Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, i ddefnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a’n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o’n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Yr economi a’r farchnad lafur

Yr Economi 

Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a’r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Mae’r grŵp yn rhan o gynllun ymgysylltu â defnyddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer ystadegau economaidd ac yn cynnig safbwynt allanol ar ystadegau a gyhoeddir o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hefyd yn fforwm i rannu gwybodaeth. Cyfarfu’r grŵp ym mis Hydref – roedd yr eitemau yn cynnwys cyflwyniad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar ei hadolygiad systemig o ystadegau economaidd a diweddariadau ar drawsnewid yr arolwg o’r llafurlu, yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth a’r gwaith o ddatblygu tablau mewnbwn-allbwn. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 13 Mawrth ar y pwnc tablau Mewnbwn-Allbwn a data ar Fasnach. 

Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â’r grŵp hwn, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai’n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein Harolwg arhydol busnesau bach: 2022 sy’n dangos nodweddion gwahanol busnesau bach a chanolig. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein datganiad Demograffeg busnes: 2023. Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi ein dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2024 sy’n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru 

Y Farchnad lafur

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau’r llafurlu sy’n deillio o’r Arolwg o’r Llafurlu eu labelu’n ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hyn. 

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o’r farchnad lafur, sy’n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â’r farchnad lafur ynghyd. Rydym yn argymell y dylai data’r Arolwg o’r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â’r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o’r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o’r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. 

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon wedi’u pwysoli i Gymru o’r Arolwg o’r Llafurlu. Er mwyn ystyried effaith lawn yr ymarfer ailbwysoli hwn, gwnaethom gyhoeddi erthygl yn dwyn y teitl ‘Impact of reweighting on Labour Force Survey key indicators in Wales’ ochr yn ochr â’n datganiad misol Trosolwg o’r farchnad lafur

Mae’r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o’r Llafurlu (TLFS) a’r nod yw mai’r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a’r DU yn y dyfodol. Gwnaeth y SYG roi prawf ar rai gwelliannau pellach i gynllun yr Arolwg Trawsnewidiol o’r Llafurlu yn ystod hydref 2024 ac mae wedi nodi y bydd yn cyhoeddi adroddiad ar y cynnydd yn ystod gwanwyn 2025. 

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi’r diweddariad blynyddol ar dablau StatsCymru ar Nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau a lwfans ceisio gwaith

Cafodd ystadegau’r farchnad lafur ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 o’n Harolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sy’n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU a hefyd ardaloedd lleol yn ogystal ag ystadegau blynyddol o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a’r farchnad lafur ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 eu cyhoeddi ym mis Ionawr hefyd. 

Roedd y ddau allbwn o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi’u dosbarthu’n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon diweddaraf o’r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai’r amcangyfrifon gael eu hailddynodi’n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru 

Masnach a Thablau Mewnbwn Allbwn

Arolwg Masnach Cymru 

Cafodd y dadansoddiad o ddata 2022 ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2024 ac mae ar gael yma: Arolwg Masnach Cymru: 2022. 

Bu bwlch yn y data a gasglwyd yn 2024 oherwydd pwysau cyllidebol, ond mae hyn hefyd wedi rhoi cyfle i’r tîm dadansoddi edrych eto ar yr achos busnes dros barhad yr Arolwg Masnach yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd contract i gyflawni’r iteriad nesaf o’r arolwg yn cael ei hysbysebu yn ystod gwanwyn 2025. 

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru 

Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 eu cyhoeddi ar 11 Rhagfyr 2024, a bydd data’r chwarter nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 20 Mawrth 2025. Cyhoeddwyd masnach nwyddau rhyngwladol Cymru: 2023 ar 17 Ebrill 2024, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad pellach o ddata 2023. Caiff dadansoddiad o ddata 2024 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025. 

Ochr yn ochr â’r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data’r chwarter diweddaraf. Cwblhawyd gwaith i ddiweddaru’r dangosfwrdd er mwyn cynnwys y gallu i ymdrin â data mawr, ac a gyflwynodd welliannau o ran hygyrchedd, ym mis Medi 2024. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Cyhoeddi Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn Allbwn

Caiff tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn ar gyfer 2019 eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Mae’r tablau yn rhoi ciplun o economi Cymru a manylion am gydberthnasau prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2019. Mae hyn yn ffrwyth prosiect 3 blynedd i ddeall economi Cymru yn well. Ymunodd yr Athro Calvin Jones â Llywodraeth Cymru ar secondiad i ddatblygu’r gwaith hwn, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei fewnbwn gwerthfawr.

