Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ganlyniad gwaith darganfod i ddatblygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) ar gyfer rhaglenni meddalwedd trydydd parti gyda’i system dreth ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diweddariad ar ganlyniad gwaith darganfod i ddatblygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) ar gyfer rhaglenni meddalwedd trydydd parti gyda’i system dreth ar-lein.

Fis Chwefror eleni, lansiwyd system dreth ddigidol newydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae tua 5,000 o ddefnyddwyr wedi’u cofrestru yn awr i ddefnyddio’r gwasanaeth ac mae tua 97 y cant o holl ffurflenni’r Dreth Trafodiadau Tir yn digwydd ar-lein.

Ers yr hydref diwethaf, rydym wedi gweithio gyda chyflenwyr meddalwedd trydydd parti i adolygu’r angen am Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API). Byddai’r API yn galluogi i geisiadau meddalwedd trydydd parti integreiddio gyda’n system dreth ar-lein.

Rydym wedi dadansoddi’r data o chwe mis cyntaf y gweithrediadau ac wedi cynnal prosiect darganfod llawn. Rydym wedi dod i’r casgliad nad yw'r API yn cynrychioli gwerth am arian ar yr adeg hon wrth gymharu cost a defnydd.

I baratoi ar gyfer 1 Ebrill (2018), buom yn gweithio’n galed i gyflwyno system dreth ddigidol bwrpasol, ddwyieithog a oedd yn ddibynadwy ac yn effeithiol.  Blaenoriaeth Awdurdod Cyllid Cymru o hyd yw cefnogi a chynnal gwasanaeth dibynadwy.

Rydym yn canolbwyntio yn awr ar fuddsoddi pellach mewn digidol, sy’n cefnogi newidiadau hanfodol i'r system dreth ar-lein bresennol. Hefyd mae’r Awdurdod yn gwneud rhagor o waith darganfod er mwyn helpu i wella'r system, yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid.

Rydym wedi ymrwymo i adolygu’r penderfyniad hwn ac wrth i’n haeddfedrwydd a’n gallu digidol ni gynyddu, byddwn yn ailystyried darparu API. Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ac rhaglenni meddalwedd trydydd parti er mwyn helpu i wneud llenwi ffurflenni'r Dreth Trafodiadau Tir mor syml â phosibl.

Rydym yn croesawu adborth. Anfonwch e-bost atom ni ar: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru.