Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi lansio cytundeb Darparwr Gwasanaethau Enwebedig newydd ar gyfer polisi Cyfrifon Banc Prosiectau (PBA).

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cytundeb newydd hwn yn penodi banciau sy'n bodloni meini prawf newydd fel Darparwyr Gwasanaethau Enwebedig, y gall contractwyr fod yn sicr o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth ac arbenigedd ganddynt wrth sefydlu eu Cyfrifon Banc Prosiectau. Cynghorir contractwyr i gynnal eu hymchwil eu hunain i ddewis eu darparwr Cyfrifon Banc Prosiectau.

Adeg lansio, mae Barclays, NatWest a Lloyds i gyd wedi bodloni'r meini prawf ac wedi cael eu penodi yn Ddarparwyr Gwasanaethau Enwebedig. Fel rhan o'r meini prawf hyn, mae'r banciau enwebedig wedi sefydlu pwyntiau mynediad clir ac wedi cynllunio siartiau llif prosesau gyda'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer sefydlu Cyfrifon Banc Prosiectau. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r banciau hyn i wella'r broses Cyfrifon Banc Prosiectau.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cytundeb newydd a chanllawiau pellach ar bolisi Cyfrifon Banc Prosiectau yma.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch: PolisiMasnachol@llyw.cymru