Diweddariad Cyntaf Chwemisol Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir Gorffennaf 2023 i Rhagfyr 2023
Ein dull o ymdrin â chyfraith yr UE a ddargedwir (REUL) a'n disgwyliadau dros y 6 mis nesaf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
Yn dilyn cyhoeddi’r Adroddiad Seneddol ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir Mehefin 2023 – Rhagfyr 2023 Llywodraeth y DU (‘Adroddiad Llywodraeth y DU’), mae Llywodraeth Cymru yn darparu adroddiad i'r Senedd ar ymwneud Cymru â Chyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2023. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2023 i sicrhau cysondeb â chyfnod adrodd Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r adroddiad hwn i sicrhau bod gan y Senedd yr wybodaeth ddiweddaraf am ein safbwynt o ran Cyfraith yr UE a Ddargedwir, a'i reoli, a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o ran diwygio Cyfraith yr UE a Ddargedwir dros y 6 mis nesaf.
Roedd Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn fath o gyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig a grëwyd gan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Fel y dywed adroddiad Llywodraeth y DU:
[the] primary objective of REUL was to provide legal continuity and certainty. It sought to minimise any substantive changes in UK domestic law at the point the transition period (and dynamic alignment with EU law) ended. This was achieved by preserving domestic legislation that had implemented EU obligations an d by taking a “snapshot” of directly applicable EU legislation (EU Regulations, tertiary legislation and decisions) which formed “retained direct EU legislation” (also known as RDEUL).
Mae'n bwysig nodi bod y Senedd wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi ei hargyhoeddi o reidrwydd, buddioldeb a doethineb dechrau gwneud newid sylweddol i'r corff o Gyfraith yr UE a Ddargedwir ar yr adeg hon ac yn fwy cyffredinol. O'r herwydd, mae ein hagwedd at rinweddau dirymu neu ddiwygio Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn eithaf gwahanol i agwedd Llywodraeth y DU, ac rydym yn credu bod blaenoriaethau Cymru yn cyd-fynd â rhai'r UE, ac mai felly y dylai fod.
Mae Cyfraith yr UE a Ddargedwir wedi cael ei ddisodli fel terminoleg gan "cyfraith a gymathwyd," fodd bynnag, at ddibenion y diweddariad hwn, defnyddir Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn gyson i osgoi dryswch ac i gydnabod y cyfeiriwyd ato yn ystod y cyfnod hwn fel Cyfraith yr UE a Ddargedwir.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi ymateb i adroddiad Llywodraeth y DU: First Bi Annual Government REUL Act Update (Saesneg yn Unig).
2. Polisi Llywodraeth Cymru ar reoli Cyfraith yr UE a Ddargedwir (bellach Cyfraith a Gymathwyd)
Mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad y DU, gwnaethom gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio pwerau Cyfraith yr UE a Ddargedwir:
[byddwn] yn defnyddio pwerau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir mewn modd cymesur a doeth lle y mae manteision i Gymru o wneud hynny. Ni fyddwn yn brysio i newid y gyfraith dim ond am ein bod yn gallu. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU pan fydd gwneud hynny’n dda i Gymru.
Rydym yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnwys gofyniad statudol yn Neddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i Weinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan bwerau yn Neddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir.
Er gwaethaf hyn, ers hynny mae Gweinidogion y DU wedi gwneud ymrwymiadau anstatudol y byddant yn ceisio cytundeb gan Weinidogion Cymru i arfer pwerau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir mewn meysydd datganoledig.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol a'n Rhaglen Lywodraethu ein hunain. Nid ydym yn credu bod angen gwneud newidiadau mawr i Gyfraith yr UE a Ddargedwir ac ni ddylai hyn chwaith fod yn flaenoriaeth. Rydym hefyd o'r farn bod angen ystyried cynigion ar gyfer dadreoleiddio yn ofalus er mwyn sicrhau bod unrhyw risgiau i berthnasoedd masnachu yn cael eu hystyried a'u rheoli'n briodol, yn enwedig gyda'r UE.
Er nad oes gennym gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio pwerau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir i ddiwygio deddfwriaeth, rydym yn parhau i fod yn bryderus am effaith bosibl cynigion diwygio Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ystyried eu cynigion lle maent yn ymwneud â materion y mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli yng Nghymru.