Addysg

Mae llawer o ystadegau ar addysg ôl-16 bellach wedi’u trosglwyddo i Medr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ystadegau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau neu ddysgu oedolion, cysylltwch ag ystadegau@medr.cymru, a chaiff eich ymholiad ei drosglwyddo i’r tîm yn Medr.

Ysgolion

Data ar bresenoldeb mewn ysgolion

Rydym yn cyhoeddi data ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir bob pythefnos drwy gydol tymor y gwanwyn gan ddefnyddio ein data gweinyddol. Mae’r datganiadau bellach yn cynnwys dadansoddiad ychwanegol o absenoldeb mynych a dosbarthiad absenoldeb. 

Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol swyddogol Absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2023 i Awst 2024 ar 17 Rhagfyr 2024 i ategu’r datganiad cyfatebol ar ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd ar 1 Hydref 2024. Ar 4 Mawrth 2025 byddwn yn cyhoeddi datganiad newydd ar bresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion a fydd yn dwyn ynghyd yr ystadegau swyddogol ar wahân ar absenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr weld yr holl ddata mewn un allbwn. Yr allbwn hwn fydd y brif ffynhonnell i fesur gwelliannau mewn presenoldeb yn sgil datganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar wella presenoldeb ar 4 Rhagfyr 2024.

Fy Ysgol Leol

Ym mis Ionawr, gwnaethom ddiweddaru Fy Ysgol Leol er mwyn cynnwys y deilliannau CA4 terfynol ar gyfer haf 2024 ac absenoldeb o ysgolion cynradd ar gyfer 2023/24. 

Datganiadau ystadegol eraill

Ar 5 Rhagfyr gwnaethom gyhoeddi’r data terfynol ar Ganlyniadau arholiad Medi 2023 i Awst 2024.

Bydd Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2023 i Awst 2024 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2025.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym wedi cyhoeddi ein datganiad blynyddol ar Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a ddyfarnwyd yng Nghymru.

Er mwyn rhoi adborth neu ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch neges e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Tai

Amcangyfrifon o’r angen ychwanegol am dai 

Rydym eisoes wedi eich hysbysu ein bod yn ystyried opsiynau ar gyfer amseriad diweddaru’r amcangyfrifon o’r angen ychwanegol am dai ac wedi ceisio eich barn. 

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn mynd yn anghyfredol, ond nid oes modd llunio diweddariad llawn o’r holl ddata mewnbwn ar hyn o bryd oherwydd na fydd set ddata allweddol ar (amcanestyniadau is-genedlaethol o aelwydydd) ar gael tan ail hanner 2025. Roeddem wedi ystyried a oedd angen diweddariad interim o amcangyfrifon o’r angen am dai, yn seiliedig ar amcanestyniadau aelwydydd ar sail 2018.

Rydym bellach wedi penderfynu peidio â llunio amcanestyniadau interim o’r angen ychwanegol am dai. Yn hytrach, byddwn yn cyhoeddi diweddariad llawn tua diwedd 2025, yn seiliedig ar yr amcanestyniadau is-genedlaethol y bwriedir eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae’r rhesymau dros hyn fel a ganlyn: 

  • ni wnaeth defnyddwyr nodi y byddai angen amcangyfrifon newydd yn hanner cyntaf 2025.
  • gan nad yw’r amcanestyniadau diweddaraf o aelwydydd ar sail 2018 yn adlewyrchu’r data a’r tueddiadau demograffig diweddaraf mwyach, teimlwn y byddai’r defnydd ohonynt yn arwain at gryn ansicrwydd ystadegol mewn unrhyw amcangyfrifon interim.
  • mae llunio dwy set o amcangyfrifon, gyda gwerthoedd gwahanol o bosibl, mewn cyfnod cymharol fyr, yn peri’r risg o achosi dryswch. 

Yn y misoedd sydd i ddod, byddwn yn adolygu’r fethodoleg bresennol yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd hyn yn cynnwys diweddaru ein dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr, adolygu’r ffynonellau data a’r tybiaethau a ddefnyddiwyd a’r ffordd y caiff y data eu cyflwyno. Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn y gwaith hwn. 

Seminar Flynyddol y Grŵp Gwybodaeth am Dai

Ar 26 Mehefin byddwn yn cynnal seminar wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Y thema fydd data digartrefedd. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn rhannu’r diweddaraf ar ddatblygu data digartrefedd ar lefel achosion i Gymru, gwaith ymchwil diweddar, ac yn gwahodd siaradwyr gwadd o rannau eraill o’r DU a’r tu allan i lywodraeth i rannu eu gwaith. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os oes gennych syniadau ynglŷn â chyflwyniadau ar gyfer y seminar yr hoffech inni eu hystyried, cysylltwch â ni. 

