Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)

Rydym yn parhau i addasu ein gweithrediadau arferol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ymateb y llywodraeth i bandemig y coronafeirws, a hefyd ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol lle mae ei hangen fwyaf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r blog Digidol a Data i roi gwybodaeth am y ffordd rydym yn gweithredu.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ystod estynedig o setiau data a datganiadau i roi gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod y pandemig. Rydym yn parhau i adolygu amlder a chynnwys rhai o'r datganiadau ystadegol cysylltiedig â COVID-19. Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau neu adborth ar y ffordd rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer eu newid, drwy e-bostio KAS.COVID19@llyw.cymru

Mae trosolwg o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru, y bwriedir iddo roi cipolwg wythnosol ar ddetholiad o ddangosyddion ar fathau uniongyrchol ac ehangach o niwed yn sgil COVID-19. Yn ôl yr arfer, mae rhagor o fanylion am y dangosyddion hyn a detholiad ehangach o ddata i'w gweld ar ein tudalen Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr o system brofi newydd COVID-19, ac achosion, marwolaethau a brechiadau a gofnodwyd yng Nghymru. Cyhoeddir y rhain ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19.

Yr economi a'r farchnad lafur

Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein datganiad misol trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae COVID-19 yn parhau i'w chael ar y farchnad lafur. Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

Ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi dadansoddiad newydd o'r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae'n ystyried tueddiadau hirdymor, yn ogystal ag effeithiau mwy diweddar pandemig y coronafeirws (COVID-19) a rhydd ddadansoddiad manylach o ddangosyddion allweddol y farchnad lafur (cyflogaeth, diweithdra, ac anweithgarwch economaidd) ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth (gan gynnwys rhyw, oedran, ethnigrwydd, anabledd, crefydd a statws priodasol). Rydym yn awyddus i wneud rhagor o waith dadansoddi yn ymwneud â'r farchnad lafur ar gydraddoldebau a byddai gennym ddiddordeb mewn clywed eich blaenoriaethau.

Cafodd amcangyfrifon ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ar gyfer gwledydd y DU, rhanbarthau, ac ardaloedd lleol yng Nghymru eu cyhoeddi ym mis Ionawr a oedd yn cwmpasu data hyd at fis Hydref 2020 i fis Medi 2021.

Ym mis Ionawr gwnaethom hefyd gyhoeddi dadansoddiadau diwydiant ar gyfer data demograffeg busnes ar wefan StatsCymru a diweddarwyd ein datganiad ar ddangosyddion allbynnau tymor byr ar gyfer trydydd chwarter 2021. Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi'r data diweddaraf ar nifer yr hawlwyr yn cwmpasu mis Ionawr 2022, yn ogystal â data ar gyfer cynnyrch domestig gros rhanbarthol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2021.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru

 

Addysg

Ysgolion

Rydym yn parhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref.

Fel y nodwyd yn y diweddariad chwarterol diwethaf, cafodd ymarferion casglu data eu gohirio neu eu hatal yn ystod blwyddyn ysgol 2020-21 oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, dylai amserlen fwy arferol o waith casglu a chyhoeddi data ar gyfer ystadegau ysgolion ddychwelyd yn ystod blwyddyn ysgol 2021-22:

  • Cafodd canlyniadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer haf 2021 eu cyhoeddi ar 2 Rhagfyr
  • Cafodd y Cyfrifiad Ysgolion, ac ymarferion casglu data cyfrifiadau EOTAS ac ysgolion annibynnol, eu gohirio o'u dyddiad gwreiddiol o 18 Ionawr oherwydd y pwysau roedd ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn sgil amrywiolyn Omicron. Cafodd yr holl ddata dan sylw eu casglu ar 15 Chwefror. Rydym yn dal i anelu at gyhoeddi'r data hyn ym mis Awst neu fis Medi yn ôl yr arfer.
  • Cadarnhawyd y caiff data asesiadau athrawon adeg mynediad a CA3 eu casglu ar gyfer 2022 ym mis Mai, ac fe'u cyhoeddir ym mis Awst. Ni chaiff unrhyw ddata eu casglu eleni ar gyfer asesiadau athrawon diwedd y Cyfnod Sylfaen na CA2.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg drawsbynciol ac ôl-16

Rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Cafodd ystadegau ar y sector gwaith ieuenctid a gynhelir ar gyfer 2020/21 eu cyhoeddi ar 21 Rhagfyr 2021 a chafodd y diweddariad chwarterol diweddaraf ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) ei gyhoeddi ar 20 Ionawr 2022.