3. Deddfwriaeth Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir Cymru
Ar lefel ganolog a pholisi, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu â'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch cynigion Llywodraeth y DU. Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn rhoi manylion y dirymiadau a'r diwygiadau y mae wedi eu gwneud rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2023. Nid yw'r rhain yn cael eu hailadrodd yma.
Yn gyffredinol, mae'r ymwneud rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol lle mae cynigion yn defnyddio pwerau cydamserol. Er enghraifft, ddirymodd Atodlen 2 i 'Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, 93 darn o Gyfraith yr UE a Ddargedwir a oedd yn ddiangen, wedi eu disodli, neu heb unrhyw effaith gyfreithiol yn y DU mwyach ar ôl ymadael â'r UE.
Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod dirymu'r offerynnau hyn yn briodol mewn cyd-destun datganoledig ac i sicrhau bod yr holl fesurau angenrheidiol yn cael eu cadw.
Nid oes unrhyw enghreifftiau yn y cyfnod hwn o Weinidogion Cymru yn ysgrifennu at eu cymheiriaid yn y DU i wrthod cydsynio i gynigion sy'n defnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir, sydd hyd yma wedi digwydd yn anaml iawn.
Ar gyfer Offerynnau Statudol (OS) sy'n diwygio Cyfraith yr UE a Ddargedwir a wnaed yn wreiddiol gan Weinidogion Cymru ar sail Cymru yn unig, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud un OS. Mae Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol, y gellir ei ddefnyddio, ymhlith pethau eraill, i ddiwygio deddfwriaeth i ddiweddaru cyfeiriadau at Gyfraith yr UE a Ddargedwir (neu derminoleg gyfwerth) sy'n deillio o newidiadau i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir. Er mwyn adlewyrchu'r newidiadau terminoleg y darparwyd ar eu cyfer gan adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir, fe wnaethom gyflwyno OS Llywodraeth Cymru i ddiwygio oddeutu 20 o Offerynnau Statudol Cymru (Mae Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 yn rhoi rhagor o fanylion) a thri darn o ddeddfwriaeth sylfaenol:
- Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
- Mesur Gwastraff (Cymru) 2010
- Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU bod angen parhau i adolygu effeithiau'r pecyn o newidiadau a grybwyllir yn Adroddiad Seneddol y DU a byddant yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill yn hynny o beth.
4. Rhagolwg
Darperir y cyfathrebiadau cyhoeddus ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir gan Ddangosfwrdd Cyfraith yr UE a Ddargedwir Llywodraeth y DU sy'n dangos rhestr o ddeddfau UE a ddargedwir y gwnaeth y DU eu cadw i sicrhau parhad deddfwriaethol yn syth ar ôl Brexit.
Yn ogystal, rhoddodd Adroddiad Llywodraeth y DU gipolwg ar rai o'r diwygiadau arfaethedig y mae'n bwriadu eu gwneud ar gyfer 2024. Mae hefyd yn awgrymu y bydd cam nesaf diwygio Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn canolbwyntio ar ddiwygio rheoleiddiol fel rhan o raglen Rheoleiddio Doethach Llywodraeth y DU. Cyfeirir at bwerau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir i ddiwygio, dileu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir gyda darpariaethau'r DU fel cyfrwng ar gyfer adolygu a diwygio rheoliadau domestig Llywodraeth y DU (Sylwch fod Dangosfwrdd Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn cynnwys deddfwriaeth y DU a ddargedwir, ac sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n dod o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wneir gan y sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon).
Mae goblygiadau'r agenda ddadreoleiddiol hon yn aneglur ar hyn o bryd; fodd bynnag, byddwn yn parhau i drafod ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein hymateb i newidiadau rheoleiddio arfaethedig yn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru.
Pan fo Llywodraeth Cymru yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU yn dderbyniol ac yn unol â'n blaenoriaethau ein hunain, byddwn yn hysbysu'r Senedd yn unol â'r protocolau a'r rheolau sefydlog yr ydym wedi cytuno arnynt.
Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddefnyddio ein pwerau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir i ddirymu, ailddatgan neu ddiwygio Cyfraith yr UE a Ddargedwir a wnaed yn wreiddiol gan Weinidogion Cymru ar sail Cymru yn unig.