Ers y diweddariad diwethaf, mae’r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Rhagfyr 2024 (cyhoeddwyd 27 Chwefror) 

Peryglon tai: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 13 Chwefror)

Tai Amlfeddiannaeth trwyddedu: ar 31 Mawrth 2024 (cyhoeddwyd 13 Chwefror)

Adeiladu tai newydd: Gorffennaf i Ragfyr 2024 (cyhoeddwyd 23 Ionawr)

Tai a gafodd eu dymchwel: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 23 Ionawr)

Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Gorffennaf i Fedi 2024 (cyhoeddwyd 7 Ionawr)

Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 11 Rhagfyr)

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Y chwarter hwn gwnaethom ddiweddaru ein diweddariad misol arferol ar ein Crynodeb o berfformiad a gweithgaredd y GIG a’r allbwn chwarterol a ddatblygwyd yn ddiweddar gennym ar archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.

Gofal sylfaenol a chymdeithasol 

Y chwarter hwn cyhoeddwyd data chwarterol wedi’u diweddaru ar Weithgarwch practis cyffredinolgwasanaethau deintyddol y GIG. Bu diweddariad hefyd i’r ystadegau blynyddol ar bresgripsiynau gofal sylfaenol, gyda data ar eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn, yn ogystal â dadansoddiadau yn ôl bwrdd iechyd lleol, clwstwr amddifadedd a chymhariaethau yn y DU. 

Gweithlu a gwariant y GIG 

Y chwarter hwn, diweddarwyd ein hallbwn blynyddol ar weithlu practis cyffredinol, gan gynnwys dadansoddiad o niferoedd ac ymarferwyr cyffredinol (meddygon teulu) cyfwerth ag amser llawn, nyrsys ac aelodau eraill o staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yn ogystal â nodweddion y grwpiau staff hyn. Cafwyd diweddariadau data hefyd ar gyfres o ystadegau chwarterol eraill ar weithlu’r GIG, gan gynnwys: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIGAbsenoldeb oherwydd salwch y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG.

Iechyd meddwl

Yn ystod y chwarter hwn cyhoeddwyd dangosfwrdd rhyngweithiol newydd ar iechyd meddwl. Gall ystadegau iechyd meddwl fod wedi’u gwasgaru’n fawr rhwng setiau data ac allbynnau, a gall hyn olygu ei bod yn anodd dod o hyd iddynt neu weld darlun cyffredinol o’r maes. Bwriedir i’r dangosfwrdd hwn ddwyn yr holl ddata sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu lesiant ar StatsCymru ynghyd mewn un lle a rhoi tuedd lefel uchel ar gyfer pob un o’r rhain. Ymhen amser, bwriadwn estyn y cwmpas i holl ystadegau iechyd meddwl Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu paratoi gan y SYS yn unol ag amserlen reolaidd. Cyn ymrwymo i hyn, rydym yn awyddus i gael adborth gennych ynglŷn â sut y bydd y cynnyrch newydd hwn yn diwallu’ch anghenion a pha gynnwys fyddai’n ddefnyddiol, a pha mor aml. 

Yn ystod y chwarter hwn, gwnaethom hefyd ddiweddaru ein hallbwn blynyddol ar Gleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl. Eleni, rydym wedi cyhoeddi data am sawl blwyddyn yn sgil y tarfu ar yr allbwn hwn yn ystod pandemig COVID-19. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein diweddariad data chwarterol rheolaidd ar gyfer Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Yn y chwarter hwn, gwnaethom hefyd ddiweddaru ein hallbwn blynyddol ar Blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, gan gynnwys data ar blant ar orchmynion gofal ac mewn lleoliadau, mabwysiadu o ofal a nifer y plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal. 

Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau rheolaidd i amrywiaeth o ystadegau eraill, gan gynnwys: ystadegau ar fwydo ar y fronRhaglen Plant Iach Cymrumesurau gofal llygaid  a Gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu.

Mae nifer o allbynnau eraill ar gael gan sefydliadau partner, gan gynnwys diweddariadau i’r canlynol: Data Gwyliadwriaeth Hunanladdiad a Amheuir Amser Real gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Camddefnyddio sylweddau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gwasanaethau a lleoedd gofal rheoleiddiedig a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru gan Arolygiaeth Iechyd Cymru. 

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae gwaith maes Arolwg Cenedlaethol 2024 i 2025 yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025. 

Mae’r pwysau ar gostau, a’r cyfraddau ymateb is i arolygon a welir yn gyffredinol, yn golygu bod maint amcangyfrifedig y sampl a gyflawnwyd ar gyfer 2024 i 2025 dipyn yn is na’r oddeutu 12,000 y flwyddyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Bydd hyn yn cyfyngu ar gwmpas y gwaith dadansoddi, y gwyddom ei fod yn hollbwysig i ddefnyddwyr arolygon, ar grwpiau demograffig a daearyddol bach. Mae hefyd yn cyfyngu ar ein gallu i wella’r data sydd ar gael yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Felly, penderfynwyd na fydd y gwaith maes ar gyfer 2025 i 2026 yn mynd rhagddo. Mae gwaith wedi dechrau ar ail-lunio’r Arolwg Cenedlaethol at y dyfodol. Yn yr hydref, bydd y Cabinet yn trafod opsiynau ar gyfer ail-lunio’r arolwg ac ar y cam hwnnw byddwn yn anfon diweddariad arall ar y ffordd ymlaen atoch. 

Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Cyfiawnder cymdeithasol

Tlodi a chostau byw

Ddydd Iau 23 Ionawr 2025, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu yn yr adroddiad Below Average Resources for financial year 2022 to 2023 (Yr Adran Gwaith a Phensiynau). Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio adborth defnyddwyr ar y mesur newydd drwy ymgynghoriad dadansoddol a gynhaliwyd rhwng 18 Ionawr ac 11 Ebrill 2024. Nodir gwaith datblygu yn y dyfodol yn yr ymateb i’r ymgynghoriad (yr Adran Gwaith a Phensiynau) a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2025 hefyd.

Ar 27 Tachwedd 2025, byddwn yn cyhoeddi’r pumed datganiad mewn cyfres chwarterol o ystadegau’r Gronfa Cymorth Dewisol, a oedd yn cynnwys dadansoddiadau manylach yn ôl oedran ac awdurdod lleol. 

Rydym yn disgwyl cyhoeddi diweddariadau i grynodebau o ddata blynyddol ar gyfer Cymru ar dlodi incwm cymharolamddifadedd materolthlodi parhaus ar ddiwedd mis Mawrth 2025 (yn aros am gadarnhad ynglŷn â’r dyddiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau), pan fydd y data diweddaraf yn ymwneud â’r flwyddyn a ddaeth i ben yn 2024. 

Ar yr un diwrnod rydym yn disgwyl gweld yr ystadegau blynyddol ar dlodi. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu cyhoeddi diweddariad i’w hystadegau ar blant mewn teuluoedd incwm isel yn ôl ardal leol (yr Adran Gwaith a Phensiynau). Mae wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i raddnodi ffigurau yn unol ag amcangyfrifon blwyddyn sengl y DU (nid amcangyfrifon rhanbarthol) ar aelwydydd sy’n islaw’r incwm cyfartalog, felly bydd diwygiadau i’r ôl-gyfres ar lefel y DU, rhanbarth ac ardal leol.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Daeth ein harolwg o ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025 i ben ar 16 Rhagfyr 2024, a bwriadwn gyhoeddi ein hymateb i’r adborth a gafwyd ym mis Ebrill 2025. 

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i danysgrifio.

Diogelwch cymunedol

Nid oes unrhyw gyhoeddiadau newydd sy’n ymwneud â thân y chwarter hwn. Rydym yn awyddus i gael adborth gan y rhai sy’n defnyddio ein hystadegau tân. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw rai o’n hallbynnau ystadegol, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Trosedd a chyfiawnder

Ar 28 Chwefror 2025 byddwn yn cyhoeddi dangosfwrdd newydd a fydd yn cyflwyno data ar gyfer y gwasanaethau carchardai a phrawf yng Nghymru. Anfonwch unrhyw adborth neu geisiadau i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Cydraddoldeb

Ar 5 Ionawr 2025 gwnaethom gyhoeddi Adolygiad o ffynonellau data ac allbynnau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Rydym wrthi’n adolygu ystadegau cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr. Anfonwch e-bost at YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw adborth.

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am y ffordd rydych yn defnyddio adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gwefan StatsCymru, neu’r hyn yr hoffech ei gael o ddata Cyfrifiad 2021, yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Trafnidiaeth

Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Gorffennaf i Fedi 2024 a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap

I roi adborth ac i wneud sylwadau, e-bostiwch ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru 

Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Lansiwyd yr Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd i Gymru ym mis Mawrth 2025. Bydd yn casglu data ar agweddau at deithio, ymddygiad a defnydd gan bobl sy’n byw yng Nghymru.

Mae’r arolwg yn cynnwys dyddiadur teithio sy’n cofnodi gwybodaeth am deithiau gan yr ymatebydd yn ystod y ddau ddiwrnod blaenorol gan ddefnyddio mapio integredig yr Arolwg Ordnans. 

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol ar ran Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y bydd yn gallu cyhoeddi: 

  • Data 6 mis rhagarweiniol ar y lefel genedlaethol ym mis Mawrth 2026.
  • Data 12 mis terfynol ar y lefel genedlaethol a’r lefel ranbarthol o fis Hydref 2026.

Byddwn yn blaenoriaethu ein gwaith dadansoddi i baratoi ystadegau ar bynciau a meysydd ymchwil a fydd fwyaf gwerthfawr i ddefnyddwyr. Er mwyn dweud eich dweud, llenwch yr holiadur byr hwn. Gallwch ddewis hyd at dri phwnc sydd o ddiddordeb i chi. 

Gellir anfon unrhyw sylwadau, cwestiynau neu adborth pellach at y tîm yn arolwgteithio@trc.cymru

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Cyhoeddwyd Data ar y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 ar 23 Ionawr. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth:y Gymraeg) er mwyn cynnwys y data diweddaraf.

Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu’n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon diweddaraf o’r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai’r amcangyfrifon gael eu hailddynodi’n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Arolwg defnydd iaith

Mae’r tablau data ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 a oedd yn weddill wedi cael eu cyhoeddi bellach. Bydd y taenlenni hyn yn cynnwys dadansoddiadau data pellach i ategu’r crynodebau pwnc presennol. 

Mae’r tablau ar gael i’w lawrlwytho o dan y pennawd thematig perthnasol ar dudalen we’r Arolwg Defnydd Iaith.

Dangosfwrdd newydd ar gyfer data ar y Gymraeg mewn Addysg

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol newydd sy’n cyflwyno data ar y Gymraeg mewn addysg yn ôl awdurdod lleol bellach ar gael. 

Mae’r adnodd hwn yn darparu data ar leoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, nifer a chanran y disgylion sy’n astudio yn Gymraeg, cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU, UG. a Safon Uwch iaith Gymraeg, a gallu Cymraeg y gweithlu ysgolion. 

Mae’r data, a oedd ar gael mewn fformat gwahanol o’r blaen, bellach yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy hygyrch a hwylus, gan ei gwneud yn haws archwilio dirnadaethau allweddol.

Archwiliwch y dangosfwrdd yma: Y Gymraeg mewn Addysg.

Data ar y Gymraeg y tu allan i Gymru

Mae data cynhwysfawr ar siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a gweddill y DU yn brin ar hyn o bryd, ac rydym yn ystyried ffyrdd o ymdrin â hyn. Wrth i boblogaethau ddod yn fwy symudol, daw’n fwyfwy pwysig ein bod yn deall y tueddiadau hyn. 

Fel rhan o’n rhaglen waith ar y cyd â’r SYG, byddwn yn dogfennu gofynion defnyddwyr ar gyfer data am y Gymraeg y tu allan i Gymru. Hoffem glywed eich barn ynghylch pa ddata a allai fod yn werthfawr i chi a sut y byddech yn eu defnyddio. 

Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein dull gweithredu a sicrhau bod unrhyw ddata a gesglir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol. Gallwch rannu’ch meddyliau drwy lenwi arolwg byr ar Ddata ar y Gymraeg y tu allan i Gymru erbyn 5 Mai 2025.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.

Amaethyddiaeth a’r amgylchedd

Datgarboneiddio a’r newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd y ffigurau chwarterol diweddaraf ar gyfer gwastraff trefol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 ar 31 Ionawr. 

E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth

Cyhoeddwyd amcangyfrifon ar gyfer tir amaethyddol a da byw Cymru, Arolwg o’r cyfrifiad amaethyddol a garddwrol:Mehefin 2024, ar 21 Tachwedd 2024.

Cyhoeddwyd y Datganiad blynyddol ar incymau fferm, Incymau Fferm Ebrill 2023 i Fawrth 2024, o’r Arolwg o Fusnesau Fferm ar 16 Ionawr 2025. 

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyllid llywodraeth leol

Anheddau’r Dreth Gyngor

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi manylion Anheddau’r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26  a’r data cysylltiedig ar StatsCymru.

Poblogaeth a demograffeg

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru