yn cydnabod bod y galw yn parhau i fod yn uchel ar draws GIG Cymru gan adlewyrchu'r sefyllfa ledled y DU. Byddwn yn gofyn i bobl leihau'r risg o ledaenu heintiau, gwneud Dewis Doeth a defnyddio cymorth arall, megis Galw Iechyd Cymru ar-lein, ffonio 111, neu ymweld ag uned mân anafiadau lle bo'n briodol.”