Ym mis Chwefror gwnaethom gyhoeddi dau o'n datganiadau blynyddol mawr. Gwnaethom gyhoeddi erthygl ar ddeilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19) yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o ddangosyddion ar draws taith gyfan y dysgwr, yn ogystal â'r canlyniadau terfynol. Mae dadansoddiadau hefyd ar gael yn ôl nodweddion amrywiol dysgwyr. Dilyna hyn erthygl debyg a gyhoeddwyd y llynedd a gwnaethom hefyd ysgrifennu postiad blog i gyd-fynd â hyn yn tynnu sylw at rai o'r canfyddiadau allweddol. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystadegau blynyddol ar gofrestriadau a chymryd rhan mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol ar gyfer 2020/21. Ynghyd â hyn gwnaethom gyhoeddi data ar gyfer pedwerydd chwarter blwyddyn academaidd 2020/21 ar raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd sy'n cynnwys diweddariad i'n dangosfwrdd rhyngweithiol. Mae'r holl ddata a oedd yn ddata dros dro ar gyfer 2020/21 yn y datganiad hwn nawr yn derfynol.

Rydym wedi gohirio ein datganiad oedd ar ddod, a gynlluniwyd ar gyfer mis Chwefror yn flaenorol, ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 oherwydd gwall yn y broses paru data. Caiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi ym mis Ebrill nawr.

Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr

Y chwarter hwn, rydym wedi parhau i gyhoeddi Achosion cadarnhaol o coronafeirws cafodd eu hadrodd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn wythnosol. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein diweddariad blynyddol i Myfyrwyr mewn addysg uwch a Staff mewn sefydliadau addysg uwch.

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i'r blwch post ar gyfer Ystadegau ar Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr. addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd, ynghyd â data chwarterol ar gynllun Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Hefyd, cafodd nifer o allbynnau ystadegau tai rheolaidd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr – roedd y rhain yn cynnwys:

Bwriedir i ddatganiadau ystadegol ar Waith Dymchwel, Peryglon a thrwyddedau tai, Cymorth i wella tai a Thai cymdeithasol gwag, gosod tai cymdeithasol ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol i gyd gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2022. Bydd yr holl ddatganiadau hyn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Rhagfyr 2021) ar 16 Chwefror ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gyhoeddi data ar Dreth Trafodiadau Tir yn rheolaidd. Yn ddiweddar cafodd Awdurdod Cyllid Cymru statws Ystadegau Gwladol ar gyfer yr ystadegau hyn, gan olygu eu bod yn cyrraedd y safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Amodau Tai

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi parhau i roi cymorth a chyngor dadansoddol ar bynciau â blaenoriaeth uchel, gan gynnwys:

  • Gwaith i ddiweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
  • Diogelwch Adeiladau
  • Effeithlonrwydd ynni cartrefi mewn perthynas â'r agenda newid hinsawdd, a chynllunio ar gyfer dyfodol rhaglen Cartrefi Clyd.
  • Y Cynllun Gweithredu ar Dlodi Tanwydd a'r Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer

Mae dangosfwrdd tlodi tanwydd yn yr arfaeth a fydd yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddata sy'n berthnasol i dlodi tanwydd, gan gynnwys data ar effeithlonrwydd ynni cartrefi, buddiolwyr y cynllun cartrefi clyd, tariffau ynni, mesuryddion domestig a chartrefi sydd oddi ar y grid. Rydym yn gobeithio lansio fersiwn gyntaf y dangosfwrdd yn y gwanwyn.

Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i wneud y canlynol:

  • Diweddaru'r data gweinyddol ar dai sydd gennym, nodi ffynonellau data pellach a sicrhau bod modd cael gafael arnynt. Yn ddiweddar, cytunwyd ar drefniadau i gael gafael ar ddata ar y dreth gyngor a ddaw i law SYG.
  • Gweithio gyda SYG i ddefnyddio data gweinyddol ar effeithlonrwydd ynni.
  • Cyfrannu at grwpiau trawslywodraethol ar gyflwr tai, y defnydd o ddata gweinyddol a thlodi tanwydd.

Cysylltwch â ni drwy'r blwch post os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod. ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau misol ar weithgareddau'r GIG, gan gynnwys ein hallbynnau misol ar berfformiad a gweithgaredd y GIG, sy'n parhau i ddangos effaith y coronafeirws. Ymhlith yr adroddiadau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar mae gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG, mesurau gofal llygaid, amseroedd aros am apwyntiad cyntaf Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol.

Y chwarter hwn hefyd diweddarwyd gwahanol agweddau ar ofal sylfaenol ac iechyd cymunedol, gan gynnwys data ar y canlynol: camddefnyddio sylweddau, Rhaglen Plant Iach Cymru, bwydo ar y fron, gwasanaethau deintyddol GIG ac imiwneiddiadau plentyndod ac imiwneiddiadau ffliw. Hefyd gwnaethom gyhoeddi erthygl ystadegol yn edrych ar sut y gallai'r newidiadau i Arolwg Cenedlaethol Cymru fod wedi effeithio ar ganlyniadau ar gyfer ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiadau oedolion.

Hefyd, y chwarter hwn, rydym wedi cyhoeddi diweddariadau yn gysylltiedig â'r gweithlu gofal iechyd a staffio gofal iechyd gan gynnwys, staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, absenoldeb oherwydd salwch y GIG a gweithlu practis cyffredinol. Yn ogystal â data gofal cymdeithasol ar gofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal Iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ysatadegau.iechyd@llyw.cymru.

Ymchwil Data Gweinyddol

Y chwarter hwn dechreuwyd ar waith i ddatblygu'r rhaglen ymchwil ar gyfer cyfnod buddsoddi nesaf Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (Ebrill 2022 i fis Mawrth 2026) yn dilyn cadarnhau cyllid parhad o £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru.

Hefyd rydym wedi cyflwyno cynigion am gyllid ychwanegol i ehangu ein prosiect cysylltu data ffermio blaenllaw, Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol, ac ar gyfer prosiect newydd i adeiladu set ddata drawsbynciol sy'n barod ar gyfer ymchwil o ddata dangosyddion amddifadedd ar lefel yr unigolyn/cartref.

Rydym wedi parhau i gefnogi cyflenwi microddata Llywodraeth Cymru i Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw er mwyn i'r setiau data hyn gael eu defnyddio'n ddiogel gan ymchwilwyr at ddiben prosiectau dadansoddi data er budd y cyhoedd.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ADRUWales@llyw.cymru neu

UnedGwyddorData@llyw.cymru 

 

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Adrodd

Bydd arolwg dros y ffôn 2021-22 yn gorffen ddiwedd mis Mawrth, a byddwn yn cyhoeddi'r data a'r adroddiadau ar gyfer y flwyddyn gyfan ym mis Gorffennaf. Bydd hyn yn ymgorffori'r ymatebion o ganlyniadau cynnar mis Ebrill i fis Gorffennaf 2021, ac yn dychwelyd at gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gyfer y prif arolwg.

O fis Gorffennaf 2021 gwnaeth yr Arolwg Cenedlaethol gynnal cynllun peilot ar-lein yn cynnwys adran ar-lein ddilynol fer yn cynnwys cwestiynau wedi'u cynllunio i gael eu hunangwblhau neu sy'n sensitif. Bu'r cynllun peilot yn llwyddiannus a byddwn yn cyhoeddi canlyniadau sampl o 2,000 o ymatebwyr yn ddiweddarach eleni yn cwmpasu pynciau megis llesiant meddwl, atgyweirio ac ailgylchu, ymddygiadau newid hinsawdd, cosbi plant yn gorfforol, gamblo, a dinasyddiaeth fyd-eang.

Contract Arolwg Cenedlaethol 2023-24 ymlaen

Mae'r contract Arolwg Cenedlaethol â SYG yn dod i ben â gwaith maes 2022-23 ac felly mae'r tîm wedi bod yn brysur yn paratoi i gaffael contractiwr newydd o 2023-24 ymlaen. Ni fu penderfynu ar y cynllun gorau ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o hyn ymlaen yn syml, ond ystyriwn fod hyn yn gyfle i adolygu a diwygio cynllun a methodoleg yr Arolwg Cenedlaethol yn sgil datblygiadau diweddar yn y maes.

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am y cynllun arfaethedig a'r broses gaffael yn fuan, ond yn y cyfamser mae croeso ichi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Adolygu'r cynnwys

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn adolygu cynnwys yr Arolwg Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn dal i ddiwallu anghenion defnyddwyr yr arolwg ar gyfer y contract nesaf. Bydd hyn yn cynnwys adolygu pynciau craidd, pynciau iechyd, cwestiynau dangosyddion cenedlaethol, yr angen am ddata ar gydraddoldebau a phynciau eraill sy'n ailadrodd y ceir cytundebau ar eu cyfer. Caiff cytundebau ynghylch amlder pynciau a gaiff eu cynnwys yn yr arolwg eu diweddaru. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys yr Arolwg Cenedlaethol.

Cysylltwch â ni drwy flwch post yr Arolwg Cenedlaethol.

Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Rydym wedi symleiddio a diweddaru ein hadnodd cod post ac ardal fach (ACEHI) i dabl daearyddiaethau ar StatsCymru. Mae'r tablau cod post i ACEHI (ardal fach) a chod post i safle MALIC, ar eu newydd wedd, bellach yn cynnwys codau post newydd yng Nghymru.

Mae'r tabl ‘gwelwch ym mha grwpiau daearyddiaeth gwahanol mae Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is’ ar ei newydd wedd bellach yn cynnwys adnodd mapio ACEHI i glystyrau gofal sylfaenol. Mae hyn ar ben yr adnodd mapio ACEHI i ddaearyddiaethau eraill cyfanredol sydd eisoes yn y tabl e.e. Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, ACEHGau, Dosbarthiadau Anheddau Trefol Gwledig ac ati.

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALIC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglŷn â MALIC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o’r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu’ch rhwydwaith cysylltwch â ni i drafod hyn. Cynhaliwyd ein sesiynau cyntaf ar 4 Tachwedd ac 8 Rhagfyr 2021.

Cydraddoldeb

Gwnaethom gyhoeddi Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth: 2018 i 2020 ar 20 Ionawr 2022. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys diweddariadau i amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl ethnigrwydd, statws anabledd, crefydd a statws priodasol, ac maent i gyd ar gael ar StatsCymru. Daw'r data o dair blynedd o ddata Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth cyfunol. Bydd ein hamcangyfrifon chwarterol o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ôl ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol hefyd yn cael eu diweddaru nesaf ddechrau mis Mawrth.

Ym mis Rhagfyr 2021 cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon arbrofol o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr yn ôl grŵp ethnig a chrefydd. Cafodd yr amcangyfrifon hyn ar gyfer 2019 eu cynhyrchu drwy gyfuno data o dair blynedd o ddata cyfunol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Cyfrifiad 2011 ac amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth, ac ni ellir eu cymharu â'n hamcangyfrifon ni'n hunain o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ei hun.

Hefyd cyhoeddodd SYG Canlyniadau i bobl anabl yn y DU: 2021 sy'n cynnwys data wedi'u dadgyfuno ar gyfer Cymru mewn pump o'i saith maes dadansoddol: addysg, cyflogaeth, tai, llesiant a throsedd.

E-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Cydnabyddwn bwysigrwydd tystiolaeth ar gydraddoldeb wrth ddatblygu polisïau sy'n mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n aml wedi'u gwreiddio'n ddwfn sy'n cael effaith andwyol ar y rhai â nodweddion gwarchodedig. Er bod cryn dipyn o ddata ar gael, mae bylchau o ran manylder data ar leiafrifoedd a chroestoriadedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tair Uned wahanol, sydd â'u rhaglen dystiolaeth a'u harweinydd eu hunain.

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Bydd yr Unedau yn cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, a bydd ganddynt gynllun tystiolaeth strategol cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn yr un trywydd. Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol a chaiff ei rannu'n gyhoeddus yn haf 2022.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: EqualityEvidenceUnit@llyw.cymru

Diogelwch cymunedol

Caiff ein diweddariad Ystadegau achosion tân ac achub chwe-misol ei gyhoeddi ddechrau mis Mawrth.

Masnach

Arolwg Masnach Cymru

Gwnaeth gwaith maes trydydd Arolwg Masnach Cymru ddod i ben ym mis Rhagfyr 2021. Mae'r canlyniadau bellach yn cael eu dilysu a'u dadansoddi gan y contractiwr. Cyhoeddir y canlyniadau ym mis Mai 2022.

Rydym yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar yr arolwg, gan gynnwys profion arwyddocâd ychwanegol o'r canlyniadau cyhoeddedig ac ailbwysoli ymatebion i amcangyfrifon bwyd a diod y sector cynnyrch.

Hefyd cynhelir ymchwil ddilynol fanwl gyda busnesau a wnaeth gytuno y gellid ailgysylltu â nhw yn seiliedig ar eu hymatebion i Arolwg Masnach Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r atebion i'r cwestiynau Mode 5 a Rules of Origin.

Hefyd byddwn yn gweithio gyda'r contractiwr i gynllunio arbrawf bach ar ddefnyddio cymhellion lle mae wedi bod yn anodd ymgysylltu â busnesau mewn blynyddoedd blaenorol.

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru: Dangosfwrdd newydd

Bu'r tîm o Ddadansoddwyr Masnach yn lletya myfyriwr Lleoliad Meistr o bell sydd wedi datblygu dangosfwrdd newydd yn seiliedig ar ddata Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau CThEM. Caiff ei gyhoeddi ar dudalennau Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022.

Trafnidiaeth

Gwnaethom gyhoeddi bwletin ystadegol ar Droseddau Moduro yn 2020 ym mis Ionawr 2022 sy'n cynnwys data ar hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau yfed a gyrru neu gymryd cyffuriau a gyrru, a phrofion anadlu. Mae'n ystyried effaith cyfyngiadau COVID-19 ar droseddau moduro yn 2020.

Cafodd ein dangosfwrdd damweiniau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu ei gyhoeddi ar 10 Chwefror 2022 i gynnwys data mis Ionawr i fis Mehefin 2021. Mae'r dangosfwrdd hwn yn darparu darlun rhyngweithiol o'r wybodaeth am ddamweiniau ffyrdd wedi'i chofnodi gan yr heddlu.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch ag ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

 

Y Gymraeg

Arolwg Defnydd Iaith 2019-20

Ar 17 Chwefror, cyhoeddwyd data ar y Gymraeg yn y cartref ac mewn addysg o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2020). Mae'r dadansoddiad yn adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg yn y cartref a'r gydberthynas rhwng gallu siaradwyr Cymraeg a gallu eu rhieni. Hefyd mae'n adrodd ar bwy sydd wrthi'n dysgu'r iaith, iaith eu haddysg yn yr ysgol neu mewn addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal â gwybodaeth am y bobl hynny sydd wedi dysgu fel oedolion.

Dyma'r ail fwletin sy'n defnyddio data o'r arolwg. Cafodd y Canfyddiadau cychwynnol o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 eu cyhoeddi ar 14 Medi 2021. Diwygiwyd yr ystadegau ar 17 Chwefror yn sgil newid y fethodoleg a oedd yn cyfrifo canran y boblogaeth a allai siarad Cymraeg. Mae hyn wedi arwain at wneud diwygiad bach i ganran y boblogaeth 3 oed a throsodd a all siarad Cymraeg yn rhugl ar gyfer 2019-20, ac ambell ddiwygiad i'r data ar gyfer 2013-15. Adroddodd y canfyddiadau cychwynnol ar ba mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith, pa mor dda a ble y maent wedi'i dysgu. Roedd hefyd yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar y defnydd o'r Gymraeg.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhagor o waith dadansoddi ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned, yn y gweithle ac â gwasanaethau maes o law, gan gyfuno â data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle y bo'n berthnasol.

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Ar 27 Ionawr, cyhoeddwyd canlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth am y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn o Hydref 2020 i Fedi 2021.

Yn ôl yr arolwg, roedd 29.5% o'r bobl 3 oed a throsodd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (mae'r ffigur hwn yn cyfateb i tua 892,500 o bobl) yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi 2021.

Caiff y diweddariad nesaf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2021, ei gyhoeddi ar 31 Mawrth.

Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd tuag at wireddu'r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dechrau cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 o ddiwedd mis Mai eleni.

E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cafodd amcangyfrifon chwarterol gwastraff trefol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2021 eu cyhoeddi ar 22 Chwefror. Cyhoeddir data ar incymau ffermydd yn 2020-21 ar 17 Mawrth.

Trawsbynciol

Ar 2 Chwefror, cafodd fersiwn gyntaf yr archwiliwr dangosyddion is-genedlaethol ei chyhoeddi ar wefan SYG, yn dilyn lansio strategaeth data is-genedlaethol Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ym mis Rhagfyr. Gall yr adnodd rhyngweithiol hwn gael ei ddefnyddio i archwilio basged o ddangosyddion is-genedlaethol a chymharu awdurdodau lleol yn y DU. Mae'r holl ddata ar gael i'r cyhoedd eisoes a darperir dolenni i'r ffynonellau data gwreiddiol yn y set ddata ategol a'r lawrlwythiad data.

Poblogaeth a demograffeg

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd SYG ddata interim ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar sail 2020.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch Ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 03000 255050

Pwnc-benodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru