Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n mynd rhagddo i helpu’r sector addysg uwch gyda’r heriau ariannol sy’n codi yn sgil COVID-19.
Dywedodd y Gweinidog:
“Gallaf gadarnhau bod y moratoriwm ar gynigion diamod yn parhau yng Nghymru tan 1 Mai. Mae gen i gydymdeimlad ag argymhellion Universities UK, gyda chefnogaeth Prifysgolion Cymru, am fesur dros dro i roi sefydlogrwydd o ran derbyn myfyrwyr israddedig ac i ail-strwythuro taliadau i sefydliadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae fy swyddogion, ynghyd â chydweithwyr yn CCAUC wedi bod yn gweithio’n galed yn craffu arnynt.
Yn ddiweddar fe ddarperais amcan dros dro i CCAUC o lefel y cyllid allai fod ar gael i’r sector eleni. Nawr rwy’ am symud ymlaen ar yr adeg gywir gyda phecyn o fesurau sy’n rhoi sicrwydd i fyfyrwyr, prifysgolion a’r gymuned addysg uwch yn ehangach.
Mae materion fel y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, fisas rhyngwladol a chymorth i fyfyrwyr yn gyfrifoldeb i bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i weithio ar fyrder o fewn Llywodraeth Cymru a gyda’r sector ehangach ar faterion o’r fath, ond byddwn hefyd yn parhau i weithio fel pedair cenedl ar faterion fel ymchwil a chyllid y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Rwy’n gobeithio medru symud ymlaen ar y materion hynny’n fuan.
Yn unol â hynny, rwy’n cymeradwyo’r angen am gyd-dasglu Gweinidogol i roi sylw i effaith Covid-19 ar y sylfaen ymchwil yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda’r Gweinidogion o bob un o’r pedair llywodraeth.”